Nadolig Llawen i Chi Gyd

Wrth i ni ymnesáu at ddiwedd ein blwyddyn gyflawn gyntaf mewn bodolaeth fel plaid, mae bywyd gwleidyddol yng Nghymru yn mynd yn fwy ddiddorol byth. Er i’r ‘mur coch’ dal yn y Cymoedd am yn awr, mae pob rheswm i gredu bod hegemoni hir y Blaid Lafur dros fywyd Cymru yn dirwyn i ben. Mae popeth mewn cyrraedd.

O’r diwedd mae’n debyg fod rhwystredigaeth gyda Phlaid Cymru yn berwi drosodd hefyd, fel bod mudiadau cenedlaetholgar eraill yn ymddangos er i ni arwain y ffordd. Rydan ni’n gwybod am rai carfanau un-neu-ddau person, ond yr un i wylied ydy’r blaid ‘Propel’ newydd bod Neil McEvoy yn cychwyn. Rydan ni wedi bod yn gefnogol iawn i Neil McEvoy o hyd, wrth iddo wneud ei orau glas i ddiwygio Plaid Cymru o’r tu fewn er nad oedden ni’n meddwl fod hynny’n bosib, ac mae o rŵan yn cymryd y cam nesaf rhesymegol. Y cwestiwn mawr ydy, fyddan nhw’n gallu adeiladu ar ei athrylith a’i egni amlwg i ddod yn blaid gyda pholisïau cydlynol a chredadwy a fydd yn cyseinio’n bell o Gaerdydd. Os byddant, fe fydd rhaid i ni ffeindio ffyrdd i weithio gyda nhw, gan fod Cymru’n angen plaid cenedlaethol newydd heblaw Plaid Cymru yn arw, ond dydy hi ddim yn angen dwy ohonyn nhw!

Dydy hynny ddim yn meddwl ein bod ni ar fin gwneud fel Plaid Cymru, gan rhedeg yn ddifeddwl i wneud cyfamodau gyda phleidiau eraill. I’r gwrthwyneb, rydan ni am ymwneud gyda’n aelodau a’n cefnogwyr yn llawer mwy effeithiol nag ein bod ni wedi gwneud hyd yn hyn, i wrando beth eu bod nhw’n meddwl am hon a materion eraill. Gallwch ddisgwyl sawl fenter yn y gyfeiriad hon yn y flwyddyn i ddod, yn cynnwys fforwm trafod preifat ar-lein newydd a rhagor o gyfleoedd i gyfarfod wyneb-yn-wyneb.

Fe wnaethon, wrth gwrs, ymgynghori gyda’n haelodau dros y penderfyniad i sefyll yn yr Etholiad Gyffredinol ddiweddar. Y prif wers y cawsom o hynny oedd pwysigrwydd cael presenoldeb ‘ar y tir’ rhwng etholiadau. Yn ystod yr ymgyrch, ein profiad oedd bod pobl yn ein cymryd ni o ddifri ac yn hoff o’n polisïau pan cafwyd y cyfle i’w trafod nhw, ond doedd dim syniad gan drwch y etholwyr pwy ar y ddaear oeddem ni. Mae’n amlwg nad ydy troi i fyny mewn etholaeth mis cyn etholiad, a rhoi ‘mond yr un daflen trwy ddrws pawb, yn ddigon. Gyda llai na deunaw mis i fynd tan etholiadau’r Senedd, mae’n rhaid i ni gymryd pob cyfle i ddod i sylw pobl, ym mhob congl o’r wlad. Felly fe fyddan ni’n calonogi aelodau i sgwennu llythyrau at eu gwasg lleol – gan roi canllawiau a phatrymau i ddilyn er mwyn hwyluso hyn cymaint â phosib –  a gwylio am is-etholiadau cyngor lle gall aelodau sefyll. Hoffwn, hefyd, annog chi rŵan i ystyried a fyddech chi’n gallu sefyll amdanom ni yn etholiad y Senedd, a dechrau adeiladu proffil yn eich ardal fel ‘ymgeisydd Seneddol arfaethedig’.

Felly, mae digon i wneud blwyddyn nesaf; ond yn y cyfamser, dymunwn gŵyl Nadolig a Blwyddyn Newydd hapus a thangnefeddus i bob un ohonoch.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.