Angen Atebion Ar Fyrder

[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar Facebook]

MAE angen Comisiwn fedr gyflwyno mesurau newydd i ddiogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Dyna brif alwad yr Academydd Simon Brooks mewn adroddiad arbennig am y broblem ail-gartrefi yng Nghymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dywed yr awdur bod angen gweithredu ar frys gan fod y sefyllfa yn y Gymru wledig yn gwaethygu eto fyth yn wyneb heriau Brexit a Covid a’u holl sgil-effeithiau.

‘Mae holl ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol yn y fantol bellach’ meddai.

Ceir 12 argymhelliad yn yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys gwneud defnydd o bwerau trethiannol lleol i godi premiwm Treth Cyngor ar ail-gartrefi a chyflwyno Treth Gweithrediad Tir.

Gelwir hefyd am gymal ‘newid defnydd’ newydd i’w gyflwyno mewn rhai cymunedau a fyddai’n rhwystro colli mwy o’r stoc dai lleol i ail-gartrefi.

Ond pwysleisir mai amrywiadau lleol o fewn fframwaith genedlaethol sydd ei angen er mwyn delio gyda’r 24,000 o ail-gartrefi presennol yng Nghymru.

A hynny oherwydd y pendilio mawr a welir rhwng y 4,900 o ail-gartrefi yng Ngwynedd i’r 0 a welir ym Mlaenau Gwent.

Gydag amrywiad pellach o fewn siroedd dan bwysau hefyd, gyda 40% o dai yn ail-gartrefi yn Llanengan ond dim ond 1% ym Methesda.

Dywed yr awdur bod cyfiawnhad dros ymyrraeth bolisi neilltuol yn y maes oherwydd yr anghyfiawnder sylfaenol ynghlwm wrth sefyllfa lle bo prisiau uchel yn sgil galw am ail-gartrefi yn cloi Cymry lleol allan o’r farchnad dai.

A’r seisnigo presennol a’r seisnigo i’r dyfodol gydag ail-gartrefi ac effaith hynny ar hyfywedd yr iaith ar lefel gymunedol hefyd yn anghyfiawnder sylfaenol sy’n gwarantu ymyrriad strategol a bwriadus.

Ond mae’r adroddiad yn cydnabod nad mater hawdd fydd ymyrraeth o’r fath o gofio fod hawliau eiddo preifat yn cael eu diogleu o dan y Confensiwn Ewropeaidd Dros Iawnderau Dynol.

Ac fe gydnabyddir hefyd mai prisiau tai yn aml yw unig sail cyfoeth llawer o Gymry mewn ardaloedd gwledig gan fod yr economi mor swrth yno.

Eto i gyd, cyfeirir at sefyllfaoedd mewn mannau eraill ym Mhrydain (e.e Cernyw) ble mae ymyrraeth polisi wedi digwydd i warchod buddiannnau pobol leol yn y farchnad dai.

Prif alwad yr adroddiad yw am Gomisiwn fedr gyflwyno mesurau er mwyn ‘gwarchod, diogelu a meithrin yr iaith fel iaith gymunedol’ yn wyneb problem ail-gartrefi.

Croesawyd yr adroddiad gan Gwlad, fel cyfraniad eithriadol o bwysig at y sefyllfa ail-gartrefi a thai yn gyffredinol.

‘Mi fydden ni’n cytuno ei bod hi’ n sefyllfa argyfyngus ar hyn o bryd a bod rhaid wrth atebion gwahanol’ meddai llefarydd ar eu rhan.

‘Yn ein barn ni, bydd y sefyllfa dai yn un o’r prif faterion yn yr etholiad ym Mis Mai, ac mae’n amserol iawn felly fod ganddon ni fel plaid sawl polisi newydd i’w cyflwyno i’r etholwyr’.

Dywedodd mai un ohonynt oedd system drwyddedu gydag ail-gartrefi, a fyddai’n golygu gwrthod caniatau unrhyw drwyddedau newydd os yw unrhyw ward yn mynd y tu hwnt i drothwy o 5% o ail-gartrefi ynddynt.

Mae’r blaid hefyd am weld gosod premiwm treth Cyngor o 500% ar ail-gartrefi gyda’r arian a godir yn cael ei ail-gyfeirio i godi tai newydd at anghenion lleol.

Ond eironi greulon y sefyllfa bresennol yw ei bod hi’n ymddangos bod digwyddiadau eisoes yn goddiweddyd yr adroddiad hwn am broblemau ail-gartrefi.

Gyda tystiolaeth gynyddol o ddieithriaid yn prynu cartrefi cyntaf yn yr ardaloedd gwledig yn sgil y pwyslais newydd ar weithio gartref.

Yn ystod y misoedd diwethaf er enghraifft, mae prisiau tai yn rhai ardaloedd o siroedd Conwy a Dinbych wedi cynyddu 88%, Ceredigion 83%, a Phenfro 73% yn dilyn ymchwydd yn nifer yr ymholiadau am dai o dros y ffin.

Bydd angen i’r pleidiau cenedlaetholgar, Gwlad, Propel a Plaid feddwl yn galed am atebion i’r argyfwng hwn, nid yn unig ar gyfer yr etholiad ond ar gyfer y blynyddoedd i ddod hefyd.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.