Tai ar Feddyliau Pobl Eto

[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]

Mae £12,000 wedi ei godi mewn tridiau i arbed capel hanesyddol rhag troi’n dy haf arall.

Mae Ymgyrch ‘Achub Capel Bethania’ Pistyll yn anelu at gyrraedd targed o £120,000 erbyn Mai 19.

Hwn oedd capel Tom Nefyn Williams, un o bregethwyr mwyaf carismataidd Cymru yn nechrau’r 20fed ganrif.

Ond mae’r adeilad ar y farchnad gyda chaniatad cynllunio i’w droi’n dy haf hefyd wedi ei ganiatau gan Gyngor Gwynedd.

Mae’r ymateb hyd yma gan aelodau’r cyhoedd yn awgrymu y bydd tai yn un o bynciau llosg Etholiad Cymru ym mis Mai.

‘Mae’r achos wedi taro nerf oherwydd ei fod yn dangos eto sut mae trigolion lleol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai i ddiwallu anghenion trachwantus unigolion sydd eisiau tai/eiddo fel tai haf yng Nghymru’ meddai Osian Jones, o Gaernarfon, sydd wedi cychwyn yr ymgyrch gan ddefnyddio’r adnodd ‘Go Fund Me’.

‘Mae’r peth cymaint gwaeth mewn ffordd gan fod Tom Nefyn ei hun wedi bod yn ffigwr mor bwysig yn hanes Cymru ac yn hanes y traddodiad ffydd yma’.

Dywedodd mai’r bwriad oedd ceisio prynu’r eiddo yn ol i’r gymuned leol yn Pistyll a’i droi yn ganolfan gymunedol, caffi bychan a byncws am fod y Capel ar lwybr y Pererinion ar eu ffordd i Enlli.

Ychwanegodd fod gan y criw lleol ddeufis i gyrraedd y targed o £120,000, a’u bod yn bwriadu taflu’r rhwyd yn ehangach rwan o ran denu arian gan gyfranwyr.

Dywedodd Gwyn Wigley Evans, Arweinydd Gwlad, y byddai tai, a defnydd priodol o dai, ar frig agenda’r blaid yn yr etholiad.

A bod angen cychwyn wrth ein traed wrth ymateb i’r argyfwng tai.

‘Y gwir ydi bod yna gannoedd o filoedd o dai yn wag neu’n cael eu hanner defnyddio mewn hen ardaloedd diwydiannol, ar lan y mor a chefn gwlad yma’ meddai.

‘Mae’n rhaid dechrau defnyddio rhain ar frys i roi tai i bobol Cymru. Mae’r hawl eisoes gan y Senedd a chynghorau sir i ddeddfu ar hyn, ac mae angen rhoi pwysau anferth arnyn nhw i ddefnyddio’r hawiau hyn’.

‘Yn yr etholiad byddwn ni yn galw am osod Treth Cyngor o 500% ar ail-gartrefi yng Nghymru. Bydd hyn yn gallu helpu chynghorau lleol i godi mwy o dai i bobol leol, ac yn helpu gostwng prisiau ar yr un pryd’.

Debyg y bydd angen ystod o fesurau creadigol i ymateb i’r broblem yma yng Nghymru.

Ac mae gweld Cymry yn mynd i’w pocedi eu hunain i geisio prynu eu tir yn ôl yn sicr yn un ohonynt.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.