Gwyrdd eu gwedd ond coch eu hanian

GYDA Brexit ar ein gwarthau a neb fawr callach sut beth fydd ei hyd a’i led o hyd, mae hynny yn ei dro yn rhoi lle a chyfle ar gyfer datganiadau carlamus o sawl math.

Ond dim byd cweit mor ddramatig efallai ag ymdrech Caroline Lucas, Arweinydd Y Blaid Werdd yr wythnos hon i gynnig ateb i’r sefyllfa ddyrys hon: sef creu cabinet o “undod cenedlaethol” a fyddai’n cynnwys merched yn unig.

Roedd y cabinet o ferched a awgrymodd Caroline Lucas hefyd yn cynnwys  un aelod seneddol Cymreig, sef Liz Saville Roberts o Blaid Cymru- er nad ydi’n glir iawn oedd hi ei hun yn gefnogol i’r syniad hwn.

Ond doedd fawr o dderbyniad i’r syniad yn gyffredinol, gydag elfennau o’r chwaeroliaeth eu hunain ymhlith y cyntaf i gwyno amdano, gan mai dim ond merched gwyn a enwyd gan Caroline Lucas yn ei chabinet.

Arweinydd y Gwyrddion yn gorfod rhwyfo nol

Cwyn arall a leisiwyd gan rai ohonynt oedd y diffyg merched traws yn y tim a fyddai’n cael ei arwain, yn ddigon naturiol gan Ms Lucas ei hun.

Roedd peth o’r ymateb i’r diffygion hyn yn reit ffyrnig  a dweud y lleiaf  a bu’n rhaid i Caroline Lucas, syrthio ar ei bai yn wyneb yr ymosodiadau hyn gan ei chyd-deithwyr.

A welwyd gwell enghraifft o’r “disconnect” presennol rhwng be sy’n ymddangos yn syniad da i wleidyddion yn eu echo-chambers eu hunain yn San Steffan a’r farn gyffredinol ar lawr gwlad?

.Er y rhwyfo nol ganddi wedyn, y syniad sylfaenol a fynegwyd gan Caroline Lucas oedd bod rhinwedd a doethineb a chrebwyll yn dod yn awtomatig i  rai unigolion a hynny oherwydd eu bod nhw’n ferched.

Doethineb a chrebwyll yn perthyn i un rhyw yn unig?

Ac y byddai’r holl rinweddau hyn  ar waith mewn ‘cabinet cenedlaethol’ yn llawer rhagorach na’r cawlach cyffredinol a welwyd yma ers 2016.

Be’ ar wyneb y ddaear ddigwyddodd i’r syniad hwnnw bod rhinwedd, doethineb,  a chrebwyll yn gallu nodweddu dynion a merched fel ei gilydd mewn bywyd?.

Yn ogystal ag annoethineb, diffyg crebwyll a diffyg rhinwedd ar brydiau hefyd ymhlith y naill a’r llall

Yr union reswm pam fod rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw llygad barcud ar wleidyddion trwy’r amser, boed nhw’n ddynion neu’n ferched.

Yn amlwg, ddaru Ms Lucas erioed ddarllen llinellau anfarwol y bardd R. Williams Parry. Cyfaddefiad personol gan y bardd, ond geiriau perthnasol i’r ddau ryw fel ei gilydd:

‘Rwy’ n wych, rwy’n wael, rwy’n gymysg oll i gyd’. 

Efallai dylai Liz Saville Roberts gynnig copi, a chyfieithiad o’r gerdd iddi.

Plaid sy’n cynnwys llawer o “ideologues”

Ond mae datganiad Caroline Lucas hefyd yn tynnu ein sylw at elfen broblemus sy’n perthyn i’r Blaid Werdd yn gyffredinol- hynny ydi eu bod yn dueddol o gynnwys llawer o “ideologues“- pobol sy’n gosod ideoleg uwchlaw popeth.

Ideoleg uwchlaw synnwyr cyffredin ac uwchlaw realities bywyd i bobol gyffredin yn amlach na pheidio, ynghyd ag ryw olwg du a gwyn iawn ar bethau.

Mae rhai sylwebwyr eisoes yn awgrymu bod rhai gwyrddion cyfoes yn debyg i ddyfr felon( water-melon).Hynny ydi, yn wyrdd ar y tu allan, ond yn goch ar y tu fewn.

Hynny ydi, eu bod nhw’n dechrau ymdebygu i ideoleg arall o’r gorffennol a fu hefyd yn awdurdodol iawn wrth reoli ymddygiad a dewisiadau pobol yn y gorffennol yn enw achos uwch.

Gellid dadlau wrth gwrs fod y gymhariaeth hon gyda chochion gwaedlyd y gorffennol yn hollol amhriodol.

