Gwyn i ymladd Ceredigion Penfro

Bydd Arweinydd ein Plaid, Gwyn Wigley Evans, yn sefyll dros Gwlad yn Etholaeth Ceredigion a Phenfro.

Meddai Gwyn:

“Nid casgliad o hen lawiau gwleidyddol proffesiynol yw Gwlad. Mae ein polisïau’n ymarferol, ac mae gan bob un o’n hymgeiswyr brofiad y tu allan i wleidyddiaeth, ym myd busnes.

Ar sail fy ngwaith fel cynghorydd sir yng Ngheredigion, mae sawl un wedi gofyn imi sefyll dros y Senedd, gan nad oes yr un blaid arall yn dadlau dros yr hyn yr ydym ni’n ei wneud. Daw GWLAD â syniadau newydd, yn enwedig ar yr economi, busnesau bach, ffermio, manwerthu a thwristiaeth. Felly dyma’ch cyfle chi nawr i wneud gwahaniaeth drwy bleidleisio dros GWLAD.

Mae gan Blaid Cymru etifeddiaeth o fethiant yng Ngheredigion – rydych chi wedi’i weld, ac rydym ni’n byw drwyddi. O’m profiad o lywodraeth, yn lleol ac yn genedlaethol yn Ewrop, rwy’n gwybod nad oes rhaid i Gymru fod fel hyn. Mae sefyllfa’r etholaeth wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf. Gyda llai a llai o gyfraniad gan y Senedd, mae angen dybryd am lais cyson i gynrychioli eich anghenion.

Mae GWLAD yn sefyll yn groes i dyrbinau gwynt a’r peilonau anochel, sy’n difetha ein treftadaeth, ein bywydau a’n cartrefi. Mae’n NA. Fi yw’r unig lais sy’n sefyll yn glir yn erbyn diwydiannu ein cefn gwlad gwerthfawr. Rwy’n cael fy atgoffa’n ddyddiol, wrth weld y wal

Cofiwch Dryweryn, mai hwn yw ein Tryweryn ni. Rydym yn cefnogi ynni cynaliadwy o ddŵr a solar ar adeiladau, ond nid ffermydd gwynt ar y tir.

Rwy’n gefnogwr cryf ac uchel fy llais dros amaethyddiaeth a’r cefn gwlad, a byddwn yn blaenoriaethu SFS ymarferol, dileu’r NVZ blanced, dilyn y wyddoniaeth nid gwleidyddiaeth i ddileu TB buchol, a lobïo’n galed i gael gwared ar y dreth etifeddiant drychinebus – nid ar gyfer ffermio’n unig.

Yn rhannol oherwydd diffyg cyllid gan y Senedd, roedd yr ymosodiad ar ysgolion gwledig rhagorol yn anfaddeuol, ac rwy’n falch o sefyll gyda phobl eraill yn erbyn y bwlio – ac o ennill.

Rydym yn gwybod y gall Cymru fod yn well. Dylai fod. Rydym yn ei haeddu. Ein hawl ni ydyw fel cenedl.

Mae angen rhywun i leisio hyn yn y Senedd. Fi yw’r llais hwnnw.

Yn yr etholiad hwn, mae pob pleidlais unigol yn cyfrif, a byddwn yn ddiolchgar iawn am eich pleidlais chi.”

Cefnogwch Gwyn ar Facebook yma

Rhowch hwb bellach i’n hymgyrch gyda rhodd drwy ein Crowdfunder

Leave a Comment