[Mae’r erthygl hon hefyd ar gael ar ein tudalen Facebook]
UN ffaith drawiadol heddiw ydi dirywiad mawr y cyfryngau traddodiadol – o ran eu gwerthiant a’u dylanwad.
Ac mae saga coronavirus wedi prysuro’r broses hon, gyda gwerthiant y Daily Mail a’r Daily Mirror (ill dau yn boblogaidd yma yng Nghymru) i lawr 30% ers mis Mawrth.
Mae hyn yn ei dro yn creu cyfle i gyfryngau newydd, cynhenid Cymreig i lenwi’r bwlch.
Un fenter newydd o’r fath ydi ‘New Media Wales’, sy’n cael ei redeg gan Huw Marshall, cyn-bennaeth digidol gydag S4C.
Cyhoedda gwefan New Media Wales mai eu nod yw creu ‘gwasanaeth newyddion cynhwysfawr i Gymru.’
Maen nhw’n bwriadu rhedeg cynllun peilot am 12 mis, gyda fersiwn print a digidol law yn llaw gyda’i gilydd.
Y nod yw cyflogi 4 newyddiadurwr, gyda’u cyflog yn cael eu talu trwy gynllun tanysgrifio. Sonir hefyd bod hyd at 12 partner yn rhan o’r fenter newydd.
Hyd yma, dywedir bod tua 180 o unigolion wedi ymrwymo i dalu cyfanswm o £1,220 y mis.
Sydd yn galonogol iawn wrth gwrs, ond mae’n anodd gweld sut y gellid cyflogi 4 person ar gyn lleied o arian. Mae’n amlwg bydd angen llawer mwy o danysgrifwyr arnynt felly.
Dywedir ymhellach y bydd New Media Wales yn ‘niwtral yn wleidyddol’, ac yn herio a scriwtineiddio polisiau’r holl bleidiau Cymreig yn ystod yr ymgyrch ar gyfer Etholiad 2021.
Sydd eto’n newyddion da iawn, ac yn cynyddu’r gobeithion y bydd yna lawer mwy o sylw’n cael ei roi i hyn oll flwyddyn nesaf, ac y cawn ni’r etholiad mwyaf ‘llawn gwybodaeth’ a welwyd ers cychwyn Datganoli ugain mlynedd yn ol.
Ond efallai bod lle i fod yn wyliadwrus o’r disgrifiad o New Media Wales fel endid ‘niwtral’.
Mae Mr. Marshall wedi sefyll fel ymgeisydd i Blaid Cymru ar ddau achlysur yn y gorffennol, yng Nghaerdydd ac ym Mlaengarw.
Eisoes, mae ganddom ni un fenter newyddiadurol ‘Nation Cymru’ sydd yn hyrwyddwyr pybyr, bron yn unllygeidiog braidd ar ran y Blaid.
Byddai’n siomedig pe bai menter arall o’r un anian yn cael ei sefydlu, a fyddai hefyd yn cael ei ddefnyddio fel llwyfan ar gyfer un plaid yn unig.
Yr her i New Media Wales ydi profi y byddan nhw’n wrthrychol a theg wrth roi sylw i faterion Cymreig dros y cyfnod nesaf hwn.
Mae gan bawb sy’n meddwl buddsoddi ynddyn nhw yr hawl i dderbyn y sicrwydd meddwl hynny.