Y Gwr Sydd ar y Gorwel

Cofio Owain Glyndwr heddiw: 'Owain, Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru'

[Mae’r erthygl hon hefyd ar gael ar ein tudalen Facebook]

HEDDIW (Medi 16eg), mi rydan ni’n dathlu diwrnod Owain Glyndwr.

Dyma’r diwrnod yn 1400, y cyhoeddodd Owain Glyndwr, Arglwydd Glyndyfrdwy, mai ef oedd Tywysog Cymru.

Gyda 300 o’i deulu estynedig a chefnogwyr dylanwadol o bob cwr yn dod ynghyd yn ei gartref teuluol yn Sycharth i weld Owain yn hawlio’r teitl ar sail ei linach o Dywysogion Powys a Deheubarth.

Ar ei sel swyddogol oedd y geiriau hyn: ‘Owain, trwy ras Duw, Tywysog Cymru’.

Dilynodd ymgyrch ‘guerilla’ ddeng mlynedd o hyd i ad-ennill annibyniaeth i Gymru, wedi canrif o oresgyniad gan goron Lloegr.

Mae pawb yn cofio am y seneddau cenedlaethol a alwyd ganddo yn Harlech a Machynlleth.

A’r llythyr urddasol rhyfeddol hwnnw (Llythyr Pennal) yn apelio ar i’r Pab yn Avignon gydnabod hawl y Cymry i’w rhyddid cenedlaethol.

Ond ychydig sy’n ymwybodol o’r datblygiad uchelgeisiol a beiddgar hwnnw, sef y Cytundeb Tridarn a negydwyd yn 1405 rhwng Owain a dau o deuluoedd mwya pwerus y cyfnod.

Byddai hwn wedi gweld Owain yn rheoli Cymru estynedig (a fyddai’n cynnwys Amwythig, Croesoswallt a rhan o Swydd Henffordd), gyda theulu’r Percys yn rheoli gogledd Lloegr ac Edmund Mortimer yn rheoli de Lloegr.

Gallai holl hanes Cymru a hanes yr ynysoedd hyn fod wedi bod yn wahanol iawn pe bai’r cynllun hwn wedi cael ei wireddu.

Ond erbyn 1410, roedd coron Lloegr wedi ail-afael yn eu hawdurdod, ac fe ddaeth y gwrthryfel i ben yn ara bach, gydag Owain ei hun yn diflannu oddi ar lwyfan hanes.

Hyd heddiw, does dim sicrwydd am lle y treuliodd ei flynyddoedd olaf a lle cafodd ei gladdu.

Ond chafodd o erioed ei fradychu gan ei gyd-Gymry, er i frenin Lloegr gynnig gwobr hael iawn am ei ddarganfod un ai’n fyw neu’n farw.

Gydag amser, gwireddwyd sawl elfen o ‘faniffesto’ Owain Glyndwr, e.e dwy brifysgol yn y gogledd a’r de, Eglwys Gymreig ac wrth gwrs, Senedd i Gymru.

Ond heddiw, cofiwn amdano yn fwy na dim fel y symbol cryfaf un o ddyhead y Cymry ar hyd y canrifoedd, bod modd iddyn nhw, ryw ddydd, gael yr hawl i fyw mewn gwlad annibynnol.

A gyda’r ymgyrch bresennol dros annibyniaeth yn magu stêm yn fisol, mae’r diwrnod hwn heddiw yn ymddangos yn fwy perthnasol nag erioed.

Neges ar gyfer cenedl fechan iawn oedd neges Glyndwr yn ei gyfnod o gofio mai dim ond tua 200,000 oedd poblogaeth Cymru ar y pryd (tua 5% o’r cyfanswm presennol).

Ond heddiw, mae hi’n neges sy’n cyrraedd llawer iawn mwy o bobol mewn gwlad sy’n fwy niferus o lawer o ran ei phoblogaeth.

Erys Owain Glyndwr hyd heddiw fel y ‘gwr sydd ar y gorwel’.

Y ffigwr mwya yn ein hanes, sydd yn parhau i’n denu ni a’n galw ni tuag at ein rhyddid cenedlaethol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *