[Gellir ddarllen yr erthygl hon ar ein tudalen Facebook hefyd]
Heddiw, bydd cyfnod o weddi dros Gymru yn cael ei gynnal yng nghanol y clo a dryswch y coronavirus.
Y syniad ydi gwahodd pobol o bob rhan o Gymru i gymryd rhan yn y digwyddiad am 12.00 ar Ddydd Gwener, Tachwedd 6ed.
Cyfle i bobol ymroi i weddi, fyfyrdod neu dawelwch i geisio ysbrydoliaeth a ffordd ymlaen o’r argyfwng presennol.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan grwp bach o weithwyr a gweinidogion yng Ngwynedd sy’n gyflogedig gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
‘Mi gododd y syniad o’n trafodaeth wythnosol ni fel grwp ar Zoom, a’r synnwyr bod angen cynnig rhywfaint o oleuni ar gyfnod sy mor dywyll i bawb ohonom ni yng Nghymru’ meddai llefarydd ar ran y grwp.
‘Ceisio nerth yr ysbryd i’n calonogi ni a’n harwain ni allan o’r twll yma sy’n ymddangos mor ddi-waelod ar hyn o bryd’.
Y themau sydd wedi eu dewis ar gyfer y digwyddiad yw gweddi a newid.
‘Pan fyddwn yn gweddio, gall ein bywyd newid, gall bywydau pobol eraill newid, gall y byd newid ac y gallwn ninnau newid’ meddai.
Ychwanegodd mai’r gobaith oedd y byddai pobol o’r tu hwnt i’r eglwysi hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad.
‘Mae yna synnwyr cynyddol fod pobol yma wedi cyrraedd pen eu tennyn gyda’r sefyllfa o ran y clo ac ati.’
‘A falle’n wir y bydd pobol yn barod i droi at weddi eto i geisio ateb i’r holl argyfwng hwn’.
Un o syniadau’r grwp ydi gofyn i unigolion geisio creu grwpiau bach o 5 – boed yn aelodau teuluol, ffrindiau neu gyd-weithwyr – i gymryd rhan yn y cyfnod gweddi mewn ffordd gyfunol/ar wahan.
‘Er nad oes modd dod ynghyd, mae modd i unigolion greu fflyd o grwpiau bach nerthol iawn fydd yn cydweithredu ar yr un pryd’ meddai
Mae ffilm fer hefyd wedi ei chreu er mwyn hyrwyddo’r digwyddiad.
Mae’r cyfnod o weddi genedlaethol ar ddydd Gwener, Tachwedd 6ed wedi ei seilio ar Salm 88:
‘Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glyst at fy llefain.’