Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad fersiwn drafft o’n Maniffesto ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.
Rydym yn gwahodd ein haelodau i roi eu barn ac i awgrymu unrhyw newidiadau neu welliannau, y byddwn yn eu hystyried cyn lansio’r fersiwn derfynol yng Nghaerffili ychydig cyn yr is-etholiad ar 23ain Hydref.
I gael copi o’r maniffesto drafft:
- Os ydych yn aelod llawn ar hyn o bryd, mewngofnodwch i’n Fforwm Aelodau yn www.gwlad.org/community, neu anfonwch e-bost i post@gwlad.org i ofyn am gopi.
- Os nad ydych wedi derbyn cyfrinair ar gyfer y Fforwm, neu os ydych wedi colli eich cyfrinair gwreiddiol, eto anfonwch e-bost i post@gwlad.org a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael mynediad.
- Os nad ydych yn aelod ar hyn o bryd, mae hyn yn amser ffantastig i ymuno.
Anfonwch eich sylwadau at post@gwlad.org neu, yn well byth, i’r Fforwm erbyn 4ydd Hydref fan pellaf.