Wedi’r cwbl byddai’r rhan fwyaf o bobol resymol yn cytuno bod syniad sylfaenol y Gwyrddion- sef gofalu am ein daear a’n hamgylchedd naturiol yn bwysig iawn heddiw.

Mae pawb yn gallu gweld bod yna broblemau pendant sydd angen sylw- y llygredd yn ein hafonydd a’n moroedd fel un enghraifft amlwg iawn.

Mae yna sylweddoliad cynyddol hefyd ynghylch pa mor anghynaladwy yw consumerism rhemp y gymdeithas gyfoes.

Annog euogrwydd ymhlith unigolion

Ond, mae yna elfennau problemus ym mheth o feddylfryd y Gwyrddion. Un o’r rhai pennaf yw’r “Oikophobia” hwn sy’n cael ei ei hyrwyddo ganddyn nhw bellach, sef annog math o euogrwydd a hyd yn oed casineb at eu cymdeithas ein hunain ymhlith pobol- am achosi’r holl broblemau hinsawdd a welir yn ein byd cyfoes.

Gyda’r hunan-gasineb hwn wedyn yn fodd i baratoi pobol ar gyfer mesurau llym ac i gael eu trethu’n drwm gyda threthi carbon i leihau lefelau Co2 yn yr amgylchedd-eu cosb am achosi hyn i ddigwydd.

Beth bynnag yw’r gwir am newid hinsawdd- ac mae’n sefyll i reswm fod yr hinsawdd wastad yn newid – go brin bod annog pobol i hunan-gasau eu cymdeithas a’u rol nhw eu hunain o fewn y gymdeithas honno yn beth seicolegol iach o gwbwl.

Gyda’r syniadau hyn yn aml yn cael eu hwrjo gan griw o bobol sy’n moesoli ac yn honni eu bod yn gwybod yn well na phawb arall. Bron nad oes modd ei weld fel ‘crefydd’ newydd yr oes seciwlar hon.

Un o’r rhai sydd wedi tynnu sylw at y duedd hon i foesoli gyda materion fel hyn yw’r awdur Ffrengig, Christopher Guillay.

Yn ei lyfr Twighlight of the Elites’, mae’r awdur yn cyfeirio at fudiad y Gilets Jaunes yn Ffrainc a’r bwlch anferthol rhwng y Ffrainc Ymylol a’r Ffrainc Ddinesig heddiw.

Dywed fod y terfysg parhaus yn Ffrainc wedi ei danio gan bemderfyniad yr Arlywydd Macron i osod trethi carbon ar drigolion Ffrainc, gan ddwysau holl broblemau trigolion y Ffrainc Wledig, oedd eisoes wedi cael llond bol ar globaleiddio, a’r tocio parhaus ar wasanaethau yn yr ardaloedd gwledig yno

Sonia’r awdur am y ‘bobos’ sy’n moesoli am yr amgylchedd a materion eraill o’u citadels dinesig, gan osod eu hunain yn foesol well ac yn fwy goleuedig na thrigolion cefn gwlad.

A’r rhagoriaeth hwn i’w weld yn eu pwyslais ar ‘identity politics’, globaleiddio ac wrth gwrs yr angen am drethi carbon i ‘achub’ y blaned.

A hynny yn ol yr awdur yn ffurf ar “reolaeth gymdeithasol” lem dros y rhai hynny sy’n ddigon  anffodus I gael eu u heithrio rhag rhagoriaethau bywyd dinesig.

Falle y dylai Caroline Lucas feddwl am gynnwys y llyfr hwn ar ei rhestr o lyfrau gwyliau yr haf hwn. .

Ac efallai hefyd y dylai unrhyw blaid sy’n meddwl closio at y Blaid Werdd ail-ystyried rol y saga fach hon.

Sylw GWLAD: Mi rydan ni yn hapus iawn i ddatgan nad ‘ideologues‘ fel hyn ydan ni. Mae rheiny yr un mor berig boed nhw’n dod o’r chwith neu’r dde fel ei gilydd. Yn ferched neu yn ddynion!

Yn hytach, atebion ymarferol a phragmataidd a gynigwn ni, yn seiliedig ar anghenion Cymru ei hun. Nid pethau sy’n plesio pobol ddylanwadol o’r naill ochr wleidyddol neu’r llall yn y bubble anferth hwnnw yn San Steffan.

Nac ychwaith achosion sy’n ffasiynol ymhlith y “chattering classes” metropolitan heddiw.

Cyhoeddwyd yn Blog

Un sylw ar “Gwyrdd eu gwedd ond coch eu hanian

  1. Erthygl arbennig o dda Aled; ac R. Williams Parry yn llygad ei le, fel pob amser.

    Oni fyddai pethau’n llawer gwell tasai merch wedi bod yn arwain y broses Brexit hyd yn hyn? O, aros funud…

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *