[Gellir ddarllen yr erthygl hon hefyd ar ein tudalen Facebook]
BU 2020 yn flwyddyn gyda’r mwya difrodus a welwyd yma ers tro byd.
Ond ynghanol y duwch, bu’n flwyddyn hefyd a welodd fomentwm newydd a deinameg newydd dros sicrhau annibyniaeth i Gymru.
Gyda hynny’n amlygu ei hun yn bennaf yn y 16,000 o aelodau sydd gan YES Cymru bellach. A hynny’n dilyn twf rhyfeddol yn niferoedd y mudiad, hyd yn oed yn ystod eu ‘segurdod’ cyhoeddus dros fisoedd y clo.
Ac wrth i’r flwyddyn ddod i ben, gwelwyd ychwanegu dimensiwn diddorol arall i’r ymchwydd boblogaidd hon.
A chydnabyddiaeth efallai bod modd i’r achos gynnwys elfen sydd wastad wedi’i ystyried yn wrthwynebol i’r buddiant cenedlaethol.
Yn draddodiadol, gellid dadlau bod yr achos cenedlaethol wedi ei gysylltu’n agos iawn gyda’r adain chwith.
Gyda’r dybiaeth y byddai Cymru Rydd yn wlad sosialaidd i bob pwrpas, a hynny oherwydd natur y Cymry eu hunain.
A meddylfryd y ‘llwyth’ arbennig hwn sydd wedi domiwneiddio’r drafodaeth genedlaethol, yn enwedig yn y cyfnod diweddar.
Ac ychydig iawn o gwestiynau sydd wedi bod ynghylch y mater, er fod perfformiadau etholiadol Plaid Cymru ar hyd y blynyddoedd wedi awgrymu efallai nad yw trwch y boblogaeth yma mor frwd am y meddylfryd hwn yn ei hanfod.
Mae modd dadlau bod y cyplysu agos hwn rhwng y syniad o ryddid cenedlaethol a sosialaeth wedi bod yn atalfa ddifrifol yn etholiadol. Hyd yn oed os mai dim ond cysyniad ym meddyliau pobol oedd hyn mewn difri.
Dyna pam y mae’r tro diweddar tuag at estyn croeso i unigolion mwy ceidwadol eu bydolwg i rengoedd Yes Cymru mor arwyddocaol a hanesyddol mewn gwirionedd.
Mae’r mudiad fel petaent yn dweud nad un llwyth yn unig ddylai ddomiwnyddu pethau a bod angen gwneud lle i lwyth arall gyda’i golygon lled wahanol ar y daith newydd hon tuag at ryddid cenedlaethol.
Penderfyniad mentrus ond dewr o ystyried yr elyniaeth draddodiadol tuag at y Blaid Geidwadol a’i holl weithredoedd dinistriol yma yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Ond yr hyn mae’r mudiad yn ei wneud yn ei hanfod ydi gwahaniaethu rhwng y Blaid Geidwadol ei hun a’r unigolion hynny yma yng Nghymru sy’n dewis pleidleisio drosti am wahanol resymau.
Gan gynnwys y garfan helaeth a gwybyddus honno: ceidwadwyr gydag ‘c’ fach sy’n fwy Cymreig eu golygon.
O gofio fod 36% o’r boblogaeth yma wedi pleidleisio i’r Ceidwadwyr a phleidiau eraill ar yr echel canol-dde yn 2016, gellir gweld pa mor strategol bwysig ydi’r estyn allan hyn.
Mae’n symudiad seicolegol bwysig hefyd. Mae fel petai’n dweud wrthynt:
‘Edrychwch, mae annibyniaUn o’r manteision mawr sydd gan Gymru ydi’r ffaith nad oes yma’r rhaniadau sectaraidd gwenwynllyd Un o’r manteision mawr sydd gan Gymru ydi’r ffaith nad oes yma’r rhaniadau sectaraidd gwenwynllyd eth i Gymru yn dod – felly beth am ichi baratoi at hynny, a meddwl sut y gallech chithau gael llais a chynrychiolaeth ynddi’
Gyda chael bod yn rhan o’r ymgyrch amhleidiol boblogaidd tuag at y diben hwnnw megis y cam cyntaf iddynt ar y daith seicolegol honno.
Un o’r manteision mawr sydd gan Gymru ydi’r ffaith nad oes yma’r rhaniadau sectaraidd gwenwynllyd sy’n dal mor broblemus ag erioed yn Yr Alban a’r Iwerddon.
Y peth olaf sydd ei angen ar yr adeg hon yng Nghymru ydi sarnu’r fantais bwysig hon trwy greu rhwyg di-angen rhwng ‘y chwith’ a’r ‘dde’, sy’n raniad cynyddol amherthnasol heddiw beth bynnag.
Yn hytrach, dyma’r union adeg i arddel un o’n gwerthoedd gorau fel Cymry sef goddefgarwch, a chytuno i wrando ar y naill a’r llall a parchu safbwyntiau’n gilydd wrth gyd-gerdded at ein rhyddid cenedlaethol.
Fel y dengys y map uchod, mae’r ymdeimlad llwythol yn hen, hen iawn yng Nghymru, gan mai dyma’r pum llwyth a wynebodd y Rhufeiniaid wrth iddynt goncro Ynys Prydain bron i 2,000 o flynyddoedd yn ol.
Go brin y gellid cael gwared arno’n llwyr gan ei fod yn ein gwead ni fel pobol.
Y cwestiwn ydi all y llwythau gyd-fyw a chyd-ddyheu gyda’i gilydd am gyfnod penodol er mwyn cyrchu tuag at un nod hanesyddol.