[Gellir ddarllen yr erthygl hon ar ein tudalen Facebook hefyd]
DDOE cyhoeddwyd na fyddai’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal am yr ail flwyddyn yn olynol.
Ergyd arall i Geredigion ac yn wir i holl garedigion yr wyl ym mhob rhan o Gymru. Ac i bawb sy’n roi gwerth ar eu Cymreictod mewn difri.
Ond gyda misoedd allweddol o drefnu a paratoi eisoes wedi eu colli oherwydd y coronavirus, roedd yna rhywbeth anorfod am y cyhoeddiad gan yr Eisteddfod ddoe.
Er y siom, falle bod y gohirio yn gyfle i roi cynnig ar rywbeth mentrus a ffres yn ystod wythnos gyntaf mis Awst 2021.
Wedi’r cwbl, byddai rhywun yn tybio y bydd y sefyllfa gyda’r firws yn llawer gwell erbyn canol haf, a phobol hefyd yn ysu cael bod nôl yng nghwmni’r naill a’r llall erbyn hynny.
Efallai bod yma gyfle i hyrwyddo’r Cymreictod mewn modd gwahanol iawn yn ystod ‘Wythnos yr Eisteddfod’ 2021.
Tybed a ellid cynnal ystod o weithgareddau Cymraeg ar yr un pryd mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru ar yr union adeg hwn?
Efallai y gellid dwyn perswad ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gyfrannu rhywfaint o arian tuag at gynnal gweithgareddau o’r fath fel ei fod yn ddigwyddiad ‘cenedlaethol’.
Byddai trefniant answyddogol fel hyn yn gallu creu pob math o ddigwyddiadau gwahanol trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel cymunedol.
Y cwbl fyddai ei angen yw gwirfoddolwyr ewyllysgar ac awyddus er mwyn cydlynu pethau mewn cymunedau gwahanol trwy Gymru.
Pwy a wyr – efallai y byddai hyn hefyd yn fodd i gyflwyno’r Gymraeg o’r newydd i gynulleidfa cwbl wahanol eleni.
Er llwyddiannau’r Eisteddfod Genedlaethol, rhaid cofio mai ychydig iawn o Gymry Cymraeg sy’n mynychu’r wyl pob blwyddyn (llai na 10% o’r 800,000 o siaradwyr Cymraeg).
Ymhellach, mae’r Eisteddfod wedi datblygu gwedd llawer mwy corfforaethol dros y blynyddoedd diwethaf, a’r cysylltiad cynhenid hwnnw gyda chymunedau sy’n cynnal yr wyl wedi hen freuo erbyn hyn.
Byddai llawer yn gweld gwerth ar rywbeth sy’n llai, mwy lleol a mwy cynhwysol o bosib.
Mae 2021 yn flwyddyn llawn heriau mewn sawl ffordd i Gymru. Heriau difrifol i Gymreictod ei hun hefyd.
Byddai’n braf gweld ymateb creadigol i’r heriau hyn.