Model Dda i’w Hefelychu

[Gellir ddarllen yr erthygl hon ar ein tudalen Facebook hefyd]

ROEDD rhywbeth llawer mwy na phel-droed yn yr aer neithiwr gyda buddugoliaeth gampus tîm peldroed Cymru yn erbyn y Ffindir.

Bron nad oedd gweld y tim ifanc yn disgleirio cymaint ar y cae megis trosiad cynhyrfus ar gyfer cenedl ifanc sy’n prysur brifio hefyd.

Mae gweld dawn chwaraewyr newydd fel James, Ampadou, Rodon, Niko Williams, David Brooks, Harry Wilson a Tom Lawrence yn ddiamau’n hwb i genedl gyfan.

Ac fe roedd hi’n arwyddocaol iawn gweld Cymru’n curo’r Ffindir mewn ffordd, a hithau’n wlad y gellid ceisio ei hefelychu mewn cymaint o ffyrdd.

Mae’r efelychu hwn eisoes wedi digwydd ar un lefel o ystyried perthynas Cymru gyda ‘Finlandia’ gan Sibelius (1899) – un o’r darnau cerddorol mwya eiconic yn y byd clasurol.

Emyn o fawl i’w wlad a theyrnged i’w gwydnwch a’i hewllys i oroesi ydi ‘Finlandia’, a gafodd ei throsi’n emyn Cymraeg sef ‘Dros Gymru’n Gwlad’ gan Lewis Valentine.

Mae’r Ffindir, ddathlodd can mlynedd o annibyniaeth yn 2018 yn fodel o wlad fechan y gellid ymgyrraedd ati mewn sawl ffordd.

Y llynedd, fe’i dyfarnwyd y wlad orau yn y byd o ran ansawdd bywyd, addysg, a bwrlwm economaidd.

Gyda’r Fforwm Economaidd Byd hefyd yn datgan mai hi oedd y wlad fwyaf arloesol (innovative) fesul capita yn y byd.

Yn ol y Comisiwn Ewropeaidd yn 2018, mae gan bobol Y Ffindir fwy o ymddiriedaeth yn y naill a’r llall nag unrhyw wlad arall yn Ewrop.

Ac fe’i dyfarnwyd yn un o’r gwledydd lleiaf llwgr yn y byd gan y mudiad Transparency International yn 2018 – ffaith i bigo cydwybod Cymru i’r byw efallai.

Mae’r Ffindir hefyd yn ymhyfrydu mewn bod yn ‘genedl ffit’, gyda 72% o’r boblogaeth yno yn ymarfer corff pob wythnos, o’i gymharu gyda chyfradd o 39% trwy Ewrop yn gyffredinol.

Dyma faes arall y mae Cymru ymhell ar ei ol hi ar hyn o bryd gyda’i holl sgil-effeithiau iechydol negyddol yma.

Ond falle mai un o’r elfennau mwyaf diddorol o ran dyfodol Cymru ei hun, yw ystyried perthynas Y Ffindir (5m o boblogaeth) gyda’i brawd mawr hithau, sef Rwsia (144m).

Mae’r ddwy wlad yn rhannu ffin sy’n 800 milltir o hyd, pedair gwaith y ffin sy’n bodoli rhwng Cymru a Lloegr.

‘Mae hon yn ddilema barhaus i’ r Ffindir – problem sydd heb ateb, ond un sy’n rhaid ceisio ei rheoli’ yn ol un diplomydd Ffineg yn ddiweddar.

Un o’r ffyrdd y maent wedi ceisio rheoli’r broblem yw meithrin ‘perthynas arbennig’ gyda Rwsia – tipyn o gamp o gofio am y brwydr mawr rhwng y ddwy wlad mewn cyfnodau yn ystod yr 20ed ganrif.

Ond mae’r ‘berthynas arbennig’ hon sydd wedi ei meithrin mor ofalus dros y blynyddoedd wedi talu ar ei ganfed iddynt.

A phwy a wyr – efallai bydd angen i Gymru feithrin ei ‘pherthynas arbennig’ ei hun gyda Lloegr yn y dyfodol  – o gofio am ei phresenoldeb enfawr ar ein ffin a’i holl dylanwad dros ein bywydau mewn cymaint o ffyrdd.

Yr wythnos hon, mae’n ymddangos fod llawer yn meddwl ein bod eisoes wedi cyrraedd gwlad yr addewid wrth weld 59% o’r boblogaeth yma yn cefnogi ‘devo max’ (mwy o bwerau ond cadw amddiffyn a polisi tramor yn Llundain).

Ond efallai y byddai’n dda cofio mai annibyniaeth alluogodd Y Ffindir i ddatblygu cymaint fel cenedl dros y ganrif ddiwethaf.

Ac mai annibyniaeth hefyd barodd iddi gael y parch a’r gydnabyddiaeth briodol gan ei brawd mawr i’r dwyrain.

Mae yna wers i Gymru yn fanna.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.