Cyfle am Wariant Callach?

[Gellir ddarllen yr ethygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

SUT orau i wario arian cyhoeddus ydi’r cwestiwn mawr wedi cyhoeddiad ‘lefelu fyny’ San Steffan ddoe.

Mae Llywodraeth Cymru’n cwyno’n enbyd bod y swm o £585 miliwn tua £1 biliwn yn llai na’r hyn fyddai’n dod i law o dan hen drefn yr Undeb Ewropeaidd.

Ond eu pryder mwyaf ydi mai’r awdurdodau lleol gaiff y dweud dros y gwariant newydd hwn nid Bae Caerdydd.

Ar un ystyr, gellid gweld y symudiad hwn fel ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli, ac yn arwydd pellach o wir farn San Steffan tuag at Fae Caerdydd

Ar y llaw arall, mae lle i dadlau efallai bod trefn fel hyn yn well o gofio record alaethus Llywodraeth Cymru o ran gwneud defnydd priodol o arian cyhoeddus.

Dywedodd llefarydd ar Gwlad eu bod yn cadw meddwl agored am y symudiad, ond bod lle mawr i wella ar y drefn bresennol.

‘Yn ddelfrydol, ein llywodraeth genedlaethol fyddai’n gwario’r arian hwn’ meddai.

‘Ond yn anffodus, mi rydan ni gyd yn gwybod be fyddai”n digwydd i’r arian hyn pe bai Llafur yn cael eu dwylo arno’ meddai.

‘Byddai’n cael ei gyfeirio at hoff gleientiaid Llafur yn y trydydd sector, grwpiau pwyso ac at “newid hinsawdd” eto fyth’.

Gyda 60% o wariant cyfalaf Llywodraeth Cymru dros y cyfnod nesaf wedi ei glustnodi at Newid Hinsawdd, mae’n glir iawn ble mae blaenoriaethau Llafur Cymru.

‘Byddai’r demtasiwn i fynd lawr y llwybr hwn hyd yn oed ymhellach gyda’r arian newydd hyn, gan wobrwyo eu ffefrynnau eu hunain, yn ormod iddynt’.

Wedi 23 o flynyddoedd wrth y llyw, a dim gwelliant economaidd o gwbwl o dan Lafur Cymru, efallai’n wir bod hi’n syniad rhoi cynnig ar ddull gwahanol o wario.

Mae’n debyg mai consortia o awdurdodau lleol mewn tair rhanbarth wahanol yng Nghymru fydd yn gyfrifol am wario’r arian, gyda pheth mewnbwn gan aelodau seneddol.

Ychwanegodd y llefarydd ei bod yn bwysig iawn bod pobol leol ymhob rhanbarth yn cyflwyno eu syniadau i’r consortia o ran y blaenoriaethau lleol.

‘Wedi’r cwbwl, ein harian ni fel trethdalwyr ydi hwn ac mi ddylem ni gael ein dweud ar be ydi anghenion ein hardaloedd’.

‘Gobeithio wir bydd mwy o dryloywder ac atebolrwydd ar gael gyda’r system newydd, na’r hyn sy wedi ei arddangos gan Fae Caerdydd dros y blynyddoedd diwethaf.’

Gweinidog Llafur ei hun, Lee Waters, a gyfaddefodd yn ddiweddar: ‘We don’t know what we’re doing on the economy’.

Efallai fod San Steffan wedi gwrando ar ei eiriau gonest, a phenderfynu ei bod hi’n hwyr glas rhoi cyfle i bobol eraill roi cynnig arni.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.