Ar Draws yr Iwerydd

DDOE (Gorffennaf 4), roedd hi’n ddiwrnod  dathlu Annibyniaeth America ac fe gafwyd tipyn o sbloet gwladgarol i ddathlu’r achlysur eleni a dweud y lleiaf.

Byddai llawer yn dweud mai dylanwad digon difaol a fu America dros flynyddoedd mawr, a hithau wedi ymyrryd yn filwrol mewn cymaint o wledydd a thywallt cymaint o waed yn y broses. A bod hynny wastad yn taflu cysgod dros y dathliadau hyn.

Byddai eraill wedyn yn teimlo fod yr holl sioe ddoe yn enghraifft  berffaith o natur rodresgar America ei hun,heb son am gymeriad bostfawr ei harlywydd presennol!

Dathliad o botensial gwlad i’r dyfodol

Ond wedyn, diwrnod annibyniaeth ydi diwrnod annibyniaeth beth bynnag fo hanes unrhyw wlad. Uwchlaw popeth, mae’n ddathliad o’r potensial sydd gan unrhyw wlad a’i phobol i’r dyfodol. Diwrnod ar gyfer gwlad yn ei chyfanrwydd y tu hwnt i unrhyw wleidyddiaeth bleidiol.

Eleni, penderfynodd y cyfryngau priflif, CNN, ABC, NBC ayb i anwybyddu’r dathliadau yn llwyr gan wrthod dangos unrhyw luniau cymaint yw eu gwrthwynebiad i’r Arlwydd.  Nid fod hynny’n ormod o broblem a dweud y gwir o gofio fod gwylwyr y cyfryngau priflif yn plymio (CNN wedi colli 33% o’u gwylwyr eleni) a chymaint o Youtubers wedi darlledu’r digwyddiad ar eu sianelau eu hunain beth bynnag.

16 o lofnodwyr y Datganiad o dras Cymreig

Wrth i America ddathlu ei phenblwydd yn 243 oed ddoe, mae’n werth cofio  mai Cymry oedd y grwp ethnig mwya niferus ar y Datganiad o Annibyniaeth a arwyddwyd yn Philadelphia gan y 13 talaith wreiddiol ar Orffennaf 4, 1776.

Roedd dim llai nag 16 o’r llofnodwyr o dras Cymreig gyda theulu un o’r Arlywyddion cyntaf, Thomas Jefferson hefyd wrth gwrs yn hannu o Eryri.

Roedd hyn oll fel pe bai mwy o arwyddocad iddo eleni o gofio fod yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru wedi datblygu cymaint dros y 18 mis diwethaf ac yn codi stem cynyddol eleni.

Yr wythnos hon, pleidleisiodd yr 8ed Cyngor lleol o blaid annibyniaeth.  Gan ddilyn esiampl Machynlleth, Porthmadog, Ffestiniog, Nefyn, Trawsfynydd, Bethesda, Llanymstumdwy, Llanuwchllyn pleidleisiodd Cyngor Tref Caernarfon o blaid annibyniaeth yr wythnos hon.

Datganiad Cyngor Tref yn briodol iawn

Roedd hynny’n briodol iawn mewn ffordd o gofio ei bod bron 50 mlynedd i’r diwrnod ers Arwisgo Charles Windsor yn y dref yn  1969.

Gyda phenderfyniad y cyngor tref yn gwned yn iawn hefyd  am yr embaras o weld Maer Plaid Cymru y dref yn yn cyhoeddi ei fod yn  “siomedig” na fyddai “Prince Charles” ddim yn  ymweld a’r dref ar ei ymweliad gyda Chymru yr wythnos hon.

Roedd cyhoeddiad Cyngor Tref Caernarfon hefyd yn arwyddcaol gan fod yr Ail Orymdaith dros annibyniaeth i’w chynnal yn y dref ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 27ain.

Y tro hwn, mae’r trefnwyr wedi penderfynu na fydd cynrychiolwyr o’r pleidiau gwleidyddol yn siarad ar yr orymdaith gyda’r pwyslais wedi ei osod ar fynegiannau diwylliannol o annibyniaeth.

Ond bydd cyfle i’r sawl sydd yn awchu am fwy o gig gwleidyddol fynychu Fforwm Trafod sydd i’w chynnal yn dilyn yr orymdaith o’r enw  “Llunio Llwybr Ar Gyfer Annibyniaeth“. Mae gwahoddiadau wedi’u hestyn i’r dair plaid pro-annibyniaeth i Gymru, sef Plaid Cymru, Cymru Sofran a GWLAD, i’r digwyddiad hwn yng nghlwb Copa yn y dref.

Llunio llwybr tuag  at annibyniaeth

Y bwriad yw trafod sut y gellid symud yn ymarferol tuag at annibyniaeth dros y blynyddoedd nesaf a macsimeiddio’r bleidlais pro-annibyniaeth mewn gwahanol ardaloedd ar gyfer Etholiad Cymru yn 2021.

Y gobaith yw y gallai osod y seiliau ar gyfer creu Confensiwn Annibyniaeth a fyddai’n cynnwys yr holl bleidiau a grwpiau dros annibyniaeth i Gymru. Bu Confensiwn o’r fath mewn bodolaeth yn yr Alban ers rhai blynyddoedd ac mae hwn wedi chwarae rhan bwysig yng nghryfder yr achos annibyniaeth yno.

Byddai hefyd yn fynegiant pellach o eiriau doeth Thomas Jefferson am yr angenrheidrwydd i feithrin ysbryd o wrthryfel mewn pob gwlad o dro i dro.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.