Cofio Cynhaliwr Iaith

ERBYN cwblhau Brexit, pryd bynnag y bydd hynny o’r diwedd, bydd proses o ail-ddiffinio Prydain yn debyg o ddigwydd ar sawl lefel wahanol.

Er gwaetha’r holl bravado am gamu’n dalog i’r dyfodol, bydd dim modd osgoi’r angen i ystyried y gorffenol o’r newydd a chydnabod rhai o’r elfennau diwylliannol a fu’n gymaint rhan o’r hanes hwnnw.

Rôl hanesyddol y Gymraeg

Ac un o’r rhain, fel a gydnabu’r awdur JRR Tolkien, yw rôl hanesyddol y Gymraeg ar Ynys Prydain, a’r holl gyfoeth sydd ynghlwm gyda hynny dros gymaint o ganrifoedd.

Amser a ddengys a fydd cydnabod trysor cudd y Gymraeg fel rhan o hanes ehangach Prydain yn cael lle o gwbl yn y broses hon.

Ond yma yng Nghymru ei hun, awdur arall sy’n cael sylw eleni, wrth inni ddathlu 400 mwlyddiant geni awdur a fu’n rhan allweddol yn ein stori genedlaethol fel Cymry, sef Morgan Llwyd.

Mae Morgan Llwyd yn ffigwr eithriadol o bwysig yn y stori genedlaethol gan mai fo oedd y cyntaf i lunio gweithiau creadigol, gwreiddiol yn y Gymraeg.

Roedd y Testament Newydd a’r Beibl wrth gwrs wedi eu cyfieithu yn ystod air hanner yr 16eg Ganrif.

Iaith fel cerbyd syniadol

Ond gyda dyfodiad Morgan Llwyd o ardal Maentwrog, daeth y Gymraeg wedyn yn gerbyd syniadol a chreadigol cynhenid Gymraeg a Chymreig.

Mae ei lyfrau ‘Llythyr at y Cymry Cariadus’, ‘Gwaedd yng Nghymru’ a ‘Llyfr y Tri Aderyn’ yn parhau i sefyll fel rhai o glasuron yr iaith.

O feddwl ein bod yn tynnu tua terfyn rhyfel cartref syniadol Brexit ar hyn o bryd, mae’n ddiddorol nodi fod Morgan Llwyd wedi cymryd rhan yn y rhyfel cartref go iawn rhwng y Seneddwyr a’r Brenhinwyr rhwng 1643 a 1650.

Gweithredodd Morgan Llwyd fel caplan answyddogol i fyddin y Seneddwyr gan deithio trwy Gymru a Lloegr yn ystod y cyfnod hwn.

Caplan yn y Rhyfel Cartref

Ac er mai achub eneidiau oedd prif ddiben ei waith, canlyniad ei greadigrwydd oedd meithrin a datblygu adnoddau’r Gymraeg ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Heddiw, mi rydan ni’n byw mewn oes arall sy’n llawn cynnen ac ymraniadau.

Un enghraifft ddiweddar o hyn yw twf ‘identity politics’, ffenomenon sy’n dueddol o hollti cymdeithas yn nifer o garfannau gwahanol sydd nid yn unig yn uchel eu cloch ond yn cystadlu’n ffyrnig gyda’i gilydd am sylw a chydnabyddiaeth.

Cofio’r tawelwch mewnol

Da felly yng nghanol holl ddwnwr cecrus y presennol yw gallu cofio am y tawelwch a’r goleuni mewnol sy’n nodweddu holl waith Morgan Llwyd.

Un o benseiri y Gymru fodern yn wir.

 

 

 

 

 

 

 

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.