Cyfle i Fanteisio ar y Gwendid

[Gellir darllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

MAE hanes yn dangos i ni bod amgylchiadau eithriadol yn gallu arwain at newidiadau anferthol mewn cymdeithas hefyd.

Pan fo’r Blaid Geidwadol yn colli sedd a fu yn ei meddiant am 200 mlynedd, a’r buddugwyr yn ei chipio gyda swing o 34%, dyna brawf bod yna wynt nerthol iawn dros newid yn chwythu ar hyn o bryd.

Debyg mai pleidlais brotest enfawr yn erbyn pasports Covid yn Lloegr oedd y bleidlais fawr i’r Lib Dems yn yr is-etholiad neithiwr (nos Iau) wedi’r bleidlais seneddol nos Fawrth.

A gyda phethau mor ansicr a dryslyd yn gyffredinol, mae hi’n gyfnod o bwysau newydd ar Boris Johnson a’r Toriaid – cynheiliaid mwya brwdfrydig yr Undeb.

Gyda’r amseru hefyd yn dda i’r mudiad cenedlaethol yng Nghymru, o gofio am y bleidlais ysgubol o blaid newid trefn YesCymru yr wythnos hon.

Y gobaith ydy y gall y mudiad ail-ymrwymo i frwydro dros annibyniaeth eto bellach – wedi iddi gael ei phlagio am fisoedd gan densiynau a ffraeo mewnol.

Gyda Bwrdd o Gyfarwyddwyr newydd sbon i’w ethol fis nesaf, mae yna synnwyr o’r mudiad yn barod i ail-afael ynddi o ddifri yn 2022.

Ac mae yna achos parod wedi ei gyflwyno iddyn nhw ar blat yn barod, wedi i San Steffan ddeud na fyddai’n bosib neilltuo Dydd Gwyl Dewi fel diwrnod o wyliau gan fod ‘gormod o deithio traws-ffiniol’ rhwng y ddwy wlad.

Dywedodd Gwyn Wigley Evans, arweinydd Gwlad, bod y cyhoeddiad hwn yn sarhaus.

‘Mae’r syniad hwn o Loegr yn dweud wrthom nad oes modd inni gael diwrnod o wyliau cyhoeddus ar ddydd ein nawddsant yn corddi dyn go iawn’ meddai.

‘Gan fod gormod o fasnachu traws-ffiniol? Ymha fodd mae hwnna’n unrhyw fath o broblem mewn difri? Mae gan Gwlad Belg a’r Iseldiroedd gwyliau gwahanol er bod eu ffin yn rhedeg yn syth trwy adeiladau’. [Gweler llun uchod]

‘Dyma achos clir ac enilladwy y gellid canolbwyntio arno dros y cyfnod nesaf i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd’.

Dywedodd hefyd fod Y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod ar Radio 4 yn cwyno nad oedd y trysorlys yn fodlon ariannu cyfnodau clo os oedd y cais yn dod o Gymru.

‘Ie, da iawn fo am godi’r pwynt – ond pryd wnaiff o gymryd y cam synhwyrol nesaf, a gweld mai cael trysorlys Gymreig ein hunain ydi’r unig ateb?’ meddai.

Gyda’r holl sôn am Omicron a chyfyngiadau newydd wedi ei cyhoeddi ar gyfer Cymru wedi’r Nadolig, efallai y bydd rhaid aros i weld sut y bydd pethau’n datblygu.

Ond gyda sôn yn barod am drefnu gorymdaith yn Aberystwyth yn y flwyddyn newydd, s’dim ddwywaith bod yna dân newydd ym mol y mudiad cenedlaethol ar hyn o bryd.

Gyda’r aelodau a’r cefnogwyr yn barod iawn i fanteisio ar wendidau amlwg San Steffan a medi’r corwyntoedd o newid pellach a fydd hefyd yn siwr o ddod i sylw pawb yn 2022.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *