Diolch am Gryfder y Cymoedd

[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

MAE’N debyg mai dweud diolch byth am y cymoedd y dylem ei wneud wedi rhyddhau’r ffigyrau diweddaraf am Hunaniaeth Gymreig yng Nghymru.

Cafodd y ffigyrau hunaniaeth eu datgelu gan Lywodraeth Cymru dros y Sul – gyda sawl ardal dwyreiniol ymhell ar y blaen i’r gweddill.

Gyda Blaenau Gwent ar y brig gydag 86% o’i phoblogaeth yn hawlio Hunaniaeth Gymreig, gyda Merthyr yn ail ar 84% a Chastell Nedd Port Talbot yn drydydd ar 81%.

Ond gyda Chymru gyfan ar ffigwr o 63%, sobreiddiol iawn oedd gweld Ceredigion yn disgyn i 52% erbyn hyn.

Gyda Wrecsam ar y ffin gogledd-dwyreiniol ar y blaen iddi erbyn hyn ar 55%, gyda Sir y Fflint ar waelod y rhestr ar 37%.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwlad bod y ffigyrau yn dangos eto bod yna Hunaniaeth Gymreig gwbl allweddol yn ardaloedd poblog y de-ddwyrain.

‘Mi rydan ni’n grediniol bod yr ardaloedd hyn yn ganolog i sicrhau rhyddid i Gymru, a dyna pam yr ydan ni yn anelu neges Gwlad atynt yn benodol’ meddai.

‘Mae yna ofod clir yno ar gyfer plaid genedlaetholgar bragmataidd – sydd ddim yn cwrso pob achos ffasiynol dan haul, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar y materion economaidd a cymdeithasol hynny sy wir yn bwysig i bobol yna’ meddai.

‘Dyma’r ardaloedd lle bydd ein prif sylw ni yn ystod yr etholiadau lleol ym mis Mai’.

Mae’r Ystadegau hefyd yn dangos bod model y Gymru Driphlyg (Y Fro Gymraeg, ‘Welsh Wales’, a ‘British Wales’) yn dal mewn bodolaeth mewn difri.

Ond bod integriti daeryddol y Fro Gymraeg ei hun dan warchae bellach o ystyried ffigwr Ceredigion o 52%. Gyda Mon ar 60%, Caerfyrddin ar 67% a Gwynedd ar 70%.

Gellid dadlau bod prydferthwch naturiol yr ardaloedd hyn yn fwgan mewn ffordd gan eu bod yn fwy tebyg o ddenu pobol ddwad yn sgil hynny.

Gyda gwedd mwy ol-ddiwydiannol ardaloedd y Cymoedd ddim cymaint o atyniad i’r garfan hon, gan olygu bod yr Hunaniaeth Gymreig cymaint cryfach yno o hyd.

Mae’r clytwaith Cymreig hwn yn broblemus wrth geisio llunio un narratif genedlaethol, ac yn sicr bydd angen llunio negeseuon cynnil wahanol mewn ardaloedd neilltuol os yw’r ymdrech dros annibyniaeth am lwyddo yn y pendraw.

Gan y bydd rhaid ennyn cefnogaeth o’r dair ‘rhanbarth’ i ryw raddau i gyrraedd y trothwy o 55% sydd wedi’i osod gan y Gymuned Ryngwladol ar gyfer ennill annibyniaeth.

Mae’r clytwaith Cymreig gwydn a pharhaus hwn yn galw am negeseuon gofalus a pwrpasol gan YES Cymru pan gychwynnan nhw arni eto gyda’i hymgyrchu.

A’r clytwaith hefyd wrth gwrs yn cyfiawnhau’r angen am fwy nag un plaid genedlaethol wleidyddol i gael y maen i’r wal.

Mewn amrywiaeth mae nerth.

Un sylw ar “Diolch am Gryfder y Cymoedd

  1. Barn bersonol, rhywbeth greddfol efalle, ond tybiaf mae presenoldeb prifysgol Seisnig ei natur yn Aber yn ran allweddol yn y dirywiad Cymreictod yn y sir. Hefyd bu prifysgol Llambed yn ffactor er yn ol pob son does fawr o neb yno mwyach. Wrth gwrs fe ddaeth nifer o estroniaid i’r sir a cwmpo mewn cariad a hi. Digon anturiol, ond er y cariad lleuafrif bach yn unig a wnaeth ymdrech y ddysgu’r iaith a gwir ymdoddu i’r gymuned lleol. Dylanwad seisnigeiddo oedd eu prif nodwedd.

    Yn dilyn y llu dysgedig, daeth llu gwahanol. Pobol ar eu gwyliau yn penderfynu symud i’r sir i ymddeol neu i gael swydd arall. Rhain eto yn gweld fawr ddim pwrpas yn dysgu’r iaith a gafael yn gwerthoedd sylfaenol eu cymunedau.

    Dim nifer fawr ar yr un tro ond dros degawd neu ddwy, neu dair mae eu effaith lluosogol yn fawr. Caled neu amhosib ei throi yn ol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.