Sut Daeth Deiseb Ddiymhongar yn un o Arwyddion yr Amserau

RYDYN ni wedi cael 25 mlynedd hir o syrthni a diffyg ymrwymiad go iawn ym mywyd gwleidyddol Cymru.

Ond yr wythnos hon, mae gwleidyddiaeth Cymru wedi torri i fywyd o’r diwedd mewn ffordd annisgwyl iawn.

Erbyn heddiw (dydd Iau) mae dros 300,000 o bobl wedi arwyddo deiseb Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu ei pholisi 20mya newydd.

Dim ond ar ddydd Sul diwethaf cafodd ei gyflwyno.

Dyma’r ddeiseb fwyaf erioed o bell ffordd a lofnodwyd yng Nghymru, ac ar ôl croesi’r trothwy o 10,000, bydd yn sbarduno dadl yn y Senedd am yr holl fater yn awtomatig.

Hyd yn oed wrth rhoi y dadleuon ar 20mya i’r neilltu am rwan, mae achos i’w wneud bod hwn yn un o’r datblygiadau mwyaf diddorol – a chalonogol – ers dechrau datganoli.

Difaterwch

Mae’n ffaith syfrdanol nad oes un Etholiad Senedd wedi tynnu hyd yn oed 50% i’r gorsafoedd pleidleisio ers 1997.

Gyda’r polisi ymataliaeth torfol hwnnw naill ai’n arwydd o ddiffyg diddordeb, neu drwgdybiaeth nad yw’r Senedd a’i pholisïau’n cael unrhyw effaith wirioneddol ar fywydau pobl o gwbl.

Ond ddim mwy.

Mae maint enfawr y nifer o atebion i’r ddeiseb – ac asesodd y Tîm Deisebau fod 97% o’r llofnodwyr yn perthyn i etholaethau yng Nghymru – yn dangos bod gweddnewidiad ar droed mewn agweddau erbyn hyn.

Dywedodd llefarydd polisi Gwlad, Stephen Morris, bod yr holl sefyllfa yn nodweddiadol o gariad Llafur at dynnu sylw at eu rhinwedd, yn hytrach na mynd i’r afael ag anghenion gwirioneddol Cymru.

“Mae Mark Drakeford yn dadlau y bydd y polisi hwn yn atal 6-9 o fywydau rhag cael eu colli mewn damweiniau ffyrdd bob blwyddyn; a phwy allai wadu y byddai hynny’n beth da?” meddai Dr Morris.

“Ond mae ein cyfrifiadau wedi dangos y gallen nhw achub 375 o fywydau bob blwyddyn ym Mlaenau Gwent yn unig pe baen nhw’n mynd i’r afael o ddifrif ag effeithiau tlodi cronig yng Nghymru, a chodi disgwyliad oes yno i’r un lefelau ag sydd drws nesaf yn Sir Fynwy.”

“Eu hamcangyfrif eu hunain o gost economaidd hirdymor y polisi hwn yw tua £4.5 biliwn, a fyddai’n arwain at golli llawer mwy o fywydau drwy dlodi cynyddol nag a fyddai’n cael eu harbed ar y ffyrdd.”

Ond ychwanegodd bod rhai pethau gwir gadarnhaol yn dod i’r amlwg o’r sefyllfa yn gymaint â bod pobl – yn enwedig mewn ardaloedd yng Nghymru lle bod pleidleisio yn draddodiadol isel – o’r diwedd yn dechrau ymwneud â bywyd gwleidyddol yma.

“Os edrychwch chi ar fap Deisebau’r Senedd, mae cydberthynas glir rhwng yr ardaloedd lle mae pobl wedi bod yn fwyaf gryf yn erbyn y polisi 20mya, a lle mae’r nifer sy’n pleidleisio wedi bod ar ei isaf,” meddai.

Map yn dangos canrannau o bobl yn arwyddo’r 20mya ym mhob etholaeth (chwith) o’i gymharu â’r nifer a bleidleisiodd yn etholiad Senedd 2021 (dde). Mae lliwiau tywyllach yn dangos rhifau uwch.

Map yn dangos canrannau o bobl yn arwyddo’r 20mya ym mhob etholaeth (chwith) o’i gymharu â’r nifer a bleidleisiodd yn etholiad Senedd 2021 (dde). Mae lliwiau tywyllach yn dangos rhifau uwch.

“Gobeithio y bydd hyn yn perswadio’r holl bleidleiswyr hynny mewn ardaloedd o’r fath sydd wedi pleidleisio dros Lafur yn llwythol dros y blynyddoedd, neu heb bleidleisio o gwbl yn etholiadau’r Senedd, i feddwl eto am 2026 ac ystyried rhoi eu pleidlais i blaid newydd”.

Momentwm

Mae’n ddiddorol meddwl pam mae pobl yn dal i ymuno i lofnodi’r ddeiseb hon gan ei bod wedi cyrraedd ei phrif amcan – sicrhau dadl yn y Senedd – unwaith y casglwyd 10,000 o lofnodion.

Mae cyrhaeddiad a dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol a’r gallu i rannu gwybodaeth mor hawdd rhwng pobl yn un achos allweddol pam mae’r ddeiseb wedi ennill y tyniant sydd ganddi, ac mor gyflym hefyd.

Mae hyn wedi galluogi pobl i gael llawer mwy o wybodaeth am y polisi na’r hyn a ddarparwyd gan y cyfryngau ‘prif ffrwd’, ac mae’n siŵr bod hyn wedi ysgogi’r gwrthwynebiad.

Mae unigolion, na fyddai ganddynt unrhyw broblem gydag 20mya mewn pentrefi a chanol dinasoedd at ddibenion diogelwch gwirioneddol, wedi darganfod bod 20mya bellach wedi’i ymestyn i ffyrdd prifwythiennol ledled Cymru.

Mae nifer o’r llofnodwyr wedi dweud eu bod yn anhapus gyda’r diffyg ymgynghori gwirioneddol gyda phobl Cymru am y newid polisi.

Er ei fod yn rhan o faniffesto Llafur yn 2021, daeth hyn ar ffurf hanner frawddeg ar dudalen 69. Nad oedd unrhyw arwydd o gostau na’r goblygiadau ehangach.

Mae rhwystredigaeth hefyd am y bleidlais gyhoeddus a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, a hwylusir gan Beaufort Research, a gynigwyd fel y “cyfiawnhad” dros y polisi newydd.

Yn yr arolwg barn hwnnw, arweiniwyd ymatebwyr i gredu mai dim ond mewn ardaloedd preswyl y byddai 20mya yn cael ei gyflwyno. A hyd yn oed wedyn dim ond 60% o’r 1,000 o ymatebwyr oedd o blaid.

Ond mae’n ddigon posibl bod y ddeiseb hon hefyd wedi bod yn ffordd i bobl fynegi eu hanfodlonrwydd a’u rhwystredigaeth gyda gwleidyddiaeth a gwleidyddion yn gyffredinol – y tu hwnt i’r polisi penodol hwn.

Yn enwedig ar ôl y tair blynedd diwethaf a’r anhrefn cymdeithasol, economaidd a meddyliol sydd wedi llesteirio bywydau pobl yn ystod blynyddoedd Cofid.

Ac mai dim ond y gwellt a dorrodd gefn y camel yw’r polisi 20mya fel petai.

Ofnau a gobeithion

Mae’n ddiddorol hefyd ystyried bod Llafur Cymru mewn grym yma o ganlyniad i’r 550k o bleidleisiau a enillwyd yn etholiad Senedd 2021.

Beth os yw’r rhif hwnnw’n yn cael ei oresgyn gan rifau’r ddeiseb dros yr wythnos nesaf? Nid yw allan o’r cwestiwn mewn unrhyw fodd gyda’r momentwm sydd ganddo ar hyn o bryd.

Os bydd hynny’n digwydd, siawns nad yw Mark Drakeford a hyd yn oed safbwynt Llafur Cymru yn anghynaladwy.

Nid yw etholiad nesaf y Senedd tan 2026.

Ond mae’n ymddangos bod y ddeiseb hon yn prysur ddod yn etholiad ohoni ei hun mewn ffordd: offeryn di-flewyn-ar-dafod i fynegi barn y cyhoedd am fywyd yng Nghymru, mewn ffordd na welwyd erioed o’r blaen.

Mae llawer yn ofni pŵer y ddeiseb hon. Bydd rhai yn ofni y byddai’n cryfhau braich y gwrth-ddatganolwyr yng Nghymru, gyda phryderon hefyd am safbwynt y cenedlaetholwyr ar yr holl fater.

Yn enwedig gan na all Plaid fanteisio ar y sefyllfa mewn unrhyw ffordd gan weld ei bod â chysylltiadau mor agos gyda Llafur Cymru.

Mae’n bosibl y bydd y rhain yn bryderon gwirioneddol. Er hynny, mae’n sicr y bydd gwir ddiddordeb y cyhoedd, a’r parodrwydd newydd i ymgysylltu â bywyd gwleidyddol Cymru o’r diwedd, yn cael ei groesawu.

Mwy o drafod, mwy o dryloywder, mwy o ddemocratiaeth. Beth sydd ddim i’w hoffi?

Leave a Comment