[Mae’r erthygl hon hefyd ar gael ar ein tudalen Facebook]
MAE bwriad cyffrous i roi cyfle i bobol leol drafod holl effeithiau twristiaeth ar Gymru heddiw.
Y syniad yw cynnal fforwm agored ar y pwnc ddiwedd mis Medi, gyda’r sylw yn cael ei hoelio ar Ynys Mon yn benodol-gan fod cymaint o bwysau ar yr ynys o du twristiaeth ar hyn o bryd.
Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar y cyd rhwng GWLAD a Rhwydwaith Gwydn, sy’n arbenigo ar ddull newydd o drafod materion cyfoes, sef ‘Deliberative Democracy’.
‘Trafodwn’ yw’r enw Cymraeg arno: i adlewyrchu’r syniad creiddiol o dynnu pobol ynghyd i gael hyd i atebion newydd i broblemau heddiw.
“Fe drefnon ni ddigwyddiad fel hyn yng Ngheredigion ym mis Mehefin o dan y teitl ‘Bwyd, Tir a Ffermio’, gyda 155 o bobol yn cymryd rhan” meddai Vicky Moeller o Rhwydwaith Gwydn.
“Cawson bobol o wahanol safbwyntiau i ddod ynghyd i drafod y pwnc, ac fe roedd yn llwyddiant mawr. Cytunwyd ar 14 argymhelliad terfynol ar y pwnc i’w cyflwyno i Gyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru”.
Dywedodd mai holl syniad ‘Trafodwn’ yw symud i ffwrdd o’r model gwrthwynebol (‘adversarial’) gwleidyddol presennol, tuag at fodel o bobol gyffredin yn dod ynghyd mewn ewyllys da i drafod materion o bwys.
“Gyda mater twristiaeth ar Ynys Mon, y syniad yw cael nifer o siaradwyr yn cyflwyno safbwyntiau gwahanol. Yna byddai grwpiau yn eu trafod a cheisio dod o hyd i atebion i un cwestiwn penodol, e.e’ Sut allwn ni reoli twristiaeth yn well er lles y gymuned leol’.
“Y syniad sylfaenol yw ymddiried yn y broses o gyd-drafod gyda’n gilydd a dibynnu ar ‘ddoethineb y dorf’ (hive wisdom) i ymddangos.
“Byddwn hefyd yn ceisio cael ‘buy-in’ i’r broses gan yr awdurdod lleol a rhai cynghorau chymuned a thref lleol”.
Y gobaith yw y bydd yr atebion a gesglir ar sefyllfa Ynys Mon hefyd yn berthnasol i weddill y Gymru wledig.
Dywedodd llefarydd ar ran GWLAD bod y model ‘Trafodwn’ yn ffordd arloesol o ddenu mwy o bobol i’r holl broses o drafod materion cyhoeddus pwysig.
“Mae’n amlwg y bydd twristiaeth yn bwnc llosg yn Etholiad Cymru yn 2021, ac mi rydan ni’n falch iawn o gael y cyfle i fod yn rhan o’r broses o geisio cael hyd i atebion i’r holl broblemau ynghlwm wrth dwristiaeth – a rheiny’n atebion yn codi o’r gymuned leol” meddai.
Bydd mwy o fanylion am y digwyddiad yn cael eu rhyddhau dros yr wythnosau nesaf.