YFORY (dydd Sadwrn) bydd miloedd o bobol yn ymgynnull yn Nghaernarfon i alw am annibyniaeth i Gymru.
Bydd gorymdaith liwgar i fewn i’r dref dan arweiniad Band Pres Llareggub gyda’r orymdaith yn cerdded rownd y castell cyn crynhoi ar Y Maes i glywed areithiau a chyfraniadau gan wahanol artistiaid.
Dilynir hynny wedyn gan Fforwm Drafod “Llunio Llwybr At Annibyniaeth” yn Copa – a fydd hefyd yn cynnwys un siaradwr o fri, sydd wedi cytuno i lenwi bwlch yn hwyr yn y dydd.
Trafodaeth agored am Annibyniaeth
Bydd grwpiau hefyd yn chwarae yma ac acw yn y dref yn ystod y prynhawn a gyda’r nos gan olygu y bydd yna awyrgylch parti yn para am oriau bwygilydd.
Mae’r orymdaith hon wedi ei threfnu ar y cyd rhwng AUOB (All Under One Banner) a YES Cymru, yn dilyn yr orymdaith lwyddiannus gyntaf yng Nghaerdydd ym mis Mai.
Un elfen nodedig o’r trefniadau fu’r cyd-weithio ardderchog rhwng aelodau YES Caernarfon dros yr wythnosau diwethaf, gyda dros 40 o unigolion o wahanol oedrannau yn dod ynghyd i drefnu holl fanylion y digwyddiad.
Unigolion sydd o bosib gyda gwahanol farnau ynghylch sut FATH o Gymru Annibynol y carent ei weld, ond sydd yn unfryd unfarn bod rhaid cyd-weithio gyda’n gilydd i GYRRAEDD Annibyniaeth yn y lle cyntaf.
Unigolion yn unedig ynghylch un nod
Fel un a fu’n rhan fechan o’r gwaith trefnu lleol, roedd y cwbwl yn enghraifft nodedig iawn o wleidyddiaeth gyfranogol (participative democracy) – gan gynnig model arbennig o gyd-weithio y dylid ei efelychu ar lwyfan ehangach yma yng Nghymru.
Bu’r grwp yn cyfarfod yn rheolaidd yn wythnosol ac yn diweddaru ein gilydd yn gyson trwy negeseuon ar WhatsApp. Ac fe welwyd yr ysbryd tim hwn ar ei orau efallai yn yr 80,000 o daflenni am y rali a ddosbarthwyd gan yr aelodau yn ardal Caernarfon, Bangor ac Ynys Mon dros yr wythnosau diwethaf.
Roedd yr holl broses yn gwneud i ddyn feddwl pa mor gyfyngedig a hen-ffasiwn yw Democratiaeth Gynrychioladol (Representative Democracy) bellach – y syniad o anfon un dyn neu un dynes i gynrychioli miloedd o unigolion ac ardaloedd cyfan yn y Senedd a San Steffan!
Mae’r ymgyrch dros annibyniaeth eisoes wedi rhyddhau pobol rhag y syniad mai dim ond criw o wleidyddion dethol ddylai gael y dweud dros bethau. Fydd pobol ddim isio mynd nol i’w bocs yn sgil hyn i gyd!
Ac mae hanes Cymru, natur ei phobl a’i maint yn ei gwneud yn berffaith ar gyfer model newydd o ddemocratiaeth gyfranogol yma unwaith y llwyddir i ennill annibyniaeth.
Bydd pawb yn ymgynnull ym maes parcio gwaelod Morrisons wrth ddod i fewn i Gaernarfon o gyfeiriad Bangor, a hynny o 12.00 ymlaen. Bydd yr orymdaith yn dechrau am 1.00.
A great call to arms, Aled, but for the benefit of those of us who want to attend but live further away, can you include details of when and where the marchers should gather?
And by the way, not a lot of people know this, but that famous Lincoln quote from the Gettysburg Address wasn’t something he thought up himself: it comes from John Wycliffe’s preface to his 1384 translation of the Bible into English, where he wrote “The Bible is for the Government of the People, by the People, and for the People”.
Darllenais rywle arall fod AWJ yn chwarae rhan ganolog yn trefnu’r orymdaith. Felly llongyfarchiadau i AWJ ag eraill fu’n gyfrifol. Mae’n amlwg fod yna bosibylrwydd o gael “cynulliad” amlbleidiol gyda llai o gecru plentynaidd er fod rhai wedi dal ati i greu rhwyg ddoe. Diolch am eich ymdrechion.
Diolch am y sylw caredig Dafis. Mae yna rywbeth gwirioneddol gynhyrfus yn yr ymchwydd hyn dros annibyniaeth: awydd angerddol am newid ond heb gael pleidiau gwleidyddol yn rhan ohono! Anodd rhagweld yn union sut y caiff hyn ei wireddu trwy’r blychau pleidleisiau, ond cytuno bod hyn yn debyg o gynnwys platfform eang ei rychwant na allwn ni ei ddychmygu’n llawn ar hyn o bryd!