Gwlad yn Dewis Ymgeisydd i Gaerffili

Anthony Cook, Ymgeisydd Gwlad

Mae Gwlad – Plaid Annibyniaeth Cymru, y blaid sy’n rhoi’r economi yn gyntaf – wedi dewis Anthony Cook fel ei hymgeisydd ar gyfer is-etholiad y Senedd sydd i’w chynnal yng Nghaerffili ar 23ain Hydref.

Mae Anthony yn gadeirydd cangen Rhymni a Dyffryn Sirhywi o’r blaid, sef yr ychwanegiad diweddaraf at deulu cynyddol o grwpiau lleol Gwlad.

Dywedodd Anthony, “Wedi byw yng Nghwm Rhymni am y rhan fwyaf o’m bywyd, heblaw am fy amser yn gwasanaethu gyda’r Gatrawd Gymreig Frenhinol, rwy’n gwybod o brofiad am yr heriau y mae ein cymunedau’n eu hwynebu yn y cymoedd hyn.

“Mae fy nheulu wedi bod yn rhan o hanes glofaol Cwm Rhymni ers cenedlaethau, ac rwy’n deall yr anawsterau sydd wedi dilyn dirywiad ein diwydiannau traddodiadol. Cefais fy magu yng Nghefn Hengoed ac rwy’n byw yn Ystrad Mynach. Mae adfywio’r trefi hyn – a Chaerffili a Bargoed – yn bwysig i mi. Fel bachgen ifanc roeddwn yn chwarae yng nghysgod Glofa Penallta ac yn dal y bws C9 i Fargoed i fynd i siopa gyda’m Nan ar y stryd fawr, stryd oedd yn brysur iawn bryd hynny. Rwy’n dad i dri o blant hyfryd, plant rwy’n hoffi eu cymryd ar anturiaethau dros Barc Penallta a Rhos Gelligaer – ardal rwy’n ei alw’n gartref ac sy’n annwyl iawn i mi.

Mae polisïau Gwlad, sy’n seiliedig ar genedlaetholdeb Cymreig ac economi’r farchnad rydd gyda llywodraeth ysgafn, yn cynnig llwybr clir ymlaen.”

Gwyn Wigley Evans, Arweinydd Gwlad

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn Wigley Evans, arweinydd Gwlad, “Roedd marwolaeth Hefin David yn drist iawn ac mae cydymdeimlad dwys Gwlad yn mynd at ei deulu a’i ffrindiau.

“Mae Gwlad yn ffodus iawn o gael ymgeisydd lleol, ifanc ac egnïol fel Anthony Cook ar gyfer is-etholiad Caerffili. Ganwyd a magwyd Anthony yn nalgylch yr etholiad; mae wedi teithio i lawer o wledydd gyda’r lluoedd arfog ond wedi setlo’n ôl yn yr etholaeth gyda theulu ifanc.

“Mae’n mynnu’r gorau iddyn nhw, i’w sir ac i’w wlad.

“Mae’n seilio’i ymgyrch ar bolisïau ffres a chynhyrfus Gwlad – polisïau sydd wedi’u llywio ar sail arferion gwledydd bychain llwyddiannus eraill ac sydd wedi’u haddasu ar gyfer anghenion Cymru. Nid oes gan unrhyw blaid arall weledigaeth i godi Cymru allan o’r dirywiad hir dymor y mae llywodraethau olynol yn San Steffan a Bae Caerdydd wedi’i achosi. Ni fydd mwy o’r un peth yn gweithio. Mae gan Anthony y weledigaeth a, gyda’ch cymorth chi, gall weithredu’r newidiadau angenrheidiol i ddad-wneud y dirywiad a chreu cymdeithas a gwlad newydd, lwyddiannus.”

Wrth wneud sylwadau ar bolisïau, dywedodd Anthony, “Un mater sy’n haeddu sylw yw cyflwr canol ein trefi a’r effaith hynny ar ysbryd y gymuned. Mae’r problemau’n gymhleth. Ers y 1940au hwyr mae llywodraethau Llafur a Thoriaidd wedi gwaethygu’r sefyllfa. Mae angen i ni ddod â phobl yn ôl i ganol y trefi. Mae angen adeiladu cartrefi yno; er enghraifft, mae’r ddarpariaeth tai i bobl sengl yn ddiffygiol. Dylai gwasanaethau’r llywodraeth fel Polyglinigau (canolfannau ar gyfer meddygon teulu, cleifion allanol a mân- anafiadau), addysg, Heddlu a’r Gwasanaeth Tân fod yng nghanol y dref lle mae gwasanaethau trafnidiaeth eisoes ar gael.

“Mae angen i siopau fod ar agor gyda’r nos pan fydd yn hwylus i gwsmeriaid.

“Mae landlordiaid yn trin tenantiaid fel petai’n dal yn y 1970au pan oedd ganddynt fonopoli. Rhaid i brydlesi adlewyrchu amodau modern. Mae gan y Senedd y pwerau deddfu i wneud hyn “Mae angen diwygio TAW hefyd. Mae adeiladu newydd yn rhydd o TAW, ond nid yw atgyweirio – sef y llwybr arferol i wella canol trefi – yn rhad ac am ddim. Felly mae’n rhatach adeiladu ar gyrion nag adfer y canol.

“Mae gan Gwlad syniadau pendant tebyg ar gyfer camau gweithredu mewn meysydd eraill lle mae Llywodraeth Cymru’n colli cyfleoedd. Byddwn yn postio’r rhain ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch.

  • “Mae iechyd a gofal cymdeithasol yn bryder o’r mwyaf i’r Senedd – 55% o’r gwariant. Mae’n effeithio ar ganol trefi, mewnfudo, hyd yn oed ar dai.
  • “Dylid ystyried cost a llywodraethiant y byrddau a’r paneli cyhoeddus – mae llywodraeth gysgodol o Fyrddau a Phaneli yn costio arian ac yn rhoi ffordd i weinidogion Cymru osgoi cyfrifoldeb. Etholir ac ariannir y Senedd i redeg Cymru. Nid oes angen cynnal y ‘mawrion a’r crachach’ hefyd.
  • “Ni ddylid defnyddio cronfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyrff Anllywodraethol (NGOau) gyda safbwyntiau gwleidyddol ymylol. Er enghraifft, ni ddylid cefnogi NGOau sy’n ymgyrchu dros ganiatáu i ddynion gael mynediad i leoliadau i fenywod.
  • “Dylid atal cymorthdaliadau i ynni adnewyddadwy fel fferm solar Cwm Ifor sy’n dinistrio tir amaethyddol da.

“Os caf fy ethol i’r Senedd ni allaf gyflawni’r cyfan ar unwaith yn fy nhymor cyntaf, ond gallaf wneud cynnydd a gobeithio ennill cefnogaeth ymgeiswyr eraill Gwlad dros amser.”

Pe cawn fy ethol i’r Senedd byddwn i a Gwlad yn gweithio’n ddiflino i ddwyn y meini i’r wal yn yr amser byrraf posibl.

YMUNWCH Â GWLAD HEDDIW

1 thought on “Gwlad yn Dewis Ymgeisydd i Gaerffili”

  1. Ardderchog, Gobeithio eich gweld yn y cyfarfod Gwlad yng Nghaerffili mewn ychydig o wythnosau. (gyda’n chwaer hefyd).
    Pob lwc i Anthony Cook.

    Ateb

Leave a Comment