Iaith Fel Trysor Cymunedol

[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

WYTHNOS nesaf, bydd y Cyfrifiad Cenedlaethol yn cywain manylion am gyflwr y Gymraeg trwy Gymru yn 2021.

Ond hyd yn oed cyn i hwnnw gyrraedd, cafwyd tystiolaeth boenus iawn am gyflwr yr iaith yn un o’n cadarnleoedd.

Gyda’r newydd y gallai bod hyd at chwarter o rieni Cymraeg Môn yn dewis peidio trosglwyddo’r iaith i’w plant am ryw reswm neu’i gilydd.

Ar ben hynny, cyhoeddodd Cyfarwyddwr Addysg y sir nad oedd hi’n ddichonol bellach i ddisgwyl i’r system addysg fel ag y mae i wneud yn iawn am y broblem hon.

Yn rhyfedd iawn, roedd rhybudd y Cyfarwyddwr Addysg yn cyd-fynd yn hollol gyda’r hyn a fynegwyd mewn adroddiad ar gyflwr yr Aeleg yn Yr Alban yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd yr arbenigwr ieithyddol Conchur O’Giollogain bod angen meddwl o’r newydd am sut i gynnal cymunedau o siaradwyr, rhagor na disgwyl i sefydliadau fel ysgolion i achub y dydd.

‘It is axiomatic that language can only live in a community of speakers as opposed to being preserved institutionally, such as in schools, media and quangos’ meddai.

Ac er mai son am yr Alban yn benodol yr oedd o, mae’r neges yr un mor berthnasol ar gyfer y sefyllfa fan hyn hefyd.

Efallai fod yr un duedd yng Nghymru i gredu mai sefydliadau fel S4C, Comisiynydd Iaith, y Blaid Lafur ac ati ydi’r achubiaeth heb gydnabod mai atebion ar lefel mwy organig, a chymunedol sydd eu hangen ar yr iaith mewn difri .

Un syniad sydd gan O’Giollogain ydi creu Cronfa Ddatblygu Gaeleg yn Gymunedol – a fyddai’n cael ei reoli gan bobol leol nid biwrocrats proffesiynol.

A fyddai’n cael ei rymuso i redeg rhaglen ddiwylliannol-cymdeithasol-economaidd trwy’r Aeleg a ellid ei fesur yn drylwyr pob blwyddyn.

‘The language budget needs to be re-directed to focus on beneficial social outcomes for ordinary Gaelic speakers’ meddai.

Falle bod yna wersi ar gyfer ein hardaloedd Cymraeg ninnau yn fan hyn.

Yn sicr, mae angen edrych o’r newydd ar sut i gynnal a cryfhau’r iaith yn y cadarnleoedd olaf megis Ynys Môn.

Un syniad newydd sydd gan Gwlad i’r cyfeiriad hwn ydi addysgu aml-genhedlaeth(multi-generational) ,yn enwedig er mwyn delio gyda heriau’r cyfnod ol-covid.

Hynny yw, bod angen tapio mewn i brofiad a doethineb pobol o bob oed er mwyn ail-ddychmygu be ydi holl bwrpas a diben addysg ar gyfer y cyfnod newydd o’n blaenau.

Gan hyderu y byddai cyd-addysgu newydd rhwng pobol o bob oed yn fodd i gynhyrchu atebion gwreiddiol ac organig mewn sawl cyfeiriad gwahanol.

‘Fel rhan o hyn, byddem ni am gyflwyno’ r syniad o’r Gymraeg fel ‘trysor cymunedol’ y gall bawb gael eu cyfoethogi ohono-yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd’ meddai llefarydd ar ran y blaid.

‘A hwn ar gael i bobol o bob oed, y tu hwnt i’r system addysgol arferol’.

Trysor y Gymraeg i bawb ohonom oedd dan sylw gan William Morris yn ei gerdd enwog i Fon:

‘Iaith hon a’i chyfoeth inni a rannodd
Goronwy o’i dlodi
Adwaen hud ei hawen hi
Hud awen na fyn dewi’

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.