Cofio’r Fyddin Anghofiedig

[Gellir darllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

MAE ymdrech ar droed i gofio am y fyddin anghofiedig fu’n rhan o un o ddigwyddiadau allweddol ein hanes.

Stori gyfarwydd iawn i’r rhan fwyaf ohonom yw’r hanesyn am ladd Llywelyn ein Llyw Olaf yng Nghilmeri ar Rhagfyr 11eg, 1282.

Ond ychydig iawn o sylw a roir i’r ffaith bod 3,000 o’i filwyr o Wynedd wedi eu lladd gerllaw hefyd yn dilyn y digwyddiad hwn.

Heddiw, mae cyfle i wneud yn iawn am yr amnesia hanesyddol hwn ar ffurf ymgyrch Cymdeithas Cofio Llywelyn i godi £5,000 o bunnau i godi cerflun i gofio am eu haberth.

Mae’r cerflunydd Ieuan Rees wedi ei gomisiynu i greu’r cerflun ac fe gaiff ei osod yn ei le erbyn Rhagfyr 11eg, 2021.

Dywedodd llefaryd ar ran Gwlad bod yr ymdrech wirfoddol hon i’w chanmol yn arw gan ei bod yn amserol iawn.

‘Mae ganddon ni gwricwlwm cenedlaethol newydd wedi ei basio hefo dim gwarant o ddysgu am ffeithiau anghyfforddus yn ein hanes’ meddai.

‘Felly, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni fel dinasyddion yn sicrhau bod y cof hanesyddol hwn yn cael ei drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf’

Does dim eglurhad hanesyddol cytunedig am yr hyn ddigwyddodd i fyddin Llywelyn, ond gwyddir bod eu cyrff wedi eu claddu yn Parc ar Irfon, ar dir Clwb Golff Llanelwedd heddiw.

Cawn un dehongliad o’r digwyddiad yn y llyfr ‘The Massacre at Aberedw’ gan yr hanesydd lleol diweddar Anthony Edwards.

Yn ôl yr awdur, roedd y fyddin hon wedi dod i lawr gyda Llywelyn i’r canolbarth ar gyfer trafodaethau gyda Roger Mortimer ac Arglwyddi eraill pwerus yn y cyffiniau, ac wedi gwersyllu ar dir uchel Rhosfeirig ger Llanelwedd.

Wedi clywed y newydd am farwolaeth eu harweinydd, fe berswadiwyd y fyddin i ddod lawr i Parc ar Irfon ac ildio eu harfau, yn gyfnewid am gael dychwelyd i Wynedd yn ddianaf.

Ond i’r addewid hwn gael ei sarnu wedyn wrth iddynt gael eu saethu’n ddarnau gan fyddin o saethwyr oedd wedi ei ymgynull gan Arglwyddi’r Mers yn y dirgel.

Mae’n hanesyn chwerw a thrist yn ein stori genedlaethol ac mae’n hen bryd inni gofio’n iawn am y dynion a’r bechgyn ifanc cyffredin hynny o Wynedd a laddwyd mewn modd mor greulon.

O osod y cerflun yn ei le, gobeithio hefyd y gwelir atgyfodi’r syniad o greu ‘Llwybr Llywelyn’ yn yr ardal, allai gofio am y lleoliadau neilltuol yn y stori, Cilmeri, Rhosfeirig, Parc ar Irfon, ac Aberedw.

Gellid cyfrannu at yr ymgyrch trwy ddilyn y ddolen hon.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *