Camu o’r rhithfyd i’r cigfyd

GYDA’R diddordeb cynyddol mewn annibyniaeth i Gymru, mae yna newid pendant i’w synhwyro yn y gwynt yma bellach.

Mae dyn yn cael yr argraff bod y datblygiadau hyn yn mynd i newid y tirlun gwleidyddol Cymreig y tu hwnt i’ unrhyw beth y gall rhywun ei ddychmygu ar hyn o bryd.

A gyda thirlun newydd, diau y bydd angen chwarewyr newydd ar gyfer hynny hefyd.

Ac yn Etholiad Cymru 2021, am y tro cyntaf erioed, bydd gan etholwyr Cymru ddewis arall os ydyn nhw am weld annibyniaeth i Gymru, sef y blaid wleidyddol newydd GWLAD, GWLAD.

Wedi blwyddyn o sefydlu presenoldeb ar y we trwy gyfrwng porth newyddion, Trydar a Facebook, mae GWLAD nawr yn paratoi ar gyfer cyflwyno’u neges yn uniongyrchol i bobol Cymru mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.

A’r wythnos hon, recordiwyd cyfweliad yn yr Eisteddfod Genedlaethol gydag arweinydd GWLAD, sef Gwyn Wigley Evans o Landdeiniol.

1. Rhowch wybod inni ychydig o wybodaeth bersonol amdanoch chi eich hun yn y lle cyntaf?

Wel, ges i fy magu ym Mro Ddyfi a dwi’n falch iawn o’r cysylltiad hwnnw. Dwi wedi treulio amser wedyn ym Mae Colwyn, Aberdyfi, Llundain a Llanddeiniol.

Dwi wedi teithio ar hyd a lled y byd gyda fy ngwaith yn y byd tecstiliau, gan weithio mewn gwledydd fel Swisdir, Awstria, Macedonia a China. Dwi dal yn rhedeg busnesau yn y meysydd hyn, a dwi’n ffermio’n rhan-amser hefyd yn Llanddeiniol ac Aberdyfi.

2. Ydi’r elfen hon, yr elfen yma o fod gyda phrofiad yn y byd go iawn, a gwybodaeth ynghylch sut mae pethau’n gweithio y tu hwnt i’r bubble gwleidyddol, yn elfen bwysig yng ngolwg GWLAD?

Ydi, mae gan y bobl ar ein pwyllgor llywio amrywiaeth o brofiadau gwaith gwahanol mewn meysydd amrywiol, ac mae hynny yn bwysig iawn yn ein golwg ni. Nid “gwleidyddion proffesiynol” ydan ni, a dwi’n siwr  y bydd pobol Cymru yn falch iawn o glywed hynny o feddwl am safon isel y gwleidyddion presennol a’r cawlach maen nhw’n wneud o bethau yma yng Nghymru ac yn San Steffan.

Mi rydan ni hefyd yn gwybod fod gan gannoedd o filoedd o bobol Cymru syniadau a gwybodaeth am wahanol faterion yng Nghymru, yn seiliedig ar eu profadau byw hwy. Be sydd angen inni ei wneud fel plaid ydi helpu pobol I ddod a’r syniadau da hyn at ei gilydd.

3. Mae gan Gymru un blaid genedlaethol yn barod.  Byddai rhai’n cwestiynu oes angen un arall arnom ni o ddifrif?

Wel y gwir ydi bod 90% o’r boblogaeth Gymreig ddim yn fotio i Blaid Cymru a hynny wedi 90 mlynedd!  Does dim rhaid inni gwrso am fotiau Plaid, o feddwl bod yna gynulleidfa anferth y tu hwnt i’w fotwyr hwy ar gael.  A chofiwch hefyd am y 50% o bobol sydd byth yn fotio yn Etholiadau Cymru! Mae yna ddadrithiad a siomedigaeth enfawr hefo’r sefyllfa bresennol yng Nghymru ymhlith y bobol hyn, a dan ni’n gobeithio tapio mewn i hyn i gyd.

4.Beth ydi’r prif broblemau sy’n wynebu Cymru ar hyn o bryd yn eich barn chi?

Y diffyg gwneud sy’n taro dyn fwyaf . Y teimlad ein bod ni’n amddifad, yn nhermau Caerdydd, Llundain a Brwsel. Y ffaith ein bod ni’n colli ein  cymeriad unigryw, ac yn troi mewn i’r West of England. Be sydd ganddon ni ar hyn o bryd yng Nghaerdydd ydi llywodraeth ei mawrhydri yng Nghymru.

Dan ni isio taclo’r problemau hyn trwy greu polisiau dros Cymru, er budd Cymru. Nid ydi’r polisi hwn o’r chwith nac o’r dde sy’n bwysig inni- ond ydi’r polisi yn fuddiol i Gymru, yn gwneud synnwyr mewn cyd-destun Cymreig.

5. A yw’n bosib ichi gynnig ryw flas o rai o brif bolisiau GWLAD felly?

Dan ni’n credu bod gwir angen atebion radical ar Gymru i’n tynnu ni allan o’r twll presennol.

Un o’n prif  bolisiau  yw Incwm y Dinesydd, fydd yn cynnig incwm sylfaenol i bawb. Bydd hwn yn gweithio fel math o drampoline  os liciwch chi. Bydd yn rhoi cyfle i bobl i anelu’n  uwch mewn bywyd, cyfle iddyn nhw ddatblygu busnesau newydd, mentrau newydd, syniadau newydd o bob math. Gan wybod bod yna sylfaen ariannol yna i’w diogelu nhw ar yr un pryd.

Yr ail bolisi, i gyd-fynd gydag Incwm y Y dineysddd yw  Treth Wastad, sydd ar waith mewn nifer o wledydd bychain megis Macedonia, lle mae’r gyfradd  yn 10%. Mae hwn yn symleiddio’r broses drethi  i bawb. Trwy gyfuno’r ddau bolisi yma, credwn y gellid gweld mwy o lewyrch economaidd yma.

A bydd y polsiau hefyd yn annog mwy o fusnesau cynhenid, a fydd yn aros yma a dim yn diflannu i fannau eraill yn y byd i chwilio am fwy o elw fel mae cwmniau mawrion yn ei wneud. Mae’n rhaid inni symud o’r model hwnnw’n llwyr.

6. A yw’n fwriad ganddoch chi i geisio gwasgaru grym o Gaerdydd?

Ydi, yn sicr. Dydi o ddim digon da ail-greu model San Steffan ym Mae Caerdydd fel a welwyd ers 1999. Mae angen datganoli pwerau lawr-pobol leol sy’n gwybod beth sydd angen ei wneud yn eu hardaloedd. Cysylltu gwybodaeth leol hefo pwer lleol ble bynnag bo hynny’n bosib.

7. Pa syniadau sydd ganddoch chi i fynd i’r afael gyda’r broblem o wastraffu arian cyhoeddus?

Mae gwir angen system sy’n gweithio’n well, mewn modd mwy deallus a chraffus a pharchu arian y trethdalwyr Cymreig. Dim jest taflu arian at brosiectau a phroblemau heb ystyried yn gyntaf be ydi natur y broblem.

Mae’r amser wedi dod ble mae’r claf yn dweud digon yw digon.Yn amlach na pheidio mae pobol ar lawr gwlad yn gwybod be sy angen ei wneud ond mae’r system bresennol yn mygu popeth.Mae angen system sy’n dynnach ond sy’n gweithio’n well i bawb.

8. Felly, beth ydi’r camau nesaf i GWLAD rwan?

Cenhadu ar lawr gwlad. Does dim byd tebyg i gyfarfod  gyda phobol wyneb yn wyneb, a gofyn iddyn nhw beth yw’r problemau sydd ganddoch chi, a sut fedrwn ni eich helpu chi.

Wneith hwnna fyth weithio o’r top i lawr, mae’n rhaid inni gychwyn o’r gwaelod i fyny ac mae’n rhaid i hyn  gychwyn rwan gan  fydd Etholiad 2021 yma mewn dim o dro.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *