[Mae’r erthygl hon hefyd ar gael ar ein tudalen Facebook]
MAE esgid fawr San Steffan yn bygwth sathru democratiaeth Cymru yn ddarnau mân.
Mae’r mesur ‘Marchnad Fewnol’ sy’n cael ei drafod yn Llundain ar hyn o bryd, yn rhoi hawliau newydd i San Steffan dros dalpiau helaeth o fywyd Cymru.
Er enghraifft, dros ddwr, nwy, rheilffyrdd, lonydd, iechyd, tai, addysg, chwaraeon, diwylliant ayb.
Gallai hyn weld San Steffan yn bwrw mlaen i adeiladu ffordd newydd yr M4 dros Lefelau Gwent – er fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwrthod y cynllun hwnnw.
Dywedodd Llefarydd Busnesau Bychain GWLAD, Rhydian Hughes, bod angen i bobol Cymru ddeffro i’r bygythiad difrifol hwn i’n democratiaeth.
‘Er mwyn i Gymru allu ffynnu yn economaidd, mae’n rhaid bod ganddom ni’r holl bŵerau yn ein dwylo ein hunain – ond mae’r mesur hwn yn rhwystro hynny’ meddai Mr Hughes, ymgeisydd GWLAD yn etholaeth Aberconwy yn Etholiad Cymru flwyddyn nesaf.
‘Mae gen i ofn y byddwn ni’n cwsg-gerdded i sefyllfa ble fo unrhyw ddatblygiad economaidd yma yn cael ei benderfynu gan bobol heb ddim diddordeb ynom ni fel cenedl o gwbl. ‘
Wrth adael yr UE, bydd holl gyfraniadau trethdalwyr Cymru at y prosiect hwnnw, rwan yn cael ei ail-gylchu a’i wario yng Nghymru ei hun – ac mae hynny i’w groesawu wrth gwrs.
Ond craidd y ddadl ydi, PWY ddylai gael yr hawl i benderfynu sut y bydd yr arian hwn yn cael ei wario yma.
Mae San Steffan am gipio’r hawl hwnnw drostynt eu hunain, gan fynd y tu hwnt i Senedd Cymru i bob pwrpas.
Dywedodd Mr. Hughes ei bod hi’n bryd i’r holl fudiadau/pleidiau dros annibyniaeth yng Nghymru ddod ynghyd i sefyll yn erbyn bwriadau San Steffan.
‘Nid mater o amddiffyn roliau Aelodau Etholedig yn y Bae ydi hyn rwan – mae hyn am fodolaeth Cymru ei hun fel cenedl. Mae’n rhaid inni gyd ddod ynghyd a dweud na i’r ”power grab’ llethol hwn’ meddai.
Mae GWLAD eisoes wedi galw am gynnal Confensiwn Genedlaethol ar frys allai gynnwys yr holl grwpiau/pleidiau sydd o blaid annibyniaeth.
Gallai Confensiwn o’r fath drafod tactegau/strategaethau er mwyn rhwystro San Steffan rhag gallu gweithredu ei chynlluniau yma.
Mae grym San Steffan i’w weld yn llethol ac anorchfygol ar hyn o bryd.
Ond megis yn stori enwog Dafydd a Goliath, mae hanes yn dangos bod modd dymchwel cewri.
Ac mae yna arwyddion cynyddol bod gan y cawr arbennig hwn yn San Steffan lawer o wendidau a mannau gwan yn perthyn iddo.
Pe bai digon ohonom yn penderfynu efelychu esiampl Dafydd yma yng Nghymru, pwy sydd i’w dweud na ellid ei lorio.
Un sylw ar “Mae Dafydd i Bob Goliath”