Diffyg Trafod am y Cloi

[Mae’r erthygl hon hefyd ar gael ar ein tudalen Facebook]

HENO, am 6.00, disgynodd llen haearn newydd o fath, a Chymru’n cael ei gosod dan glo am 16 diwrnod arall.

Gyda phawb ohonom yn cael ein trin fel carcharorion yn y frwydr fawr yn erbyn coronavirus, rhwng Hydref 23ain a Tachwedd 9ed.

Byddai’r rhan fwyaf yn cytuno fod Mark Drakeford wedi ymddwyn yn bwyllog a rhesymol trwy’r cyfnod diwethaf hwn. A rhai’n ei weld bron fel ffigwr tadol i’r genedl ei hun erbyn hyn.

Ond byddai eraill wedyn yn tybio ei fod fel ryw Frenin Canute cyfoes yn ceisio atal y llanw rhag dod i mewn – cymaint yw’r tebygrwydd o allu atal firws fel hwn rhag redeg ei gwrs naturiol.

A’i bolisi cloi felly’n debyg o rwystro immiwnedd cymdeithasol rhag datblygu yma fel sydd wedi digwydd gydag achosion fel hyn trwy holl hanes hir y ddynoliaeth.

Mae’r angenrheidrwydd i ‘warchod yr NHS’ yn gwbwl ganolog yn strategaeth Llywodraeth Cymru y tro hwn eto.

Ond, mae’n rhaid gofyn pam na ellid fod wedi meddwl ymlaen am hyn dros y misoedd diwethaf, a Llywodraeth Cymru’n gwybod yn iawn bod y gaeaf yn dod gyda’i holl bwysau arferol ar y gwasanaeth iechyd beth bynnag.

Pam na ellid fod wedi cynllunio am ffyrdd eraill i gynyddu capasiti ac effeithioldeb y gwasanaeth iechyd rhagor na bod rhaid i gymdeithas gyfan ddod i stop eto?

A hynny dros firws sydd ond yn farwol i 0.014% o boblogaeth Cymru (yn ol ffigyrau diweddaraf yr ONS heddiw).

Mae hwn yn bwnc sy’n polareiddio barn yn sicr, ond debyg y gallai pawb gytuno nad ydym wedi cael trafodaeth genedlaethol gall am y sefyllfa.

Lle bo modd trafod yr holl opsiynau gwahanol yn aeddfed a chyfrifol, ynghyd a’r holl oblygiadau sydd ynghlwm wrth bob un ohonynt.

Sefyllfa rwystredig a dryslyd iawn i bawb yma, fu gorfod delio gyda’r mynydd o wybodaeth amrywiol yn hedfan o gwmpas am y firws – heb bod unrhyw fforwm ar gael i allu cydlynu’r cwbwl a chynnig arweiniad inni.

Diddorol hefyd yw nodi natur y sgwrs am y firws yn Gymraeg dros y cyfnod diwethaf hwn.

Gellid dadlau bod y narratif wedi ei ddomiwnyddu’n llwyr gan y bydolwg chwith-ryddfrydol sy’n amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus Cymru .

Ar ei orau, mae’r bydolwg hwn yn gallu pwysleisio gweithredu cyfunol a thorfol, sy’n gallu bod yn llesol i gymdeithas gyfan. Tueddfryd bendithiol ar adeg o argyfwng y gellid dadlau.

Ond mae yna berig o hyd i’r bydolwg hwn arwain at awydd i reoli, i gyfyngu a gwahardd a diystyru crebwyll unigol pobol.

Mae cymdeithas wastad angen clywed y ddadl o’r ochr arall – y ddadl honno sy’n rhoi gwerth ar hawliau a rhyddid yr unigolyn sofran, a’i allu ef neu hi i wneud penderfyniadau cyfrifol drosto’i hun mewn bywyd beth bynnag yw’r amgylchiadau allanol.

Ond er fod y safbwynt hwn yn rhan o briflif gwleidyddol Ewrop gyfan, mae’r dadleuon hyn fel petai nhw’n brin eithriadol yn Gymraeg. Bron nad oes yna ryw synnwyr eu bod nhw’n dadleuon estron ac anghyfarwydd inni’r Cymry rhywsut.

Ond dadl wag yw honna yn y bon, ac mae GWLAD o leiaf yn fodlon rhoi mynegiant iddynt trwy gyfrwng iaith y nefoedd, a cheisio cael y siglen Gymreig syniadol honno yn ôl i fan mwy cytbwys yn ein bywyd cenedlaethol.

Wrth baratoi ar gyfer be fydd yn gyfnod eithriadol o anodd dros y cyfnod nesaf, does ond gobeithio y daw pawb trwyddi.

Ond be bynnag a ddaw, mae dyn yn cael y synnwyr cynyddol mai polisi methiannus ydi cloi, ac y bydd rhaid symud at strategaeth arall gyda hyn.

Mae’r strategaeth hon yn cael mynegiant croyw iawn ar ffurf y ‘Great Barrington Declaration’ sydd wedi ei arwyddo gan 40,000 o feddygon o wahanol wledydd yn gwrthwynebu cloi, oherwydd y difrod mawr i iechyd corfforol a meddyliol unigolion.

Mae’r arweinwyr yn galw am newid trywydd sylfaenol gan lywodraethau, a symud at yr hyn a elwir yn ‘focused protection’.

Golyga hyn ofalu a gwarchod y 15% o’r boblogaeth allai fod yn agored i gael eu heffeithio gan y firws, ond caniatau i’r 85% arall sy’n rhydd rhagddo i allu parhau i fyw eu bywydau yn ol eu harfer.

Eisoes, mae dros hanner miliwn o bobol wedi llofnodi’r datganiad hwn a’r tebygrwydd ydi y bydd llawer iawn mwy o bobol yn ei lofnodi dros yr wythnosau nesaf.

Bydd yn ddiddorol iawn gweld pwy o bleidiau Cymru fydd yn symud gyda’r momentwm sydd gan y symudiad hwn dros y misoedd nesaf.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.