Blwyddyn lawr y lein……

Cyhoeddwyd yr erthygl hon, gan Aled Gwyn Jôb,  yn wreiddiol ar hen Borth Newyddion Ein Gwlad ar 23fed Awst 2019.

 

BRON union flwyddyn yn ol, sefydlwyd plaid wleidyddol pro-annibyniaeth newydd i Gymru.

Wedi blwyddyn o fodolaeth ers y lansiad swyddogol hwnnw yn Llanelli ar Awst 27, 2018, mae’n gyfle i fwrw golwg yn ôl dros  hynt a helynt GWLAD, GWLAD dros y 12 mis diwethaf.

Mae’n debyg mai’r peth cyntaf i’w ddweud ydi bod y blaid yn dal yn ei lle, er gwaetha’r holl ddarogan cychwynnol mai tan siafins yn unig oedd yma ac y byddai’n chwythu’i phlwc yn ddigon sydyn.

Yma o hyd er gwaetha’ pawb a phopeth!

Yma o hyd hefyd er cymaint yr ymdrechion gan rai ar y ‘peiriant porthi poer’ (Twitter) i gyhoeddi bod y ‘dde eithaf’ wedi cyrraedd Cymru, gyda rhai’n mynd mor bell a dweud bod ffasgaeth bellach yn ein plith.

Tipyn o syndod  a dweud y lleiaf oedd clywed y ffasiwn gyhuddiadau, yn enwedig o feddwl fod gan GWLAD, GWLAD ddau bregethwr lleyg ar y pwyllgor llywio!

Ond dyna ni, does dim pall ar wallgofrwydd y chwith cyfoes heddiw sy’ fel petaen nhw’n benderfynol o lusgo ieithwedd rhyfel diwylliannol Yr Unol Daleithiau a  holl giamocs y mudiad Antifa i briffrwd gwleidyddiaeth Cymru doed a ddelo.

Heb fod unrhyw sail na rheswm i wneud hynny o gwbl gan na fu ffasgaeth erioed yn elfen yng ngwleidyddiaeth Cymru nac yn debyg o fod ychwaith o ystyried natur a chymeriad y Cymry.

Gwthio ieithwedd rhyfel diwylliannol America ar Gymru

Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwelwyd nifer o gamau arwyddocaol yn natblygiad y blaid newydd megis lansio’r llyfr ‘Gwlad! Gwlad? – An Invitation To A Party’ yn adrodd hanes sefydlu GWLAD (Tachwedd 2018), cofrestru’r blaid yn swyddogol gyda’r Comisiwn Etholiadol (Chwefror 2019) cyhoeddi’r maniffesto cyntaf (Mai 2019), a dewis rhai o’r ymgeisyddion cyntaf ar gyfer Etholiad Cymru 2021 (Mehefin 2019).

Ond falle mai’r datblygiad pwysicaf yn hanes GWLAD dros y flwyddyn cyntaf, oedd cychwyn y Porth Newyddion (Tachwedd 2018)– yn cyhoeddi straeon ac erthyglau newyddion am Gymru pob diwrnod.

Creu narratif wleidyddol trwy drafodaeth ar-lein

Gyda’r golygyddion yn ymateb i straeon y naill a’r llall ac ymateb y darllenwyr hefyd wrth i’r misoedd fynd heibio a hynny’n fodd i grefftio narratif wleidyddol fyw ar gyfer y blaid.

Mae hwnnw dal i esblygu wrth gwrs, ond mae’n ymddangos y bydd GWLAD yn cyflwyno’u hunain i bobol Cymru fel blaid “c” fach ac “C” fawr ar yr un gwynt.

Yr c fach yn sefyll dros bolisiau call a chredadwy, gyda’r c hefyd yn sefyll dros y geidwadaeth gydag “c fach” honno sydd wastad wedi nodweddu elfennau o fywyd y Gymru Gymraeg a’r Gymru Di-Gymraeg fel ei gilydd ar hyd y blynyddoedd.

