(Erthygl Gymraeg: we suggest Bing Translate for translation)
[Ymddangosodd yr erthygl hon yn y lle cyntaf ar ein tudalen Facebook].
MAE bron i 10,000 o bobol wedi arwyddo deiseb i greu cyfraith i ddiogelu enwau Cymraeg yng Nghymru.
Bydd y ddeiseb, sydd wedi ei chychwyn gan Robin Aled Davies, bellach yn cael ei thrafod yn y Senedd (wrth iddi groesi trothwy o 5,000 o enwau).
Mae’r ddeiseb yn tynnu sylw at yr arfer cynyddol o ddileu enwau Cymraeg ar dai gan fewn-ddyfodiaid sy’n symud i fyw yng Nghymru.
Er mai dim ond ers ychydig o ddyddiau mae’r ddeiseb yn ei lle – mae 9,500 eisoes wedi ei harwyddo.
Fe gafodd y syniad, o greu cyfraith i sicrhau y byddai enwau tai Cymraeg yn cael eu gwarchod, ei thrafod yn y Cynulliad yn 2017.
Ond bryd hynny, fe gafodd ei wrthod a hynny wedi i’r Gweinidog Diwylliant Ken Skates ddatgan y byddai’n ‘rhy ddrud’.
Y tro hwn, does ond gobeithio y bydd yr aelodau yn gweld ymhellach na hynny, a sylweddoli nad oes modd gosod pris ar ein hetifeddiaeth fel cenedl.
Mae’r enwau tai hyn yn drysorfa o’n holl ddiwylliant geiriol cyfoethog dros gannoedd o flynyddoedd.
A’r gwir amdani ydi bod cael cyfraith bwrpasol yn ei le yn bwysicach nag erioed heddiw o gofio fod gwerthwyr tai yn datgan eu bod bellach yn cael mwy o ymholiadau am dai yng Nghymru gan bobl dros y ffin nag a welwyd ers tro byd.
Efallai y talai i’r 60 o aelodau yn y Senedd – sy’n ennill cyflog bras yn seiliedig ar y ffaith fod Cymru’n genedl- ddwyn geiriau proffwydol y bardd Taliesin o’r Hen Ogledd am y Cymry yn y 6ed ganrif i gof:
‘A’u hiaith a gadwant’