Is-Etholiadau Llangennech ar 7fed Awst

Bydd ein ffrind Wayne Erasmus yn sefyll fel ymgeisydd Gwlad yn y ddwy etholiad yn Llangennech ar 7 Awst.

Bydd un etholiad ar gyfer Cyngor Sir Gaerfyrddin, ac un arall ar gyfer Cyngor Cymuned Llangennech.

Felly bydd gennych DDAU bleidlais dros Wayne!

Rydyn ni’n gwybod y byddai Wayne yn gwerthfawrogi unrhyw gymorth allwch chi ei roi i’w ymgyrch – boed hynny’n dosbarthu taflenni, rhoi posteri i fyny, neu helpu pleidleiswyr (pleidleiswyr Gwlad yn unig!) i gyrraedd y gorsafoedd pleidleisio.

Os allwch chi estyn llaw, anfonwch e-bost at: wayne.erasmus@gwlad.org

Dyma ychydig amdan Wayne, yng ngeirau ef ei hun:

Dyma ychydig bach amdanaf i, a pham dw i’n meddwl y dylet ti bleidleisio drosta i yn etholiadau Llangennech (cynghorau sir a chymuned) ar 7 Awst.

Bues i’n hwylio fel Prif Beiriannydd yn y Llynges Fasnachol. Dw i’n siarad Cymraeg o’r crud ac wedi byw yn Hendy ers 1986.

Ers ymddeol yn 2014, dw i wedi bod yn rhedeg nifer o elusennau lleol a banciau bwyd. Ymhlith pethau eraill, ces i ran flaenllaw mewn ymgyrch lwyddiannus i atal cynnydd yn y ffioedd caeau yn Uwch Gynghrair Sir Gâr – cynnydd a fyddai wedi bod yn ddiwedd ar chwaraeon llawr gwlad y cymuned. Roeddwn i’n un o aelodau sefydlu Clwb Pêl-droed Iau Hendy, ac roedd nifer o’r bechgyn yn dod o Llangennech.

Dw i’n mwynhau eiliad dawel yn y Morlais (Smiths) yn Llangennech.

Mae’n rhaid i mi dalu teyrnged i’r diweddar Gary Jones, a helpodd fi pan oedd y banc bwyd yn y Farmers yn Llangennech

Serch hynny, mae Llafur a Phlaid Cymru wedi siomi Llangennech a Chymru – gyda’r gwasanaethau wedi’u torri yn Ysbyty’r Tywysog Philip, gofal gan y cyngor, y ffiasgo 20mya, ac yn lleol – gwerthu’r RN.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin mewn dyled ddofn oherwydd camreolaeth Plaid Cymru.

Mae angen mwy o onestrwydd a thryloywder yn ffordd gwaith Cyngor Sir Caerfyrddin, ac yn y ffordd mae’n cyfathrebu gyda’r etholwyr.

Dim ond un blaid sy’n rhoi Cymru’n gyntaf, a dyna yw Gwlad – ac mae’n fraint gen i sefyll dros Gwlad yn etholiadau Llangennech ar 7 Awst.

Rhagor amdanaf i a Gwlad dros yr wythnosau nesa!”

Cefnogwch Wayne trwy ei tudalen ymgyrch ar Facebook:

https://www.facebook.com/profile.php?id=61576251052369

Leave a Comment