[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]
MAE sibrydion ar droed bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu gohirio’r etholiad ym mis Mai.
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford eisiau pasio deddf a fyddai’n rhoi’r hawl iddo ohirio etholiad Senedd Cymru hyd at 6 mis.
Y bwriad mae’n debyg ydi cynnig rhywfaint o hyblygrwydd yn wyneb y sefyllfa bresennol gyda’r coronavirus yng Nghymru.
Ond, yn ol y blaid newydd, Gwlad, does dim unrhyw reswm dros ohirio’r dyddiad pam caiff etholwyr Cymru yr hawl i fynegi barn ar berfformiad eu llywodraeth.
‘Mae’r dydd o brysur bwyso yn dod, a’r cwbwl y mae’r son am ohirio yn ei wneud ydi creu argraff o lywodraeth sy’n ofni cael eu fotio allan’ meddai Gwyn Wigley Evans, Arweinydd Gwlad.
Dywedodd y byddai’n’ fix’ ar ben ‘fix’ o ystyried y ddel sydd eisoes wedi ei tharo rhwng Drakeford ac Adam PriMae ce i rannu grym wedi’r etholiad.
‘Mae’r sefydliad yn y Bae yn chwerthin ar ein pennau ni yr etholwyr hefo’u fixes bach gwleidyddol tu ol i ddrysau caeedig’.
‘Ond falle eu bod nhw’n ddall i’r ffaith fod pobol yma bron a thorri eu bol isio mynegi eu barn gonest ar bopeth sydd wedi digwydd yn ddiweddar’
‘Ac i’r 55% sydd byth yn fotio fel arfer – ein neges ni ydi, dowch allan a fotiwch dros bobol newydd y tro hyn’.
Dywedodd ei fod yn derbyn y byddai’n etholiad gwahanol i’r arfer ac y byddai’n rhaid i’r holl bleidiau feddwl am ffyrdd newydd o gyrraedd etholwyr pe nai bai ymgyrch arferol yn bosib.
‘Ond mi rydan ni fel etholwyr wedi disgwyl 5 mlynedd i gael mynegi barn ar Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhaid i’r farn honno gael ei chyflwyno doed a ddelo’.
Byddai’n benderfyniad rhyfeddol gohirio Etholiad Cymru o gofio am y llu o etholiadau sydd wedi’u cynnal ar eu dyddiau priodol ar hyd a lled y byd y llynedd er gwaetha coronavirus.
Megis America, Yr Aifft, Nigeria, India, De Korea, Indonesia, Slovenia, Gwlad Pwyl, Israel, Jamaica, Ghana, Taiwan, Bolivia a Lithuania.
Os yw’r holl wledydd hyn yn gallu cynnal etholiad gyda’r argyfwng ar ei waethaf, byddai’n adlewyrchu’n wael iawn ar Gymru pe bai’n gohirio ei dyddiad etholiadol ei hun.