Syniad Amserol ar Adeg o Argyfwng

UN o addewidion Gwlad o’r dechrau’n deg oedd y byddem yn gosod y buddiant cenedlaethol yn flaenaf ar bob achlysur.

A hynny’n golygu ein bod yn croesawu syniadau da o ba bynnag ran o’r spectrwm gwleidyddol y maent yn tarddu – y tu hwnt inni’n hunain fel plaid – pe bai’r rheiny o “fudd i Gymru”.

Ac felly, does dim swildod ar ein rhan wrth ddatgan ein cefnogaeth i’r polisi newydd am brydau bwyd am ddim i ddisgyblion ysgol sydd i’w gyflwyno gan Lafur a Plaid ar ddechrau mis Medi.

Gan fod y polisi hwn  yn sicr o “fudd i Gymru” ar yr adeg arbennig hon, o gofio am y sefyllfa economaidd enbydus sydd yn ein hwynebu fel cenedl ar hyn o bryd.

Mae’n cymdeithas ar ei gliniau wedi’r ddwy flynedd ddiwethaf gyda’r pwysau ychwanegol o ran y cynnydd mewn prisiau bwyd, prisiau tanwydd a’r ansicrwydd cyffredinol am yr economi yn gwneud bywyd yn anodd iawn i bawb ohonom ar hyn o bryd.

Felly, mae’n dda o beth bod ein llywodraeth yng Nghaerdydd wedi cydnabod y pwysau hyn ar rieni yng Nghymru, a lleihau rhywfaint ar y baich ariannol sydd ynghlwm wrth orfod talu am ginio ysgol i’w plant pob dydd.

Gan sicrhau ar yr un gwynt bod pob disgybl led-led Cymru yn cael sicrwydd o bryd o fwyd pob diwrnod yn ystod yr wythnos ysgol, waeth beth yw amgylchiadau ariannol eu rhieni.

Mae’r polisi newydd wedi ei groesawu gan rai fel esiampl o “sosialaeth ar waith yng Nghymru”. Gydag eraill ar y pegwn arall yn ei gondemnio fel gwastraff o arian cyhoeddus.

Ond fel yr esbonia Stephen Morris, Cyfarwyddwr Polisi Gwlad, mae modd edrych arno mewn ffordd wahanol i’r ddau fydolwg hynny mewn gwirionedd, ac mewn modd sydd hefyd yn berffaith gytbwys gyda gweledigaeth mwy canol-dde o ran gwleidyddiaeth Cymru.

“Mae tua 20% o ddisgyblion Cymru eisoes yn derbyn prydau bwyd am ddim, ond bydd y polisi newydd hwn hefyd yn cynnwys yr 80% sy’n weddill- allai fod gyda rhieni cymharol gyfoethog yn y gymysgfa hefyd” meddai Mr Morris.

“Ond effaith y polisi “cyffredinol” hwn- gyda’r llywodraeth yn ysgwyddo’r baich arferai gael ei gario gan y rhieni hyn- yw y bydd mwy o arian ym mhocedi pobol a hwnnw gobeithio yn gallu cael ei wario’n lleol yn yr economi Gymreig”.

Yn wir, dywed Mr Morris bod y polisi i bob pwrpas yn ostyngiad treth i bobol, syniad sydd yn amal yn cael ei weld fel anathema yma yng Nghymru, gyda hynny i’w weld yn draddodiadol fel rhywbeth y mae’r “Toriaid yn Llundain” wastad yn ei wneud.

“Gostyngiad treth cyffredinol ydi’r polisi yn ei hanfod i bawb sydd yn rhieni yng Nghymru, gyda charfannau eraill yn ein cymdeithas hefyd yn debyg o elwa ohono yn anuniongyrchol.”

“Mae hwn yn bolisi sydd hefyd ar waith yn Y Ffindir, sydd gyda llywodraeth yn gwyro mwy at y canol-dde, ac mae’n amlwg nad ydi o wedi creu unrhyw broblemau i’r economi yno, felly gallwn ninnau ddychmygu yr un buddiant yn digwydd yma yng Nghymru” ychwanegodd Mr Morris.

Ond efallai bod angen cryfhau’r polisi eto fyth o ran sicrhau budd i’r economi Gymreig yn fwy cyffredinol, gan ei ddefnyddio fel cyfle hefyd i gefnogi’r sector amaethyddol a’r sector fwyd yma yng Nghymru.

Trwy anelu i sicrhau bod y prydau bwyd o’r ansawdd gorau a bod tua 80% o’r pryniant ar gyfer y prydau yn digwydd yng Nghymru ei hun.

Gallai hynny wedyn arawain at “multiplier effect” mewn sawl ffordd a sectorau y tu hwnt i’r byd addysg a byd y teulu hefyd yn cael budd o’r polisi yn anuniongyrchol.

Amser a ddengys a fydd y polisi newydd hwn o brydau bwyd am ddim i bob plentyn ysgol yn gynaliadwy yn y tymor hir.

Yn sicr, bydd angen ei fonitro’n ofalus o ran ei effeithioldeb ac o ran y gwerth y mae’n ei gynnig i drethdalwyr Cymru yn gyffredinol. Yn enwedig gan fod afradu arian yn y sector cyhoeddus wedi nodweddu llywodraethiant ym Mae Caerdydd ers blynyddoedd lawer erbyn hyn.

Ond fel ateb tymor byr ymarferol a phragmataidd i broblem real iawn i filoedd o bobol yn y Gymru sydd ohoni, does dim dwywaith ei fod yn bolisi amserol iawn.

Gyda Llywodraeth Cymru yn enwog am eu hoffter o’r “rhuo rhinweddol” (‘virtue-signalling’) ar faterion nad ydynt o dragwyddol bwys i drwch pobol Cymru mewn difrif, does ond gobeithio y bydd y dôs hwn o ymarferoldeb yn troi’n ffisig mwy cyffredinol a gynigir ganddynt yn ei sgil.

Cyhoeddwyd yn Blog

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.