Wythnos i fewn i’r ymgyrch

Mae’n wythnos gyfan erbyn hyn ers i enwebiadau gau a dechreuodd yr ymgyrch Etholiad Cyffredinol o ddifri.

Ein gobaith gwreiddiol oedd rhoi pedwar ymgeisydd ymlaen, un ym mhob un o’r etholaethau lle bod Plaid Cymru wedi tynnu ‘nôl. Yn y pen draw, ni lwyddom i sicrhau ymgeisydd addas am Frycheiniog a Maesyfed, ac felly mae gennym ni dri yn y ras:

Gwyn Wigley Evans Maldwyn
Sian Caiach Canol Caerdydd
Laurence Williams Bro Morgannwg

Y tri ohonyn nhw yn ymgeisyddion cryf iawn, a gofynnwn am dy gefnogaeth i bob un ohonynt. Dyma rai o’r erthyglon sydd wedi bod yn y Wasg amdanynt eisoes:

https://www.countytimes.co.uk/news/18033598.gwlad-gwlad-announce-montgomeryshire-candidate/

http://www.mywelshpool.co.uk/viewernews/ArticleId/17766

http://www.cambrian-news.co.uk/article.cfm?id=131313&headline=Pro-Welsh%20independence%20party%20%E2%80%98steps%20into%20the%20breach%E2%80%99&sectionIs=news&searchyear=2019

http://broradio.fm/bro-radio/four-candidates-to-stand-in-vale-of-glamorgan-constituency/

https://www.walesonline.co.uk/news/politics/cardiff-central-general-election-candidates-16891903

Gwnaeth Ifan Morgan Jones ar ‘nation.cymru’ ei orau glas i gollfarnu Laurence Williams yn y Fro, ond mae balans y sylwadau dan yr erthygl yn bositif iawn:

https://nation.cymru/news/gwlad-gwlad-candidate-stood-for-party-that-wanted-vote-on-claiming-monmouthshire-for-england/

SUT ALLA I HELPU?

  1. Dangos dy gefnogaeth yn y cyfryngau cymdeithasol a’r Wasg, drwy Drydar, Facebook neu ‘sgwennu at dy bapurau lleol. Unrhyw beth o gwbl a fyddai’n codi proffil y Blaid yn genedlaethol, hyd yn oed os nad wyt yn byw yn agos at un o’r etholaethau hyn.
  2. Gwirfoddoli i guro drysau neu ddosbarthu taflenni yn un o’r etholaethau. Ymateba i ddweud lle byddai’n bosib i ti gyrraedd, ac fe wnawn ni awgrymu rhywle i ti fynd – o bosib gyda grŵp o gefnogwyr eraill. Dewis rhwng ardaloedd dinesig Caerdydd a’r Barri, neu’r ardaloedd gwledig Maldwyn a’r Fro.
  3. Mynychu ‘hustings’. Mae nifer o’r rhain wedi’u trefnu eisoes, yn enwedig ym Maldwyn. Cymeradwya’r ymgeisydd, gofyn cwestiynau heriol, a phostia amdano ar gyfryngau cymdeithasol:

    MALDWYN

    Sadwrn 23ain Tachwedd 3.00yh Plas Machynlleth
    Sul 24ain Tachwedd 7.00yh Canolfan Cymuned Llanidloes
    Llun 2il Rhagfyr 7.30yh Siambr Cyngor Trefaldwyn
    Mercher 4ydd Rhagfyr 7.00yh Tafarn yr ‘Elephant & Castle’ y Drenewydd (lle cynhaliwyd ein cynhadledd polisi ym mis Mawrth)
    Iau 5ed Rhagfyr 7.30yh Eglwys Efengylaidd y Drenewydd
    Llun 9fed Rhagfyr 2.00yh Marchnad Da Byw y Trallwng (gan Undeb Ffermwyr Cymru)

    CANOL CAERDYDD

    Dim byd wedi cadarnhau eto

    BRO MORGANNWG

    Llun 2il Rhagfyr 6.00yh YMCA y Barri
  4. Noddi. Yn anffodus mae hon yn fusnes ddrud, a’r mwyaf y byddan ni’n gallu codi, y mwyaf ymosodol y ni’n gallu bod gyda taflenni, posteri, hysbysiadau ac ail-adeiladu’r wefan. Mae dwy ffordd i roi:

    TROSGLWYDDIAD BANC

    Anfona at Santander:
    Côd didoli 09-01-29
    Rhif cyfrif. 28958455
    Enw taladwy: Gwlad Gwlad
    Cyfeirnod: Llythyrennau blaen eich enw + GGDon001

    PAYPAL

    Ar ôl mewngofnodi i’th gyfrif, clicia ar “Send money” a’i chyfeirio at [email protected]. Ie, yr hen barth yw hwnnw, ond fe ddylet weld yr enw “Gwlad Gwlad” yn cael ei gonffirmio ‘nôl atat cyn gofyn i ti roi y swm i mewn.

Hefyd, mae’r wefan newydd ar www.gwlad.org i fyny o’r diwedd. I ddweud y gwir yn onest mae’n dal yn edrych ychydig yn denau. Gobeithiwn i gael y tudalen aelodaeth i fyny’n fuan, ac wedi agor y blog ac ail-bostio rai o’r erthyglon oedd ar yr hen Borth Newyddion. Unwaith eto, os gallen ni gasglu y cyllid gawn ni orffen a hybu’r wefan yn llawer ehangach.

Cadeirydd: Sian Caiach

Arweinydd: Gwyn Wigley Evans

Cydlynydd Polisi ac Ymchwil: Stephen Morris

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.