Cyrraedd y canol llonydd distaw yn 2019

Patrymau pleidleisiau fel blociau di-symud o rew

MAE’R “Canol Llonydd Distaw” yn un o ganeuon mwyaf cofiadwy y canwr Steve Eaves. Cân addas iawn i’w chofio ar yr adeg hon o’r flwyddyn wrth i brysurdeb gwallgof y gwyliau dynnu llygaid pawb oddi wrth y Shalom hwnnw ddylai fod mor greiddiol i wyl y Geni.

Mae’r syniad o’r Canol Llonydd Distaw hefyd yn dod i’r meddwl wrth ystyried carfan o boblogaeth Cymru – carfan ddaeth i’r amlwg eto yn y pôl piniwn cyntaf erioed i’w chomisiynu yng Nghymru gan Gwmni Newyddion Sky yr wythnos hon

Hollol ddi-symud oedd rhan gyntaf eu pôl wrth fwrw golwg ar sefyllfa’r pleidiau yma – gan ddangos na fyddai’r un sedd etholaethol yn newid dwylo yma, yn San Steffan na Chaerdydd ychwaith mewn unrhyw etholiad ar hyn o bryd. Llafur ar y blaen, Y Ceidwadwyr yn ail a Phlaid Cymru yn drydydd. Eto fyth. Mae fel petai’r patrymau pleidleisio hyn fel blociau mawr o rew yn ein bywyd gwleidyddol wnaiff fyth, fyth doddi. Mae newid, o unrhyw fath ym mywyd gwleidyddol Cymru i’w weld yn hollol amhosib o graffu ar y ffigyrau hyn.

O’r pegynnu barn y daw unrhyw obaith am newid

Mae unrhyw obaith am weld unrhyw newid o gwbl yn codi gyda’r pegynnu barn mawr hwnnw a amlygwyd yn ail ran y pôl, a hynny gyda chwestiynau llawer mwy dirfodol – sef diddymu’r Cynulliad ei hun ar y naill law ac Annibyniaeth i Gymru ar y llaw arall. Dangosodd y pol y byddai 19% o bobol Cymru bellach o blaid diddymu’r Cynulliad, ffigwr sydd yn uwch na’r arfer ar gyfer y cwestiwn hwn (yn wir wrth ddadansoddi’r ffigwr hwn, a rhagolygon plaid “Abolish the Assembly” rhagwela’r sylwebydd gwleidyddol Roger Sculley y gallent ennill 2 sedd ranbarthol yn 2021).

Ar y pegwn arall yn llwyr, roedd 20% o’r rhai  a holwyd o blaid annibyniaeth i Gymru (wedi diystyru’r rhai a nododd”ddim yn gwybod” am y cwestiwn hwn). Eto, dyma ffigwr sydd yn sylweddol uwch na’r ffigyrau arferol ar gyfer y cwestiwn hwn, gan ddangos hefyd nad “outlier” oedd pôl piniwn arall a gyhoeddwyd dros yr haf a nododd  bod 19% o blaid annibyniaeth yma.

O gofio mai 25% oedd y ffigwr yn cefnogi annibyniaeth i’r Alban ar gychwyn eu hymgyrch refferendwm cyntaf yn 2014, dylai’r ffigwr Cymreig hwn – heb fod unrhyw ymgyrch wleidyddol dros annibyniaeth wedi cychwyn go iawn – gynnig gobaith go iawn i gynheiliaid achos annibyniaeth i Gymru. Gyda’r 20% arall a fyddai o blaid “mwy o bwerau i Gymru” hefyd yn garfan addawol i’w targedu.

Ond gyda 23% wedyn yn dweud y dylid gadael pethau fel ag y maen nhw ar hyn o bryd ac 17% heb unrhyw farn ar bethau: dyna ganol llonydd distaw o tua 40% y bydd rhaid i’r naill begwn gwleidyddol a’r llall geisio apelio atynt gyda’u negeseuon gwahanol yn 2019.

Y tu hwnt i’r patrwm gwleidyddol hesb

Mae modd ystumio ystadegau i brofi unrhyw beth wrth gwrs. Ond un peth sy’n amlwg o’r pol hwn hyn ydi na ddaw unrhyw newid i sefylla wleidyddol Cymru o du’r pleidiau gwleidyddol presennol eu hunain. Rhaid i’r newid ddod o gyfeiriad arall – o’r tu hwnt i’r patrwm gwleidyddol hesb hwn. Y cwestiwn ydi pa garfan fydd yn arwain y newid ac yn gallu dwyn perswad orau ar y canol llonydd distaw?

Ddylai neb danbrisio y potensial cywain pleidleisiau sydd gan garfan “Abolish the Assembly”. Wrth gyfuno’r dirmyg cyhoeddus at wleidyddion o bob math gyda holl fethiannau Datganoli o dan Y Blaid Lafur, mae yna berig y bydd yna gynulleidfa barod ar gyfer eu negeseuon yn anffodus.

Nid “mwy o’r Cynulliad” ydi’r ateb

Yn sicr, nid “Mwy o’r Cynulliad” ydi’r ateb i ddadl “Dileu’r Cynulliad“. Mae angen ymladd y frwydr syniadol hon ar wastad cwbl wahanol. Efallai mai un ateb fyddai i gefnogwyr annibyniaeth i Gymru achub y blaen ar bethau a mynd ati i sefydlu National Independence Convention– a fyddai’n gallu  uno’r holl grwpiau amrywiol sydd dros annibyniaeth a thapio mewn i’r holl greadigrwydd gwahanol yn eu plith. (Efallai y gellid bathu term Cymraeg fel Y Cydweld Cenedlaethol arno).

Ysbrydoli pobol mewn modd newydd

Mae confensiwn fel hwn mewn bodolaeth yn Yr Alban ac wedi gwneud llawer iawn  i hyrwyddo’r neges am annibyniaeth ymhlith y gymdeithas sifig yn Yr Alban, ac ysgogi trafodaeth fywiog a chynhyrfus y tu hwnt i’r pleidiau gwleidyddol traddodiadol. Mae gwir angen symudiad sifig pwrpasol fel hyn yng Nghymru er mwyn dangos bod y galw am newid yn rhywbeth y tu hwnt i’r sefydliad gwleidyddol arferol.

Gallai Confensiwn fel hwn dynnu ynghyd pobol o bob cyfeiriad sydd wedi diflasu gyda Bae Caerdydd, gan gynnig cyfle newydd sbon i freuddwydio o’r newydd ynghylch hanfodion Cymru Rydd.  Efallai y byddai’r Confensiwn am ddrafftio cyfansoddiad Cymreig, neu drafod sut y gellid datblygu Cymru gyfan mewn gwahanol ffyrdd neu ystyried dyfodol y byd gwaith ac entrepreneuriaeth yng Nghymru, ayb, ayb.

Gallai arwain at sgwrs genedlaethol newydd sbon. Gan ysbrydoli pobol am yr holl botensial sydd gan Gymru mewn ffordd nad yw ein Cynulliad Cenedlaethol erioed wedi ei wneud yn anffodus.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.