Diwedd Traddodiad Cymreig

[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

WRTH i un o ffigyrau amlycaf y Senedd gyhoeddi ei hymadawiad, mae’n debyg bod hynny hefyd yn arwyddo diwedd traddodiad Cymreig hiroedlog iawn.

Cyhoeddodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, ac aelod y Democratiaid Rhydfrydol dros Frycheiniog a Maesyfed, y bydd yn gadael y byd gwleidyddol yr haf nesaf.

Gan adael y Democratiaid Rhydfrydol wedyn heb yr un cynrychiolydd yn y Senedd na San Steffan.

A gyda dim ond cwta 60 o gynghorwyr lleol yn weddill ganddynt trwy Gymru a thua 6,000 o aelodau yn unig, mae’n edrych yn dywyll fel y fagddu arnynt ran eu rhagolygon cyffredinol bellach.

Mae Kirsty Williams wedi cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed ers 22 o flynyddoedd, ac wedi meithrin pleidlais personol gref yn yr etholaeth dros y blynyddoedd hynny.

Cafwyd canmoliaeth cyffredinol iddi hefyd yn ei gwaith fel Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru dros y cyfnod diwethaf hwn.

Roedd ei chydymdeimlad naturiol gydag ysgolion gwledig hefyd fel chwa o awyr iach wedi’r holl weinidogion addysg Llafur blaenorol, oedd yn blaenoriaethu anghenion yr ardaloedd poblog uwchlaw pobman arall.

Mae’n debyg mai Jane Dodds, eu harweinydd newydd fydd yn ceisio olynu Kirsty Williams yn yr etholaeth, ond fydd pethau ddim yn hawdd iddi a hithau’n treulio hanner ei hamser yn Llundain.

Ac fe fydd y pleidiau eraill hefyd yn siwr o dargedu Brycheiniog a Maesyfed yn drwm fis Mai nesaf, fel siarcod yn arogli gwaed yn y dwr wedi ymadawiad Kirsty Williams o’r llwyfan gwleidyddol.

Ar un ystyr byddai diflaniad y Democratiaid Rhyddfrydol o fywyd gwleidyddol Cymru yn drist iawn, o gofio am holl gyflawniadau’r Blaid Ryddfrydol yma o’i dechreuad yn 1859.

Yn ystod y 60 mlynedd dilynol, nhw oedd Y grym gwleidyddol yng Nghymru a llwyddiannau megis Diwygiadau Tir, System Addysg Newydd a Dadsefydlu’r Eglwys Wladol ymhlith eu gorchestion pennaf.

Ond colli tir i Lafur ac yna i Plaid fu eu hanes cyson ers diwedd y rhyfel byd cyntaf wrth i’r rhod wleidyddol droi wedi 1914.

Ac er iddyn nhw gael eu hail-lansio fel y Democratiaid Rhydfrydol yn 1988, doedd dim modd troi’r llanw hanesyddol o ddirywiad yn ei ol.

Dirywio’n ddifrifol hefyd dros y cyfnod hwn wnaeth hunaniaeth Gymreig y blaid, wrth iddi droi’n megis cangen ddi-nod o’r Blaid Brydeinig ag ideoleg fetropolitan llethol y blaid honno.

Yn fwy diweddar hefyd, mae’r Blaid wedi cael yr enw anffodus o fod yn stumddrwg iawn o ran y modd y mae’n nhw’n ymgyrchu mewn etholiadau ar bob lefel.

Ac fe ellid dadlau mai’r coup de grace iddynt fel plaid oedd y modd y cafodd eu clymblaid od gyda Phlaid Cymru a’r Gwyrddion ei wrthod gan yr etholwyr mewn modd mor bendant yn yr Etholiad Cyffredinol yn 2019.

Ond er fod y Democratiaid Rhyddfrydol ar fin diflannu o dan y Don yng Nghymru, efallai bod modd cadw gafael ar rai o egwyddorion rhyddfrydiaeth glasurol fel elfennau sydd o werth o hyd i gymdeithas.

Megis y pwyslais ar barchu syniadau’r naill a’r llall, rhyddid yr unigolyn, hawliau sifil a rhyddid barn.

Syniadau sy’n bwysicach nag erioed heddiw mewn oes ble mae cymaint o bolareiddio barn yn digwydd ymhob cyfeiriad.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *