Delio gyda Goleiath drws nesa

Erthygl Gymraeg. We suggest Bing Translate for translation.

[Ymddangosodd yr erthygl hon yn y lle cyntaf ar ein tudalen Facebook]

UN o’r ofnau mawr sydd gan bobol am annibyniaeth i Gymru yw maint y wlad a’i sefyllfa drws nesa i Loegr.

Sut all gwlad fechan o 3 miliwn o bobol fodoli mewn difri gyda gwlad anferth o 55 miliwn ar ein stepan drws meddent?

A does fiw anwybyddu y pryderon real iawn sydd gan bobol ynghylch y ffaith anwadadwy hon.

Ond efallai mai un ffordd o oresgyn y broblem, a lleddfu realities daeryddol Cymru rhywfaint yw ystyried patrwm o gydweithio newydd gyda’r gwledydd Celtaidd eraill o’n cwmpas.

Mae rhai eisoes yn galw am Undeb Celtaidd ffurfiol rhwng Cymru, Yr Alban, Iwerddon, Cernyw a Llydaw, a fyddai wedyn yn cyfateb i’r 11ed bloc mwyaf yn y byd (16 miliwn o bobol).

Gyda Lloegr yn mynd ei ffordd ei hun mewn sawl ffordd ac yn ail-ddarganfod ei chenedligrwydd ei hun, efallai mai dyma’r amser yn wir i ddechrau cymryd y syniad hwn o undeb celtaidd o ddifrif.

Yn sicr, byddai’n creu math o amddiffynfa naturiol i’r gwledydd hyn rhag y cawr mawr sy’n domiwnyddu’r tirwedd gwleidyddol a diwylliannol o’u cwmpas.

Byddai hefyd yn gyflawniad hanesydol ar un wedd, trwy ail-sefydlu’r hen gysylltiadau masnachol a diwylliannol arferai fodoli rhwng y gwledydd hyn amser maith yn ol. Gan roi gwedd wleidyddol gyfoes iddo.

Ond hyd yn oed os yw undeb ffurfiol yn ormod o naid, yn sicr fe alla’r gwledydd hyn gydweithio a chyfnewid syniadau a sgiliau gyda’i gilydd.

Efallai y gallai Cymru roi’r Alban a’r Iwerddon ar ben ffordd ar sut i gynnal a datblygu iaith leiafrifol.

Efallai y gallai’r Alban yn ei thro gynnig cymorth ariannol o’u cronfa olew sylweddol i ddatblygu economi Cymru yn gyfnewid am yr arbenigedd ieithyddol hyn.

Trwy gynnig yr un arbenigedd ieithyddol i Iwerddon, efallai y gallai Iwerddon gynnig syniadau newydd ar sut i farchnata Cymru i’r byd a chreu brand rhyngwladol llwyddiannus megis y maen nhw wedi llwyddo i’w wneud.

Mae yna gymaint o ffyrdd y gall y gwledydd celtaidd gydweithio’n ffrwythlon gyda’i gilydd i’r dyfodol.

Yn y stori draddodiadol sydd mor gyfarwydd inni, pum carreg fechan a ddefnyddiwyd gan Dafydd i lorio Goleiath.

Efallai gall pum carreg fechan y gwledydd Celtaidd wneud yr un peth eto heddiw.

Sut fyddai Undeb Celtaidd yn edrych.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.