Erthygl Gymraeg. We suggest Bing Translate for translation.
[Ymddangosodd yr erthygl hon yn y lle cyntaf ar ein tudalen Facebook]
BYDD nostalgia’n rhemp heddiw debyg wrth nodi VE Day – 75 mlynedd ers diwedd yr ail ryfel byd yn Ewrop.
Bydd y BBC a’r cyfryngau eraill yn godro’r digwyddiad yn eu dull histeraidd arferol, gyda dogn helaeth o bropoganda Prydeinig yn rhan o’r cwbl.
Mae’n eironic iawn bod achlysur sydd ar yr wyneb i’w wneud gyda dathlu heddwch yn Ewrop, dal i ddwyfoli Prydain ar adeg o ryfel yn y ffasiwn fodd.
Wrth gwrs, mae’n bwysig cofio a pharchu’r gorffennol, ond mae’n rhaid gofyn oes perig i hyn droi’n barodi ohono’i hun weithiau.
Yn ei lyfr 1984, sonia’r awdur George Orwell sut yr oedd Gwladwriaeth Oceania wastad mewn rhyfel gydag Eurasia.
Pwrpas hynny oedd creu teimladau o fraw ac atgasedd parhaus ymhlith y dinasyddion tuag at y gelyn allanol parhaus. A’u cael nhw i lynu’n ofnus at eu rheolwyr.
Ac mae’n ymddangos bod pob Llywodraeth, o ba bynnag liw, wastad yn gorfod ymestyn y cof am y rhyfel hwn gyda’r Almaen hyd at dragwyddoldeb. Hyd yn oed heddiw yn 2020 – bron i dair cenhedlaeth yn ddiweddarach.
Pe bai’r Wladwriaeth Brydeinig yn glaf, byddai rhywun yn tybio y byddai seicolegydd da yn gallu gwneud ei ffortiwn yn dadansoddi’r aflwydd arbennig hwn a fyddai angen amser go dda i’w drin yn iawn wrth reswm.
Efallai nid porthi ofn ac atgasedd megis yn nofel Orwell y mae’n meistri cyfoes ni, ond yn hytrach taflu llwch i lygaid pawb ynghylch realiti bywyd cyfoes yma heddiw.
Mae’n cymaint haws rhamantu am oes sydd wedi hen fynd heibio a cheisio perswadio pawb am ragoriaeth y cyfnod hwnnw, na delio’n onest gyda holl heriau’r presennol.
Ac mae yna rywbeth anghynnes iawn ar y pwyslais hwn ar ‘ddathlu’ heddiw, o gofio am yr haint sydd dal ar waith yma, a swm y marwolaethau yn parhau i gynyddu.
Mae’r Almaen wedi hen anghofio am yr ail ryfel byd ac wedi llwyddo i greu economi a chymdeithas llawer cryfach a mwy llewyrchus yn ei sgil. Mae eu niferoedd cymharol isel o farwolaethau gyda’r haint presennol yn dyst i’r llwyddiant hwn.
Mae’n hen bryd i’r Wladwriaeth Brydeinig anghofio am ei hobsesiwn gyda’r ail ryfel byd yn yr un modd.