Oes Modd Uno’r Mudiad Hwn?

[Gellir darllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

MAE YES Cymru ar fin cychwyn arni eto o ran cyflwyno’r neges dros annibyniaeth i Gymru.

Gydag etholiad yr wythnos hon i ddewis y cynrychiolwyr olaf ar eu Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd.

Gydag 14 aelod eisoes wedi’u dewis yn ddiwrthwynebiad, bydd 7 arall yn cystadlu am y dair sedd sy’n weddill (rhanbarth y Canolbarth a’r Gorllewin).

Gan gynnwys un o enwau enwocaf y mudiad cenedlaethol, sef Owain Williams o Glynnog Fawr – dreuliodd gyfnod dan glo am ei brotest yn erbyn boddi Cwm Tryweryn dros hanner canrif yn ol.

Gyda’r mudiad wedi ei blagio gan gecru mewnol am fisoedd, y gobaith yw y bydd penodi Bwrdd o Cyfarwyddwyr Newydd yn fodd i gael y tren yn ol ar y cledrau.

Tipyn o dasg o gofio am yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar, a’r holl aelodau sydd wedi gadael y mudiad dros y cyfnod diwethaf (tua 8,000 o aelodau sy’n weddill bellach).

Mae’r graffeg uchod yn awgrymu peth o’r anhawster sy’n debyg o’u hwynebu wrth geisio uno’r llwythau gwahanol o fewn y mudiad.

Mae’r Deiagram Venn yn disgrifio tair carfan neilltuol sy’n gor-gyffwrdd gyda’i gilydd: Cenedlaetholwyr Diwylliannol, Cenedlaetholwyr Sifig a Chenedlaetholwyr Gwlad a Thir.

Gyda YES Cymru yn y canol yn ceisio cynrychioli’r tri thraddodiad hwn ar yr un pryd (a symbolir yma gan Cylch yr Iaith, Undod, Cymdeithas yr Iaith a Gwlad) a cheisio cadw’r ddesgl yn wastad rhyngddynt.

‘Mae’r graffeg yn dangos bod y mudiad yn eang iawn o ran ei rychwant, ac er fod hynny’n beth da, mae hefyd yn gallu bod yn broblemus o ran cyrraedd tir cyffredin weithiau’ meddai llefarydd ar ran Gwlad.

‘Ac er fod Gwlad wedi ei ddisgrifio yma fel cenedlaetholwyr gwlad a thir a cenedlaetholwyr sifig – byddem ni’n dweud ein bod hefyd yn genedlaetholwyr diwylliannol’.

‘Ac yn hyn o beth, yn rhan o brifffrwd cenedlaetholdeb Ewropeaidd, sydd wastad wedi cynnwys elfennau o’r sifig, y diwylliannol a’r ethnig gyda’i gilydd’

Ond efallai nad uno’r carfannau gwahanol hyn ydi’r dasg bwysicaf un sy’n wynebu YES Cymru rwan.

Ond yn hytrach ceisio uno pobol Cymru yn y gred bod annibyniaeth yn opsiwn rhesymol a phragmataidd i’w ddilyn bellach.

Er y bydd llawer yn ysu am weld gorymdeithiau lliwgar a swnllyd eto, tybed nad oes angen approach gwahanol gyda YES Cymru Mark 2.

Mewn cyfnod mor ansicr a phetrusgar wedi saga’r Covid, efallai nad dyma’r amser am ormod o orchest a tharo’r fron.

Yn hytrach, efallai y byddai hoelio’r sylw am gynnal gweithdai mewn gwahanol gymunedau ar hyd a lled Cymru a siarad gyda phobol am wahanol agweddau o annibyniaeth yn well opsiwn.

Er yr holl emosiwn a’r ‘feel good factor‘ sy’n rhan o orymdeithiau, mae’n gwestiwn faint o ymwneud gyda phobol yn eu cymunedau sy’n digwydd ynddynt go iawn.

Bydd yn waith anodd iawn perswadio pobol i fentro wedi holl drawma ac ofn y cyfnod diweddar hwn.

Bydd gwell gobaith gwneud hynny trwy sgyrsiau tawel a phwrpasol dros y blynyddoedd nesaf.

Pob lwc i’r Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd wrth iddynt gychwyn ar eu gwaith yn 2022.

Cyhoeddwyd yn Blog

Un sylw ar “Oes Modd Uno’r Mudiad Hwn?

  1. Mae un problem wedi bod ers 1920au pan sefydlwyd y Blaid Genedlaethol Cymru – diffyg pobl a diddordeb mewn a gwybodaeth ynghylch sefydu a rhedeg gwlad newydd, er gwaethaf gwrthwynebiad Llundain. Oedd angen pobl tebyg i’r Americanwr Alexander Hamilton, oedd wedi trochi ei hunan mewn materion megis sefydlu Trysorlys, Llysoedd, byddinoedd a llawer mwy: prinder Founding Fathers felly. Nid oedd problem tebyg yn Iwerddon. Dal yn broblem yng Nhgymru heddiw.
    Mae yn problem arall, rol y Chwith yng ngwleidyddiaeth Cymru.
    Mae ‘all under one banner’ yn amhosib yng Nghrymru mae’n debyg. Fydd y Chwith Llundeinaidd/feministaidd yr 80au, na’r ‘wokeism’ ein hoes ni ddim yn caniatau undod dan yr un Faner. Mor drist.
    Cawn weld. Gobeithiwn na ddaw’r clefyd i YesCymru 2.0.
    Onid allwn i gyd uno dan un Faner – Rhyddid i Gymru?

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.