Lle reit strategol i fod o gofio fod y pendil yn symud i’r cyfeiriad hwnnw’n gyffredinol yn y byd gorllewinol wedi cenhedlaeth a mwy o ddomiwnyddiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol y chwith.

Yr C fawr wedyn yn dynodi natur cenedlaetholgar diamod GWLAD a’r pwyslais clir ar Annibyniaeth i Gymru. Sydd eto’n le strategol gall i fod ynddo yn dilyn gadael yr  Undeb Ewropeaidd.

Ond blwyddyn lawr y lein, byddai rhai dal i ddweud mai breuddwyd gwrach ydi meddwl y gall plaid newydd o’r math hwn wneud unrhyw argraff o gwbwl mewn difri.

‘Ylwch ar Blaid Cymru’ meddai rhain. ‘Maen nhw mewn bodolaeth ers 94 o flynyddoedd a dim ond ychydig dros 10% o’r rheiny sy’n trafferthu i fwrw pleidlais yma sy’n fotio iddyn nhw’!”Pa obaith sydd yna i unrhyw blaid newydd yn wyneb hynny”?!

Pwynt digon teg a does dim modd diystyru’r ddadl honno yn llwyr, yn enwedig o gofio pa mor ddi-symud a di-fflach fu gwleidyddiaeth Cymru cyhyd.

Ond wedyn, mi rydan ni’n byw mewn cyfnod eithriadol iawn ar hyn o bryd, pan fo’r tirwedd gwleidyddol wedi symud mor rhyfeddol sydyn ac yn parhau i symud o ddydd i ddydd o hyd.

Y momentwm i gyd gan YES Cymru

Mae Brexit yn rhan greiddiol o hyn i gyd wrth gwrs, law yn llaw gyda thwf rhyfeddol YES Cymru, sydd wedi ennyn cymaint o gefnogaeth a  denu  cymaint o egni pobol sy’n wleidyddol effro heddiw.

Ydi Twf YES Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi tynnu’r gwynt o hwyliau GWLAD eleni i ryw raddau felly?

Ar un ystyr, do. Gan YES Cymru y mae’r holl fomentwm ar y funud yn ddi-os. Maen nhw wedi gallu manteisio hefyd ar y dirmyg mawr sydd gan bobol Cymru at wleidyddion o bob plaid heddiw mewn difrif.

Gan roi’r pwyslais ar adeiladu symudiad sifig dros annibyniaeth sydd yn gwbwl rydd o’r prosesau gwleidyddol arferol.

Bron nad oes modd ei gyffelybu ar un ystyr i  ddiwygiadau mawr y 18ed ganrif yng Nghymru, gyda phobol isio creu rhywbeth newydd y cwbl y tu hwnt i’r Eglwys Wladol oedd mor fethedig  ac mor bwdr ar y pryd.

Ond wedyn, mae yna rinwedd mewn bod yn amyneddgar. Ac yn ddisgwylgar hefyd.

Wedi’r cyfan, pan ddaw hi’n etholiad yn 2021, bydd yr holl filoedd sydd wedi eu swyno gan neges YC yn gorfod dibynnu ar gerbyd gwleidyddol o ryw fath i fynegi eu dyheadau am annibyniaeth.

Ddaw Annibyniaeth ddim trwy orymdeithiau ac areithiau gan gasgliad o ser y cyfryngau a bywyd cyhoeddus Cymru, er mor bwysig yw’r gorymdeithiau o ran cynnau diddordeb.

Dim ond trwy ennill grym gwleidyddol y daw hynny, gan gychwyn yn  y blwch pleidleisio yn 2021.

Pwy sydd i ddweud na all GWLAD fel plaid wleidyddol newydd gyda dim ‘baggage’ o’r gorffennol, heb ryfel cartref gwenwynllyd wedi  ei meddiannu fel  ag a welir yn y blaid genedlaethol arall, a gweledigaeth wahanol ar gyfer Cymru ddenu carfan o’r bobol hyn?

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *