Cyhyr Economaidd yr Iaith

[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

CAFWYD enghraifft ddoe o’r Gymraeg yn ymarfer ei chyhyr economaidd am unwaith yn ein gwlad.

A hynny wrth i gwmni bwyd Iceland benderfynu diswyddo ei Rheolwr Corfforaethol am ei sylwadau dirmygus am yr iaith.

Roedd y gwr dan sylw, Keith Hann, wedi disgrifio’r Gymraeg fel ‘gibberish’, gan gyhoeddi hynny ar ei gyfrif trydar preifat.

Ond asesiad Iceland o’r sefyllfa oedd bod i’w sylwadau fwy o arwyddocâd a thrawiad na barn bersonol yn unig, a hynny o ran y canfyddiad cyhoeddus o’u delwedd nhw eu hunain fel cwmni.

Gan olygu bod rhaid terfynu ei gytundeb cyflogaeth yn y fan a’r lle.

Ar un wedd gellid gweld y digwyddiad hwn fel enghraifft arall o ”cancel culture” cyfoes, ble fo pobol yn cael eu canslo, ac yn colli eu gwaith dim ond am fynegi barn bersonol sy’n annerbyniol yng ngolwg eraill am un rheswm neu’i gilydd heddiw.

Ffenomenon arall ymrannol o America sydd wedi dechrau meddiannu’ r gofod cyhoeddus yma ym Mhrydain yn fwy diweddar.

Fe ellid dadlau fod gan Keith Hann, yr unigolyn, berffaith hawl i feddwl mai’ gibberish’ ydi’r Gymraeg ac i fynegi’r farn honno yn ei fywyd preifat.

Er mor anghysurus ac amhleserus ydi hynny i ni ei glywed fel Cymry. Ac er cymaint o weithiau yr ydan ni wedi clywed pethau fel hyn o’r blaen yn ein bywydau.

Ond o bryd i’w gilydd does dim modd gwahanu’r preifat oddi wrth y cyhoeddus, ac mae’n debyg bod hyn yn boenus o wir yn yr achos hwn.

Mae Cwmni Iceland, o’u pencadlys ar Lannau Dyfrdwy wedi gwneud yn fawr o’r ffaith eu bod yn enghraifft o gwmni Cymreig cynhenid sydd wedi llwyddo’n fasnachol.

Bellach mae trosiant blynyddol y cwmni tua £160 miliwn, gyda bron i 1,000 o siopau ganddyn nhw trwy Brydain.

A’u synnwyr greddfol fel cwmni oedd bod sylwadau Mr Mann – gwr oedd yn gyfrifol am eu cysylltiadau cyhoeddus – yn debyg o ddifrodi’r ddelwedd hon.

Gyda’r son am y posibilrwydd o bobol yn dewis peidio siopio yno heb os wedi porthi’r canfyddiad hwn.

Efallai bod mwy o sŵn nag o daro ynghlwm wrth hyn o bosib, ond er hynny, mae agwedd y cwmni yn cynnig llygedyn o obaith i garedigion yr iaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwlad ei bod hi’n galonogol iawn gweld canfyddiad ar waith bod gan y Gymraeg gyhyr economaidd erbyn hyn.

‘Beth bynnag ein barn am Keith Hann yr unigolyn, y pwynt ydi bod cwmni mawr fel Iceland wedi cydnabod bod modd i Gymry ddefnyddio’r cyhyr hwn gyda’u dewisiadau bellach.’

‘Fel plaid sy’n credu mai marchnadoedd rhydd fydd yn gallu hybu economi Cymru orau i’ r dyfodol, mae’n dda gweld y farchnad honno yn dechrau cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg .’

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *