Cymraeg ar y Brig yn 2020

[Mae’r erthygl hon hefyd ar gael ar ein tudalen Facebook]

Mae mwy wrthi’n dysgu Cymraeg eleni ar blatfform dysgu amlwg nag unrhyw iaith arall.

Yn ol Cwmni Duolingo, gwelwyd cynnydd o 44% yn y nifer sy’n dysgu Cymraeg ar eu app poblogaidd yn ystod 2020.

A thrwy Brydain eleni, mae’r Gymraeg ar frig eu rhestr dysgu ieithoedd, gyda Hindi yn ail a Siapaneg yn drydydd.

Er nad yw’r cwmni wedi datgelu’r union ffigyrau, y gred ydi bod hyn oddeutu 200,000 o ddysgwyr newydd eleni, gyda’r mwyafrif llethol ohonynt yng Nghymru ei hun.

Dywedodd un o reolwyr Duolingo, bod y cynnydd hwn yn niferoedd y rhai oedd am ddysgu’r iaith yn drawiadol iawn.

‘Yn ol ein hymchwil ni, mae pobol eisiau dysgu Cymraeg er mwyn teimlo’n rhan ohoni, ac am eu bod am weld Cymru yn ffynnu fel cenedl’ meddai Colin Watkin.

‘Mae’n ffigyrau ni hefyd yn dangos eu bod ymhlith y dysgwyr mwya ymrwymedig o ran dal ati’n ddyddiol a chynnal ‘learning streaks’.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwlad bod y ffigyrau’n galonogol iawn ac yn rhywbeth cadarnahol i afael ynddo ar ddiwedd blwyddyn mor anodd.

‘Mae 2020, er mor erchyll y bu hi, hefyd wedi bod yn flwyddyn o fynd i fewn i’n hunain, ac ail-asesu be sy’n bwysig inni fel unigolion’ meddai.

‘Mae’n wych gweld bod cymaint yn teimlo bod meddiannu Cymraeg – trysor mwyaf ein gwlad – yn rhan mor bwysig o’r ail-asesu hwn’.

Awgrymodd y dylid ceisio mwy o gydlyniad rhwng Duolingo a darparwyr dysgu Cymraeg a chymunedau unigol yng Nghymru.

‘Mae ffigyrau dysgu Cymraeg at ei gilydd yma yn drychinebus o sal, gyda dim ond tua 5% o bawb sy’ n dysgu mewn unrhyw flwyddyn yn dod yn rhugl’ meddai.

‘Mae angen dysgu o ddyfeisgarwch app fel Duolingo a gweld sut mae modd ad-gynhyrchu hwnnw mewn lleoliadau go iawn yn ein cymunedau’

Roedd 23% o’r ddysgwyr newydd Duolingo yn datgan mai rhesymau addysgiadol oedd i gyfrif am eu penderfyniad i ddysgu Cymraeg, gyda charfan niferus arall yn credu bod dysgu’r iaith yn gallu bod yn hwb ymenyddol iddynt.

Bydd dysgu o’r newydd yn un o brif themau 2021, ac mi fydd hynny’n siwr o fod yn hwb pellach i’r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn economaidd yn y flwyddyn sydd i ddod.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.