Nid Da Lle Gellir Gwell

[Caiff yr erthygl hon ei darllen hefyd ar ein tudalen Facebook]

CAFODD cynnig i gyflwyno Incwm Y Dinesydd (Citizen’s Income) ei basio yn y Senedd neithiwr.

Cyflwynwyd y syniad gan yr aelod Llafur Jack Sargeant (mab y diweddar Carl Sargeant) ac fe’i gefnogwyd o 27 pleidlais i 13.

Byddai gweithredu’r polisi yn golygu y byddai pob dinesydd yng Nghymru yn derbyn swm penodol pob mis – gyda’r hawl i bawb ychwanegu at y swm hwnnw trwy eu hymdrechion eu hunain hefyd.

Croesawyd y newydd fel man cychwyn addawol gan GWLAD – ond bod angen gwella’r syniad eto fyth.

‘Mae Incwm y Dinesydd wedi bod yn bolisi creiddiol ganddon ni ers ein lansio yn 2018, ac mae’n wych gweld y syniad yn cael y ffasiwn gefnogaeth rwan’ meddai Stephen Morris, Cyd-lynydd Polisi GWLAD.

Ond dywedodd na fyddai’r polisi yn gallu gweithio ohono’i hun o fewn y system dreth bresennol heb gyflwyno newid arall hefyd-sef cyfradd dreth wastad.

‘Mae angen i hwn fod yn fforddiadwy – hynny yw, mae’n rhaid inni allu talu amdano: ac uno Incwm y Dinesydd gyda Threth Wastad ydi’ r ffordd o wneud hynny’ meddai.

‘Y syniad gyda hyn yw fod pawb yn talu’r un gyfradd dreth, fel sy’ n digwydd mewn sawl gwlad fechan arall yn Ewrop erbyn hyn’.

Dywedodd bod mathamateg cyfuno’r ddau bolisi yn dangos ffaith hynod iawn – hynny ydy y byddai mwyafrif llethol y boblogaeth wedyn yn derbyn yr un swm ‘mynd adra’, ag y maent ar hyn o bryd.

‘Gyda phobol sy’n ddiwaith hefyd yn derbyn Incwm debyg i’r hyn sydd ganddynt heddiw – ond heb yr ofn o’i golli pe bai eu hamgylchiadau yn newid’.

‘Gallai hynny wedyn fod yn bolisi sy’ n greadigol ond eto yn ymarferol iawn ar yr un pryd inni yma yng Nghymru’ meddai.

Profodd cynllun pilot gydag Incwm y Dinesydd yn y Ffindir dros gyfnod o 2 flynedd yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar.

Un o’r darganfyddiadau hynotaf oedd y ffaith ei fod wedi gwella iechyd meddwl yr unigolion a gymrodd ran ynddo, a’u gwneud yn fwy gobeithiol am eu hamgylchiadau a’u dyfodol eu hunain.

Neges bwysig i ninnau yma yng Nghymru yn wyneb yr holl anobaith a’r diflastod llethol yma yn y sefyllfa sydd ohoni.

Byddai’n rhaid i San Steffan roi eu sel bendith ar y polisi, gan nad yw trethiant yn rhan o bwerau’r Senedd ar hyn o bryd.

Ond gydag economi sy’n werth £75 biliwn fel ag y mae, pam na allai gwlad o 3 miliwn o bobol wneud llwyddiant o ddiwygio ein system dreth fel hyn?

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *