[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]
UN peth sy’n gâs gan y cyhoedd yn gyffredinol yw rhagrith, yn enwedig ymhlith ein gwleidyddion.
Dros y misoedd diwethaf, mae Mark Drakeford wedi brolio dro ar ôl tro cymaint gwell y mae Cymru’n delio’r gyda’r Coronavirus na Lloegr.
A’i lywodraeth o wedi mynnu dilyn llwybr Cymreig penodol wrth wneud hynny.
Ond eto i gyd mae Mark Drakeford bellach wedi penderfynu rhwystro ymchwiliad penodol i Covid yng Nghymru.
Pleidleisiodd Llafur fel bloc yn erbyn ymchwiliad Cymreig yn y Senedd rhai dyddiau ‘nôl, a gan fod y rhifau’n gyfartal, roedd rhaid i’r Llywydd Elin Jones ochri gyda’r llywodraeth.
Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos yn od iawn nad yw Mr Drakeford am i Gymru gyfan wybod y cyfan am yr holl lwyddiannau honedig a welwyd yma.
Gan ymgynnwys dinasyddion Cymru wrth drin a thrafod holl agweddau’r ymarferiad gweladwy hwn o bwerau ymreolaethol Cymru dros y cyfnod diwethaf.
Ond unwaith yn rhagor, buddiannau Llafur a Lloegr sydd wedi’u gosod gyntaf: gyda bwriad amlwg i ganolbwyntio ar fethiannau’r Toriaid yn San Steffan mewn ymchwiliad mwy ‘cyffredinol’.
‘Dydi Cymru ddim yn cyfrif dim yn y pictiwr – ceisio gwneud Llafur edrych yn dda yn Lloegr yw hyn i gyd’ meddai Gwyn Wigley Evans, Arweinydd Gwlad.
‘Gan obeithio y bydd y sylw gwael gaiff y Toriaid ar lefel Brydeinig yn rhoi’r allweddi i Keir Starmer yn rhif 10 yn ei sgîl’.
Dywedodd Mr Evans byddai unrhyw arweinydd gwerth ei halen yn fodlon sefyll ar ei record gyda digwyddiad mor hanesyddol a’i amddiffyn yn gyhoeddus.
‘Yn anffodus, nid arweinydd felly sydd ganddom ni yma yng Nghymru, ac mae’n hollol addas i’w alw’n rhagrithiwr ar y mater hwn’.
Ychwanegodd bod Cymru wedi cael ei hamddifadu rhag ymchwiliad iawn i Covid yng Nghymru trwy bleidlais fwrw Y Llywydd.
‘Pe bai gan Elin Jones iot o hunan-barch, byddai’n sefyll i lawr ar ol y ffars hwn’ meddai.
Debyg bod osgoi ymchwiliad Covid Cymreig hefyd yn ymwneud gydag achub croen Mark Drakeford ei hun, o gofio am yr anfodlonrwydd cynyddol am y cyfyngiadau parhaus y mae wedi eu gosod ar economi a chymdeithas Cymru.
Mae dros bythefnos wedi mynd heibio ers cyhoeddi’r cyfyngiadau ar Ragfyr 26ain, a dim data gwyddonol i’w cyfiawnhau wedi eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog.
A gyda cyfraddau achosion Cymru 3x y niferoedd yn Lloegr sydd heb gyflwyno’r un cyfyngiadau, mae yna deimlad cynyddol bod y cyhoedd yn troi yn erbyn y prif weinidog.
Yn enwedig yn dilyn sawl adroddiad diweddar yn dangos bod Omicron yn llawer mwy tymherus na Delta, gan awgrymu nad oes angen byw mewn stad o ofn parhaus bellach.
‘Mae’r grym wedi mynd i ben Drakeford – sdim dwywaith am hynny’ meddai Mr. Evans.
‘A gyda’r BBC a WalesOnline yn ei boced, mae’n teimlo y gall wneud beth a fynno. Ond mi allai ddweud hyn wrtho – mae’r teimlad ar y stryd yng Nghymru yn ffyrnig iawn yn ei erbyn bellach.’
‘Ac mi gaiff hyn ei fynegi’n glir iawn adeg yr etholiadau lleol ym mis Mai’.
Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn arbrawf ddiddorol iawn o ran gallu Cymru i dorri ei chwys ei hun yn wleidyddol.
Mae’n drasiedi na chawn ni gyfle i allu dadansoddi’r holl brofiad yn wrthrychol gan fod Mark Drakeford wedi gwadu’r hawl hwnnw inni.
Does wybod pa fath o ffeithiau diddorol a ddadlennol fyddai wedi dod i’n sylw ni fel cyhoedd.
Yr unig gysur ydi yn ein cymdeithas rwydweithedig (‘networked society’) cyfoes, mae modd dod o hyd i wybodaeth a ffeithiau yn llawer haws nag yn y gorffennol.
Ac mi fydd y cyhoedd yn cynnal eu hymchwiliad eu hunain o fath i’r holl hanes hwn dros y misoedd nesaf.