Canghennau

Penliniau a dwylaw bobl mewn cyfarfod
Mae gennym ganghennau ledled Cymru (llun gan Sincerely Media ar Unsplash.com)

Mae ein canghennau lleol yn chwarae rôl hollbwysig wrth ledaenu neges Gwlad ar lefel gwreiddiau’r gymuned.

Mae gennym ganghennau ledled y wlad – ac mae cymryd rhan yn ffordd wych o:

  • ddod i wybod mwy am Wlad
  • cwrdd â phobl o’r un meddwl
  • datblygu syniadau newydd y gall Gwlad eu symud ymlaen
  • sefyll am swydd o fewn Gwlad

Ac efallai y byddwch hyd yn oed yn penderfynu sefyll fel ymgeisydd Gwlad adeg etholiad – naill ai fel ymgeisydd cyngor neu i’r Senedd.

Dyma restr o’n canghennau presennol. Mae gan bron pob un dudalen Facebook, felly gallwch gysylltu â nhw yno. Os nad ydych ar Facebook, gallwch ddefnyddio ein ffurflen gyswllt, a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’ch trefnydd lleol.

Gwlad Bangor, Aberconwy, Ynys Môn
Gwlad Brycheiniog Tawe Nedd
Gwlad Caerdydd
Gwlad Ceredigion
Gwlad Gŵyr Abertawe
Gwlad Llŷn ac Eifionydd
Gwlad Meirionnydd
Gwlad Rhymney a Chymoedd Sirhowy
Gwlad Sir Gaerfyrddin