Deinameg Newydd 2021

[Gellir ddarllen yr erthygl hon ar ein tudalen Facebook hefyd]

MAE’N edrych yn fwy fwy tebygol y gwelwn ni’r turn-out mwya ar gyfer Etholiad Cymru ers 1999 y flwyddyn nesaf.

45% o’r boblogaeth bleidleisiodd y flwyddyn honno (etholiad cyntaf Y Cynulliad) gyda chanran pob etholiad ers hynny wedi bod yn is na’r ffigwr hwnnw.

Ond mae sawl un yn credu y bydd y ganran yn sylweddol uwch yn 2021, a hynny fel ymateb i’r coronavirus a’i sgil-effeithiau a sut y cafodd hynny ei reoli yma yng Nghymru.

Byddai’n wir i ddweud bod y saga hon wedi gorfodi pobol Cymru i ymddiddori yn ein trefn wleidyddol o’r diwedd, a’i fod wedi cael mwy o effaith yn hyn o beth nag unrhyw fater arall yma yn ystod 20 mlynedd o ddatganoli.

Gellid dadlau mai ryw fud dderbyn ddatganoli a’r hyn ddaeth yn ei sgil fu hanes y rhan fwyaf o ddigon o’r boblogaeth Gymreig ers 1999.

Llawer yn cysuro’u hunain efallai na fyddai ddatganoli yn mennu cymaint a hynny ar eu bywydau, a’u bod felly yn gallu anwybyddu llawer o’r hyn oedd yn digwydd ym Mae Caerdydd.

Ond, wedi holl ddigwyddiadau eleni, a grym newydd Llywodraeth Cymru i reoli bywydau pob un ohonom, does dim modd gwneud hynny bellach.

Un ddeinameg newydd flwyddyn nesaf fydd awydd perchnogion busnesau bychain, yn enwedig yn y sector lletygarwch i fynegi barn ar record Llywodraeth Lafur Mark Drakeford.

Gyda’r mesur diweddaraf i orfodi tafarnau, caffis a bwytai i gau eu drysau am 6.00 o ddydd Gwener ymlaen – yn ystod y cyfnod prysuraf cyn y Nadolig – yn debyg o fod yn ffrwydrol o ran yr ymateb iddo.

Hen wireb yw hi mai’r hyn sy’n cymell pobol fwyaf i fotio mewn unrhyw etholiad yw awydd i gosbi llywodraeth am or-gyrraedd yn wleidyddol, a thrwy hynny eu hamddifadu rhag grym am gyfnod o amser.

Mae Llafur wedi gallu osgoi’r ddeinameg etholiadol hon am 20 mlynedd yng Nghymru, oherwydd y diffyg diddordeb cyhoeddus yn ein gwleidyddiaeth fwy na heb.

Ond mae’n ddeinameg sy’n siwr o ymddangos yma o ddifrif yng Nghymru o’r diwedd erbyn haf nesaf.

Mae’r Toriaid Cymreig eisoes yn datgan eu bod yn credu y gallent ennill yr Etholiad, cymaint fydd y gwrthryfel gwrth-Lafurol ymhlith yr etholwyr am orfodi busnesau i gau a chreu cymaint o ddifrod economaidd.

Amser a ddengys am hynny, ond mae’n anodd osgoi’r synnwyr bod Toriaeth ei hunan yn frand sydd hefyd wedi ei niweidio’n arw gan fethiant truenus y Llywodraeth yn Llundain i ddelio’n effeithiol gyda’r coronavirus dros y 10 mis diwethaf.

Bydd yn ddiddorol gweld sut bydd y pleidiau cenedlaetholgar, Plaid, Gwlad a phlaid Neil Mc Evoy yn delio gyda’r holl ddiddordeb gwleidyddol newydd haf nesaf.

Ac a fyddant yn gallu denu’r pleidleiswyr newydd i roi cynnig arnynt hwy fel modd i gosbi Llafur a’u danfon i’r anialwch gwleidyddol?

Gan gofio y bydd angen iddyn nhw frwydro ar ffrynt arall hefyd, rhag i’r pleidleiswyr newydd gael eu hudo i’r pegwn arall yn llwyr, a cefnogi pleidiau Dileu’r Senedd, UKIP a Brexit.

Brechiad rhag Llafur sydd ei angen ar Gymru flwyddyn nesaf.

Ond mae’n rhy gynnar i ddweud pwy’n union fydd yn gweini’r brechiad hwn.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.