Hwb ynteu Ergyd i’r Achos?

[Gellir darllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

BYDD y pol piniwn Cymreig nesaf yn sicr yn un i’w wylio wedi’r stori ffrwydrol am aelodau o’r Senedd yn torri rheolau’r Clo yr wythnos hon.

Cafwyd ymateb cyhoeddus ffyrnig i’r ffaith fod Paul Davies, Alun Davies a Darren Millar wedi bod yn yfed yn y Senedd-ddyddiau’n unig wedi cyflwyno Clo oedd yn gwahardd pobol rhag mynd i gymdeithasu ac yfed mewn tafarndai.

Yn eu pol piniwn ar gyfer Ionawr (cyn i’r stori hon dorri), y patrwm arferol a welwyd gan YouGov, gyda Llafur ar y blaen gyda 34%, Y Toriaid yn ail ar 26% a Plaid yn drydydd ar 22%.

Ar ben arall y spectrwm, cafodd y Gwyrddion 6%, Reform UK, Plaid newydd Nigel Farage 5%, Y Lib Dems 4%. Rhestrwyd Gwlad ymhlith y 4% i ‘eraill’.

Yn ddiddorol iawn, roedd yr ymatebion i’r cwestiwn o annibyniaeth i Gymru yn y canol rhwng ffigyrau’r prif bleidiau, ar 29%, gan awgrymu bod y dyhead hwn yn torri ar draws ffiniau’r prif pleidiau mewn difri.

Gan fod patrymau pleidleisio Cymru fel blociau disymud o rew ers blynyddoedd, y ffigwr annibyniaeth ydi’r un mawr i’w wylio bellach: yr elfen newydd sy’n ysgwyd y pair o’r diwedd.

Y cwestiwn i’w ofyn efallai ydi a fydd y sgandal yn y senedd yn rhoi hwb yntau rhoi ergyd i’r ffigwr dros annibyniaeth fis nesaf?

Ar y naill law, gellid dadlau bod ymddygiad gwleidyddion unoliaethol (2 Dori ac 1 Llafur) yn cryfhau’r ddadl bod rhaid wrth drefn hollol newydd yng Nghymru, hynny yw annibyniaeth.

Ar y llaw arall, mae yna berig y bydd pobol yn cysylltu’r stori gyda’r Senedd ei hun, a hynny yn ei dro yn cryfhau dadl plaid fel ‘Abolish’ nad annibyniaeth ydi’r ateb o gwbl, ond yn hytrach cael gwared ar y Senedd yn llwyr.

Roedd hi’n reit arwyddocaol yn y pol piniwn mai 0% oedd canran Abolish yn yr etholaethau, ond 7% ar y rhestr, sy’n awgrymu bod eu cefnogwyr eisoes yn gwybod sut i chwarae’r system wleidyddol Gymreig.

Gan ddysgu o’u rhagflaenwyr UKIP, oedd hefyd wedi perffeithio’r grefft o gywain pleidleisiau ar y rhestr er mwyn cael cynrychiolaeth yn y Senedd.

Mae’n adeg gythryblus iawn ar hyn o bryd a gwrthwynebiad cynyddol i’r Clo sy’n achos cymaint o ddifrod meddyliol, cymdeithasol ac economaidd i bobol ar hyd a lled Cymru.

Mae’n fwy na thebyg y bydd y ffactor yma yn dechrau chwarae rhan amlwg yn y patrymau pleidleisio cyn hir.

Byddai rhywun yn tybio mai Llafur, fel y llywodraeth bresennol, fydd yn cael eu cosbi waethaf gyda hyn.

Amser a ddengys ble aiff yr holl bleidleisiau protest: ai i gyfeiriad y symudiad at annibyniaeth neu i’r cyfeiriad arall yn llwyr.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *