Adolygiad o ‘Hanes Cymry’

Yn wahanol iawn i Boris Johnson, prin fod Simon Brooks yn gweld ei hunan fel ail-ymgnawdoliad Winston Churchill am y cyfnod cyfoes. Eto mae uchelgais y gyfrol hon – ‘Hanes Cymry’ gydag ‘y’ ar y diwedd, sef hanes yr holl rai sy’n siarad Cymraeg – yn atgoffa rhywun o waith Churchill, “A History of the English Speaking Peoples” a gyhoeddwyd ym mhedair cyfrol y 50au.

Mae llyfr Brooks yn llai – un gyfrol swmpus, yn lle pedair – ond yn ffrwyth ymchwil yr un mor ddyfal, os nid mwy felly, mewn maes lle bod ymchwil gan eraill yn llawer prinnach.

Ond mae nôd Brooks yn dra gwahanol o’r hwn oedd gan Churchill. Ychydig o ddiddordeb, mae’n debyg, oedd gan Churchill yn y lliaws o bobl o wledydd eraill oedd wedi dysgu Saesneg, nag yn y rhai oedd wedi ymgartrefu tu fewn i ffiniau Lloegr ar ôl gwneud hynny. Mae Brooks, ar y llaw arall, yn ymddiddori yn y rhain yn fwy na neb arall. Mae o’n peri i’r darllennydd rhyfeddu am gymaint ohonyn nhw sydd wedi bod dros y canrifoedd, ac am beth fod hynny yn dweud am Gymru fel gwlad ac fel gwareiddiad.

Dim yr Wythfed Canrif Bellach

Mae Brooks yn dangos yn hollol argyhoeddiadol bod y ddarlun am y gymdeithas Gymraeg sy’n boblogaidd ymysg y rhai di-Gymraeg a’r Saeson – sef un ‘pur o dras’, gwyn, wedi gwneud i fyny dim ond o’r rhai sy’n deillio yn uniongyrchol o’r brodorion Prydeinig oedd yma adeg y Rhufeiniaid (“some kind of closed relic of the eighth century” yng ngeiriau Trevor Phillips, Cadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol[1]) – yn hollol ffals. I’r gwrthwyneb, mae pobl o drasau eraill wedi bod yn rhan o’r Gwareiddiad Cymraeg ers canrifoedd lawer, ac mae hyn yn rhywbeth sydd wedi cynyddu ers bod Prydain ei hunan wedi dod yn fwy aml-hiliol.

Ond mae ganddo fo bwynt tra phwysig i wneud, sy’n dod drosodd yn glir iawn wrth i’r hanes mynd yn ei flaen – sef, ‘arf cyfrinachol’ Cymru wrth gymathu pobl i’w mynwes yw’r iaith Gymraeg.

Mae hwn yn bwynt holl bwysig oherwydd ar derfyn dydd, y peth sy’n hollol unigryw am Gymru yn anad dim ydy ei hiaith. Felly, o leiaf am y rhan fwyaf o’n hanes hyd at ail hanner y 19eg Ganrif o leiaf, y gallu i siarad Cymraeg oedd y diffiniad o beth yw Cymro; a gan mai rhywbeth y gellid dysgu yw hyn yn hytrach na rhybeth cynhenid i dras neu hil, y canlyniad oedd gwareiddiad hynod o agored i bobl yn dod i’w mewn o du allan. Dim yn berffaith o ran hynny, bid siwr, ond eto’n hynod i gymharu â diwylliannau eraill. Dim ond ar ôl i ddirywiad y canran o siaradwyr Cymraeg cychwyn o ddifri, ar ôl Brad y Llyfrau Gleision, Deddf Addysg 1870 a’r ymfudo mawr o Loegr i’r meysydd glo a’r arfordiroedd, ddaru hyn newid. Fe ddaeth y presenoldeb o lawer iawn o’r di-Gymraeg o fewn ffiniau Cymru â’r angen i ffeindio ffyrdd newydd o ddiffinio beth oedd fod yn Gymro, gyda thras ac achau yn dod yn fwy bwysig nag oeddyn nhw o’r blaen.

Deallusion

Ond gwell peidio â rhuthro ymlaen. Mae Brooks yn ‘sgrifennu yn fanwl am ei bwnc, gydag enwau, dyddiadau, a thoreth o gyfeiriadau yng nghefn y gyfrol. Fel ei lyfr arall a adolygwyd ar y blog hwn, ‘Pam Na Fu Cymru’, nid llyfr hanes poblogaidd mo hwn: mae’r awdur yn glir ei fod o’n ‘sgrifennu am y “deallusion” ac mae’n cyfuno’r hanes ei hunan – pwy oedd y Cymry hyn a ddaeth o du allan i Gymru? – gyda llawer o ddeunydd mwy academaidd ac ystrydebol.

Tua dechreuad y llyfr mae’n gosod y cyd-testun wrth sylwi ar y ffordd fod pob trafodaeth o faterion sy’n ymwneud â hil a thras y dyddiau hyn yn y byd Eingl-Americanaidd y tueddu gael ei fframio yn nhermau Americanaidd, ac nad yw hyn yn berthnasol o gwbl yn hanes Cymru. Nes ymlaen, mae pennod hir a braidd yn sych (i mi) yn trafod y cwestiwn a yw’n ddilys i Gymry ystyried eu hunain fel rhai duon, yn gymaint â bod y ddau gymuned wedi profi gorthrwm wrth law y gwareiddiad Eingl-Americanaidd dros y canrifoedd. Mae’n dod i’r casgliad, yn ddoeth iawn, mai “nage” yw’r ateb i hynny. Ond erbyn diwedd y pennod, roedd cân Sobin a’r Smaeliaid ‘Gwlad y Rasta Gwyn’ wedi ymgartrefu yn fy mhen fel pryf glust go iawn.

Yr Hanes

Ond gwerth y llyfr hwn – ac mae’n llyfr gwerthfawr iawn – ydy’r stori o lawer iawn o bobl sydd wedi ymfudo i Gymru dros y canrifoedd a’u troi yn Gymry ‘dosbarth cyntaf’, waeth beth oedd eu tras neu lliw.

Y rhan fwyaf ohonyn nhw, rhaid dweud, yn Saeson, gan mai nhw ydy’r cenedl mwyaf ac agosach atom ni. Does dim angen meddwl am hir i ffeindio Cymry pybyr, gyda theyrngarwch angerddol tuag at yr wlad hon a’i hiaith a’r diwylliant, sydd ganddyn nhw cyfenwau Seisnig. Brooks, i dynnu un o’r awyr ar fympwy. Neu Wigley. Neu Ffransis. Neu Jobbins. Neu Higham. Er fod gennym ni syniad poblogaidd o Saeson fel rhai sy’n rhedeg o gwmpas y byd yn gorfodi pawb i siarad eu hiaith nhw, eto mae llawer ohonyn nhw dros y canrifoedd wedi cael eu goresgyn gan y Gymraeg. Yn fwy aml neu beidio, roedd hyn oherwydd bod dim dewis gan y rhai oedd am fyw yng Nghymru, am ba reswm bynnag, mewn oes pan oedd trwch y bobologaeth yn uniaith Cymraeg.

Ond mae Brooks yn rhestri llawer eraill hefyd. Llydawyr (y ‘Sioni Winwns’ oedd yn arfer teithio’r wlad), llawer iawn o Wyddelod, Iddewon, Eidalwyr a Sbaenwyr, Ffrancod ac Almaenwyr, Slofeniaid a Groegwyr. Rhai o’r Alban (er, yn ddiddorol, mae Brooks yn pwyntio allan y ffordd bod rhai tirfeddianwyr Seisnig wedi tueddu i fewnfudo Albanwyr i wneud eu ‘gwaith budr’, gan eu bod nhw’n llai tebyg na Saeson i droi’n frodor – roedd hyn yn f’atgoffa o’r ffordd oedd y szlachta yng Ngwlad Pwyl yn arfer defnyddio Almaenwyr ac Iddewon i gadw y Pwyliad cyffredin yn eu lle).

Y Du a’r Melynddu

John Ystumllyn, 1754

Ond yn ein oes trybledig ni lle bod lliw croen yn ymddangos yn fwy bwysig nag ei bod ers rhai degawdau, bydd llawer o bobl yn dod at y llyfr hwn i ddysgu am y rhai o’r tu allan i Orllewin Ewrop, ac yn enwedig o Affrica, India ac Asia, sydd wedi dod yn rhan o genedl y Cymry.

‘Dyw’r niferoedd yn fawr, ond does dim dwywaith eu bod yn bresennol o ddyddiau cynnar. Ymysg y rhai cyntaf oedd John Ystumllyn (~1730- ~1790) a daeth i Gymru o India’r Gorllewin fel caethwas pan yn blentyn ond a weithiodd yn amryw tai mawrion ardaloedd Eifionydd ac Ardudwy. Priododd â merch lleol, Margaret Gruffydd o Drawsfynydd, a gawsent blant a ymgartrefodd yn ardal Llandwrog. Un arall y gwyddom ni ei enw oedd Francis Nuttar (~1765 – 1791) a weithiodd yn un o fwyngloddau Llanarmon-yn-Iâl, ger Wrecsam, priododd a merch lleol, a daeth yn aelod amlwg o’r capel Methodistaidd yno adeg y Diwygiad. Erbyn y 19eg Ganrif, darllenwn am Gymry duon ym Mhwllheli, Merthyr Tudful, Cwm Cynon, Tredegar, Cwm Rhondda, Resolfen a (‘nôl yn y Gogledd) Dyffryn Nantlle.

Gwaetha’r modd, ni ellir honni fod brofiad y rhai hyn yn hollol rydd o ragfarn hiliol. Daw enwau rhai ohynyn nhw i’n sylw fel canlyniad uniongyrchol o’u profiadau ohono. Er enghraiift, clywem am William Tuckett o Resolfen, a ddaeth i Gymru o New Brunswick yng Nghanada, yn cael ei ddedfrydu i garchar ym 1910 am daro dynes a’i ddifenwodd (yn Saesneg) am ei liw.

Eto mae’n glir fod nifer sylweddol o bobl duon wedi setlo yn rhannau o Gymru Cymraeg eu hiaith, dysgu Cymraeg eu hunain, a dod yn rhan o’r gymdeithas, yn bell cyn i genhedlaeth y Windrush cyrraedd.

Am bobl o rannau eraill o’r byd, roedd Doctor o Sri Lanka yn gweithio ymysg cleifion Cymraeg yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac eraill o’r India yn gweithio ar yr un pryd yn Ferndale a Treherbert. Mae Tsieiniaid yn anoddach i’w canfod yn y boblogaeth tan yn gymharol ddiweddar, ond roedd dynes yn Rhosllanerchrugog ger Wrecsam, Nan Chung – merch i berchennog golchdy Tsieiniaidd – yn siarad Cymraeg yno rhwng y ddau rhyfel byd.

Rachael Hearne

Cymunedau amlieithog

Mae pennod diddorol tu hwnt tua diwedd y llyfr yn ymwneud â’r ‘Kååle’ (neu weithiau ‘Kale’ – ystyr y gair ydy ‘du’), sef y Sipsiwn Cymraeg a lwyddodd i gadw eu hiaith eu hunain yn fyw yn eu plith nhw am ganrifoedd lawer, tra ar yr un pryd yn bod yn rhugl yn y Gymraeg. Fe lwyddodd y Kååle Cymreig i gadw eu hiaith Romani am lawer mwy o amser na’u cefnderoedd yn Lloegr. Mae Brooks yn rhoi hyn fel enghraifft o sut bod Cymru wedi cynnal mwy nag un iaith ‘brodorol’ tu fewn i’w ffiniau, ac nad yw bod yn Gymraeg yn angenrheidiol yn beth sy’n gwthio allan pob hunaniaeth arall.

Mae hyn yn bwynt mwy bwysig nag sydd yn ymddangos ar y golwg cyntaf, efallai. Ond mae llawer o bobl yn gymryd yn ganiataol mai dim ond ieithoedd ‘bydol’ fel Saesneg sydd ganddyn nhw y gallu i ‘letya’ cymunedau eraill yn eu plith, ac felly maen nhw yn naturiol yn fwy agored a llai rhagfarnllyd na grwpiau ieithyddol llai fel y Gymraeg. Mae Brooks yn dangos yn glir fod y ffasiwn syniad yn hollol anghywir.

 

 

Yr Eironi Mawr

Ond fel y crybwyllwyd yn gynt, rhywbeth sydd hefyd yn dod drosodd yn y llyfr ydy pa faint mwy anodd mae hi wedi dod i Gymru cymathu mewnfudwyr i’w bron ers i gymaint o’r wlad troi’n Saesneg ei hiaith. Pan nad yw’r iaith ar gael i ddiffinio pwy ydy Cymro a phwy sydd ddim, mae pethau eraill fel hanes teulu, teimlad o ‘berthyn’ i rywle arbennig, a bod yn rhan o gymuned agos, yn tueddu cymryd ei le. Ac i rywun sydd yn dod i fewn o’r tu allan, mae’r pethau hyn yn gallu bod yn llawer anoddach i gymryd gafael arnynt.

Yr eironi mawr, felly, ydy’r ffaith mai’r peth oedd i fod i agor Cymru i fyny i’r byd – sef defnydd eang o’r iaith Saesneg – wedi cael yr effaith hollol gwrthwyneb i hynny ym ymarferol. ‘Cyfraith canlyniadau anfwriadol’ yn taro unwaith eto ar lawr gwlad.

Ymateb Gwlad

Ar ran Gwlad rwy’n croesawu’r gyfrol hon yn fawr iawn. Ers ein cychwyn cyntaf, rydan ni wedi dweud ar yr naill ochr ein bod ni am weld Cymru yn wlad rhydd sy’n agored i’r byd, ac ar yr ochr arall am weld diwylliant unigryw Cymru – a’i hiaith yn enwedig – yn ffynnu ac yn tyfu. Mae’r llyfr hwn yn rhoi tystiolaeth clir nad oes unrhyw gwrthgyferbyniad rhwng y ddau.

Rydan ni wedi gosod allan ein gweledigaeth ni am groesawu pobl o bob tras i fewn i Gymru mewn amryw erthyglau eraill yn y tudalennau hyn – yma, yma ac yma er enghraifft – tra yn mynnu eu bod nhw’n troi yn Gymry yn yr ystyr llawnaf ac nid yn unig yn ‘Brydeinwyr’. Does dim ffordd gwell o gyflawni hynny na rhoi pob cyfle a chalondid iddyn nhw ddysgu Cymraeg, a byddan ni’n parhau i ymgyrchu am hyn ar bob lefel.

Mae Brooks wedi ‘sgrifennu campwaith yma. Mae llawer iawn mwy ynddo nag yr ydw i wedi sôn amdano yma, hyd yn oed – dylanwad cenhadon Cymraeg yn ynysoedd y Môr Tawel, profiad cymunedau Cymraeg yn Lloegr: pob math o bethau. Fel y dywedais i wrth gychwyn, nid llyfr bwrdd coffi mo hwn – mae darllen o yn cymryd dipyn o ymroddiad, bid siwr – ond mae’n werthfawr tu hwnt, ac yn rhoi gobaith o beth all fod mewn Cymru annibynol sy’n cymryd y pethau hyn o ddifri.

[1] I fod yn deg i Trevor Phillips – sydd ymhlith y pobl mwyaf hirben ar y pwnc hwn yn gyffredinol – nid disgrifiad o bethau fel y mae mo hwn, ond rhybudd o sut na ddylai pethau mynd.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *