Etholiad Rhyfedd Cymru

[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

WRTH i’r ymgyrch etholiadol ryfedda yn holl hanes datganoli ddod i ben, does neb yn gwybod i sicrwydd sut aiff hi heddiw mewn difri.

Gyda chymaint o amrywiadau ar nifer o lefelau yn dilyn cyfnod mor anghyffredin yn ein hanes, mae nifer o senarios gwahanol yn parhau’n bosib.

Er ei bod hi wedi bod yn ymgyrch farwaidd a hynod siomedig yn gyffredinol, mae’n debyg bod 76% wedi cofrestru i bleidleisio eleni (y ffigwr uchaf erioed).

Sy’n cynnig gobaith y gwelwn ni tua 55% yn bwrw pleidlais – y tro cyntaf i’r ffigwr fynd dros 50% ers cychwyn Datganoli yn 1999.

Ond wedi’r holl heip gan y gwleidyddion am alluogi pobol ifanc 16 ac 17 i fotio eleni, mae’n siomedig iawn gweld mai dim ond 45% o’r rheiny sydd wedi cofrestru i wneud.

Sy’n awgrymu mwy o ddifrawder am wleidyddiaeth ymhlith pobol ifanc na’r boblogaeth yn gyffredinol, ac efallai’n taflu amheuaeth ar strategaeth sawl plaid sy’n gwyro cymaint i gyfeiriad ceisio clust pobol ifanc o’r oedran hwn.

Mae’r ddau bôl piniwn olaf a gyhoeddwyd ddoe yn awgrymu bod y Toriaid yn ennill tir yn gyflym tua diwedd y ras, gydag un ohonynt yn awgrymu y gallen ennill bron i 30% o’r bleidlais.

Efallai bod hyn eto’n dangos mai deinameg gwleidyddol Lloegr sy’n parhau i yrru pethau yng Nghymru.

Gan fod synnwyr cyffredin ar droed yn Lloegr bod y Blaid Lafur yn disgyn yn ddarnau, y siarcod yn amgylchynu ffigwr Keir Starmer druan, a chyfle i bobol ymuno yn yr helfa fawr hon trwy fotio i’r Toriaid yma.

Efallai hefyd wedi blwyddyn mor anodd a heriol, bod ryw synnwyr ar waith, mai cyfnod o sefydlogrwydd sydd ei angen rwan – a chanfyddiad mai’r Toriaid sy’n cynrychioli hynny orau, er gwaetha eu holl ddiffygion.

Roedd y ddau bôl hefyd yn awgrymu bod Plaid yn cael eu gwasgu (lawr i 20%) rhwng y cynnydd hwn i’r Toriaid a gwydnwch y bleidlais Lafur yng Nghymru o hyd.

Gyda’r ffigwr o blaid annibyniaeth ar 35%, mae’n enghraifft pellach o’r bwlch rhyfedd rhwng cyrraeddiad y Blaid ei hun a photensial y mudiad dros annibyniaeth.

Eisoes, mae ambell un wedi awgrymu dros nos mai’r ateb i’r broblem hon yw gweld Yes Cymru’n rhoi ymgeiswyr eu hunain ymlaen yn yr Etholiad nesaf yn 2026.

Ond amser a ddengys a yw’r polau piniwn hyn yn iawn o gofio am sawl achlysur diweddar ble mae’r polau piniwn wedi bod yn anghywir.

Ac mae’n rhaid cofio bod natur etholiadau yng Nghymru wastad yn lleol iawn eu natur, rhagor na chenedlaethol yn aml.

Mae natur yr ymgyrch eleni wedi ei gwneud hi’n anodd iawn i bleidiau bach newydd fel Gwlad i wneud eu marc.

Gydag ymddygiad y cyfryngau traddodiadol wedi gwneud pethau’n llawer anoddach hefyd.

‘Mae ymdrech fwriadol wedi’i wneud gan y sefydliad cyfryngol, BBC, S4C, ITV ayb i beidio rhoi unrhyw sylw i ni na Propel – sy’n gwneud i rywun synhwyro bod pleidiau newydd cenedlaethol yn cael eu gweld fel bygythiad i’r status quo gan rywrai neu’i gilydd’ meddai llefarydd ar ran Gwlad.

Ond ychwanegodd eu bod yn fodlon gyda’r ymgyrch sydd wedi’i redeg yn gyffredinol a’r sylfeini sydd wedi eu gosod ar gyfer y dyfodol.

‘Mi rydan ni wedi dysgu llawer iawn o’r broses, ac wedi gallu meithrin llawer o ymgeiswyr newydd di-brofiad, ac mi fydd hyn i gyd yn gaffaeliad mawr inni at y dyfodol’ meddai.

Mae Gwlad yn cystadlu mewn 14 etholaeth ac ar y 5 rhestr cenedlaethol trwy Gymru.

 

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *