[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]
ROEDD dydd Gwener yn ddiwrnod hanesyddol i Gwlad gydag ethol ein harweinydd fel cynghorydd sir cyntaf y blaid.
Bydd Gwyn Wigley Evans yn cynrychioli Gwlad dros ardal Llanrhystud ar Gyngor Sir Ceredigion wedi ei fuddugoliaeth gyffyrddus yn yr etholiadau lleol.
Gyda gogwydd o bron i 40% oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn dal y sedd, dyma oedd buddugoliaeth etholiadol cyntaf y blaid ers ei ffurfio tair mlynedd yn ol.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwlad bod trothwy seicolegol bwysig wedi ei chroesi.
‘Gwyddom fod tipyn o gefnogaeth dawel inni’n barod, ond llawer efallai’n disgwyl i weld a allem dorri trwodd cyn ymroi i’r achos’ meddai.
‘Ond gydag ethol Gwyn Wigley Evans a chael platfform swyddogol gyda hynny, disgwyliwn weld mwy o gynnydd yn ein cefnogaeth rwan’.
Ychwanegodd bod Mr. Evans wedi rhedeg ymgyrch effeithiol iawn yn ei ward gan ganolbwyntio ar faterion lleol ac awgrymu atebion ymarferol i’r materion hynny.
‘Roedd ei ymgyrch yn adlewyrchiad o’r agwedd bragmataidd ac ymarferol at bethau sydd ganddon ni fel plaid yn gyffredinol’ meddai.
Roedd yr etholiad yn nodedig am y gurfa a gafodd y Ceidwadwyr yng Nghymru wrth iddyn nhw golli 86 o seddau gan adael dyrnaid yn unig o gynghorwyr yn weddill yma.
Etholiad dyrnu’r Ceidwadwyr oedd hi i bob pwrpas yma, gyda’r holl gyhoeddusrwydd gwael am ‘Partygate’ ac ati wedi cyfri’n drwm yn eu herbyn.
Diau fod hynny wedi helpu Llafur, gan iddynt ddal eu tir yn well na’r disgwyl, a dim o’r torri trwodd yn eu tiriogaethau hwy yr oedd Plaid Cymru wedi gobeithio amdano.
Yn wir colli 9 o seddau fu hanes Plaid yn gyffredinol, er iddynt ennill rheolaeth dros Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin a chynyddu eu presenoldeb yn Wrecsam.
Gyda Chymru wedi ei rhannu’n dair bloc monolithig- Plaid, Llafur, Annibynwyr o ran seddau, mae pethau i’w weld yn ddi-symud ac ail-adroddus iawn yma ar un wedd.
A’r rhagolygon o ran newid mawr cyfansoddiadol i’w weld yn gryfach o lawer yn Iwerddon ar y naill law a’r Alban ar y llaw arall wedi’r canlyniadau yno.
Ond eto, mae yna fomentwm Cymreig yn datblygu’n araf bach yma gyda’r rali gyntaf dros annibyniaeth ers dwy flynedd i’w chynnal yn Wrecsam ymhen rhai wythnosau.
Ac wrth gwrs bydd y synnwyr o fomentwm gyda hynny gymaint cryfach pe bai modd i’r tim peldroed cenedlaethol ennill eu lle yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar 5ed Fehefin.
Fel Gwlad, credwn fod yr amgylchiadau’n ffafriol eithriadol ar gyfer cynyddu ein proffil dros y cyfnod nesaf hwn.
Gyda chwestiwn annibyniaeth yn debyg o dderbyn mwy o sylw a chyhoeddusrwydd nag a welwyd nag erioed o’r blaen, mae’n adeg da iawn i blaid pro-annibyniaeth arall ddod i fwy o amlygrwydd.
All gynnig gweledigaeth newydd o wlad lewyrchus wedi ei seilio ar lywodraethiant cyfrifol, economi ffynniannus a hunan-hyder diwylliannol.