
Mae mewnfudo yn bwnc sydd wedi bod yn berwi yn y cefndir ers sawl degawd, ac wrth gwrs rwyf wedi ysgrifennu amdano o’r blaen ar y llwyfan hwn.
Ond mae’n hysbys i bawb ei fod, yn ystod y misoedd diwethaf, wedi codi i ben yr agenda fel erioed o’r blaen. Ac eto, mae’n dal i fod yn bolisi pendant gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru i gynyddu mewnfudo i Gymru, drwy’r cynllun o’r enw ‘Cenedl Noddfa’.
Fel Gwlad, rydyn ni wedi ceisio dweud cyn lleied â phosibl am y pwnc hwn yn y gorffennol, gan fod gennym lawer mwy o ddiddordeb yn economi Cymru. Ond erbyn hyn, mae wedi dod yn fater cyhoeddus mor amlwg nes ei bod hi’n amhosibl ei hanwybyddu.
Yn gyntaf, fodd bynnag, mae rhaid ailadrodd y ffaith fod Cymru yn wlad wahanol i Loegr. Er bod mewnfudo torfol i’r DU yn peri heriau sylweddol i Gymru, mae’r heriau hynny’n wahanol i’r rhai sy’n wynebu Lloegr.
Nid Lloegr mo Gymru
Mae hyn yn bwysig oherwydd, yn anochel, daw profiad y rhan fwyaf o bobl â’r materion hyn drwy’r cyfryngau Seisnig. Wrth i broblemau Lloegr gael eu gosod ger eu bron, nid yw’n syndod bod cynifer o etholwyr yng Nghymru yn cael eu denu gan ReformUK a’u hatebion Seisnig. Mae’n gwbl bosibl credu bod polisïau ReformUK yn addas ar gyfer Lloegr, tra’n meddwl ni fyddent o fudd i Gymru o gwbl.
Yn wahanol i Loegr, mae Cymru’n wynebu problem fawr o allfudo. Er ei bod hi’n anodd dod o hyd i ffigurau manwl gywir, amcangyfrifir bod cymaint â 40% o bobl ifanc o ardaloedd gwledig Cymru – yn enwedig yr ardaloedd Cymraeg – yn gadael i chwilio am gyfleoedd mewn mannau eraill. Mae hyn hefyd yn wir am y bobl ifanc fwyaf galluog, boed o ardaloedd gwledig neu drefol: nid oes gan Gymru brifysgol ‘elitaidd’, gyda Chaerdydd yr unig aelod o’r Grŵp Russell. Yn aml, bydd myfyrwyr uchelgeisiol o Gymru yn anelu at brifysgolion enwog yn Lloegr, ac os cânt lwyddiant, prin iawn fydd y rhai sy’n dychwelyd i Gymru i weithio. Mae’r diffyg ddosbarth canol sector preifat, sy’n cynnig swyddi da i raddedigion a chrefftwyr medrus, yn gwaethygu’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy. Gyda’i gilydd, mae’r cyfuniad hwn o ardaloedd gwledig yn wagio a’r ‘ymfudiad ymennydd’ yn creu llu o broblemau i’r economi ac i gymdeithas yn ehangach – ac fe ddof yn ôl at rai ohonynt yn nes ymlaen yn yr erthygl hon. Mae angen atebion cynhwysfawr ac amlochrog i’r sefyllfa – sydd y tu hwnt i gwmpas uniongyrchol yr erthygl hon – ond yn rhy aml caiff ei hanwybyddu’n llwyr mewn trafodaethau ehangach am fudo.
Yn ail, mae’r lefel o fewnfudo i Gymru o leoedd y tu allan i’r DU, boed hynny’n gyfreithlon neu’n anghyfreithlon, yn llawer is na’r lefelau yn Lloegr. Yn Slough, er enghraifft (man lle y symudodd llawer o bobl o Gymru iddo yn ystod y Dirwasgiad yn y 1920au a’r 30au), dim ond 36% o’r boblogaeth a nododd eu bod yn “wyn[1]” yn 2022. Yng Nghaerlŷr roedd y ffigur yn 40.9%, yn Luton 45.2%, ac yn Birmingham 48.6%. Yn Llundain, mae’r boblogaeth yn gyffredinol yn 53.8% yn wyn ond dim ond 36.8% yn “wyn Prydeinig”; roedd mwyafrif an-wyn mewn deg allan o dddeudeg-ar-hugain bwrdeistref Llundain, tra bod trigolion gwyn yn Newham, Brent a Redbridge wedi’u lleihau i un ran o dair.
Yng Nghymru, o’i gymharu, y lle gyda’r canran uchaf o drigolion an-wyn yn 2023 oedd – fel y gellid disgwyl – Caerdydd, ond roedd y ddinas o hyd yn 85.6% gwyn. Roedd Casnewydd yn debyg, ar 85.9%, ond roedd y ganran yn Abertawe llawer uwch, sef 93.1%. Roedd canran y trigolion gwyn yn Rhondda Cynon Taf yn 94.5%; yn Wrecsam, 95.4%; yn 97.4% yng Nghaerffili, 98.3% yn Nhorfaen, ac dros 99% ym Merthyr, Blaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr. Yn gyffredinol, Cymru yw’r ardal fwyaf ‘wyn’ yn y DU gyfan.
Yn wir, mae’r gwahaniaeth rhwng y Cymoedd a’r ardaloedd ôl-ddiwydiannol tebyg yng Ngogledd Loegr yn drawiadol iawn – er enghraifft, dim ond 60.4% o bobl yn Blackburn sy’n wyn.
Dylai’r ffeithiau a’r ystadegau uchod fod yn ddigon erbyn hyn i wneud y pwynt: er bod mewnfudo wedi cael effaith drawsnewidiol ar rannau helaeth o Loegr – p’un a ydych yn ystyried y newid hwnnw’n beth da neu’n beth drwg – nid yw’r un peth yn wir am Gymru.
Ond nid yw hynny’n golygu nad yw Cymru’n cael ei heffeithio gan yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr; mae’n dal i fod yn gymydog i ni. Gadewch inni edrych yn fanylach nawr ar natur y mewnfudo torfol hwn i Loegr.
Mewnfudo i Loegr
Pan fydd mewnfudo i Loegr yn cael ei drafod, y ddelwedd sy’n dod i feddwl y rhan fwyaf o bobl ar unwaith yw’r cychod bach sy’n glanio ar arfordir y De.
Mae hynny’n digwydd, wrth gwrs, ac mae nifer sylweddol o bobl yn cyrraedd yn y modd hwn, ond dim ond diferyn yn y môr ydyn nhw (os maddeuwch chi’r chwarae geiriau) o’u cymharu â’r niferoedd mawr sy’n mewnfudo’n gyfreithlon drwy ddulliau arferol – ar longau neu ar awyrennau.
Yn ôl y ffigurau mwyaf diweddar y gallaf ddod o hyd iddynt, tua 40,000 o bobl sy’n cyrraedd yn Lloegr bob blwyddyn ar ‘gychod bach’, tra bod y nifer sy’n cyrraedd yn gyfreithlon ychydig yn llai na 1.2 miliwn – ac mae tua 90% o’r rheiny (dros filiwn o bobl) yn dod o’r tu allan i’r UE. Mewn geiriau eraill, dim ond tua 4% o’r mewnfudo i’r DU sy’n dod drwy’r dull y mae pawb yn siarad amdano fwyaf.
Mae rhywfaint o reswm dros hynny. Mae mewnfudwyr cyfreithlon (y garfan fwyaf ohonynt yn dod o India, gyda Nigeria wedyn, ac yna Pacistan) fel arfer yn cael eu ‘disgwyl’ gan y cwmnïau y byddant yn gweithio iddynt, y sefydliadau addysg uwch y byddant yn astudio ynddynt, neu eu teuluoedd. Bydd llety wedi’i drefnu, a rhyw fath o gefnogaeth ariannol ar gael. Yn amlach na pheidio, byddant yn setlo mewn trefi a dinasoedd mawr, lle mae mwy o swyddi ac addysg ar gael, ac mae cymunedau a theuluoedd eisoes yn bodoli iddynt ymuno â nhw.
Mae’r sefyllfa’n wahanol iawn ar gyfer mewnfudwyr anghyfreithlon. Maent yn cyrraedd heb lety nac incwm, ac oni bai eu bod i gael eu gadael yn ddigartref ar y traeth neu eu hanfon yn syth yn ôl i Ffrainc, mae’n rhaid i’r llywodraeth ddarparu’r ddau beth. Mae hyn yn cael effaith syth ac amlwg ar gyllid cyhoeddus, ac ar yr ardaloedd lle y ceir llety iddynt – gan gynnwys sawl man yng Nghymru hefyd (byddwn yn dychwelyd at hyn nes ymlaen).
Felly mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf fod mewnfudo anghyfreithlon yn cario cost economaidd uniongyrchol. Mae’r goblygiadau economaidd o fewnfudo cyfreithlon yn fwy cynnil. Mae llawer o fewnfudwyr medrus iawn yn gwneud cyfraniad positif i’r economi yn gyffredinol – tan iddynt gyrraedd oedran ymddeol, wrth gwrs. Ond mae nifer sylweddol (gan gynnwys aelodau o’u teulu sy’n cael dod gyda nhw) yn dechrau derbyn budd-daliadau ar unwaith wrth gyrraedd. Mae canran sylweddol (yn enwedig o fewn y gymuned Fwslemaidd) byth yn mynd i mewn i gyflogaeth. Yn gyffredinol, mae’r mwyafrif o amcangyfrifon yn awgrymu bod effaith economaidd net mewnfudo ar y DU fel cyfan tua 1% yn y naill gyfeiriad neu’r llall o CMC – sef yn rhy fach i’w chanfod yn glir, ond ychydig yn fwy tebygol o fod yn negyddol nag yn bositif.
Felly mae’n rhaid gofyn y cwestiwn: a yw cynnydd o 1% yn y CMC wedi bod yn werth ei gael – ar draul trawsnewidiad cymdeithasol rhannau helaeth o Loegr?
“Ffoi’r Gwynion”
Un canlyniad i’r sefyllfa bresennol nad yw’n cael ei drafod yn aml yw’r hyn a elwir yn “ffoi’r gwynion”. Mae llawer o bobl sydd wedi cael eu magu mewn rhannau o Loegr lle, oherwydd mewnfudo, nad ydynt bellach yn teimlo’n gartrefol, yn chwilio am lefydd eraill i fyw. Ac wrth i ni weld, fel y soniwyd uchod, mai Cymru yw’r rhan fwyaf ‘wyn’ o’r DU, mae llawer o’r bobl hyn yn ei gweld fel lle deniadol i symud iddo.
Felly nid yw’r ffaith fod gan Gymru lawer llai o fewnfudwyr du neu Asiaidd nag sydd gan Loegr yn golygu ein bod ni’n profi llai o fewnfudo – yn hytrach, rydym yn profi math gwahanol o fewnfudo: mewnfudo o bobl wyn o Loegr, yn hytrach na phobl an-wyn o’r tu allan i’r DU. Gall yr effaith ar y cymunedau sy’n eu derbyn, yn enwedig os ydynt mewn ardaloedd gwledig a/neu siaradwyr Cymraeg, fod yr un mor bellgyrhaeddol.
Mae yna eironi hanesyddol yn hyn oll. Yn y cyfnod ar ôl y Rhufeiniaid, wrth i niferoedd y Sacsoniaid gynyddu yn raddol yn yr hyn sydd bellach yn Loegr (gan gael eu gwahodd i ddechrau gan y Brythoniaid brodorol, ond yn gynyddol wedyn gwahodd eu hunain), symudodd Brythoniaid digartref i Gymru, lle cadwyd iaith a chrefydd cyn-Sacsonaidd yn fyw. Mae rhai (fel Ben Llywelyn yn y fideo YouTube diddorol hwn) yn gweld y broses hon yn ailadrodd ei hun, gyda ‘ffoaduriaid’ o Loegr yn chwilio am noddfa yng Nghymru.
Hyd yn oed os yw hynny’n or-ddweud, nid oes amheuaeth fod y gyfradd o fewnfudo o Loegr i Gymru yn cynyddu, ac mae hynny’n cyflwyno Cymru â her ddiwylliannol ac economaidd – sef cadw ei diwylliant unigryw (yn ei ffurf Gymraeg a Saesneg) yn fyw, ac arbed teuluoedd Cymreig – sy’n llawer tlotach ar gyfartaledd na’r rhai sy’n dod o Loegr – rhag cael eu prisio allan o’u cartrefi.
Mewnfudo i Gymru
Felly, gan ystyried y pethau hyn, gallwn nodi tri math gwahanol o fewnfudo i Gymru, pob un â nodweddion penodol a goblygiadau cost/budd wahanol.
Mewnfudo cyfreithlon o’r tu allan i’r DU
Mae hyn yn cyfateb â’r prif ffynhonnell fewnfudo i Loegr, ond ar raddfa llawer llai. Ac eithrio rhai ardaloedd yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe lle mae cymunedau lleiafrifol wedi hen ymsefydlu, nid yw’n arbennig o amlwg yng Nghymru yn ei chyfanrwydd.
Serch hynny, mae’r ddadl ei fod yn angenrheidiol yn wir am y tro: nid yw Cymru’n cynhyrchu unrhyw beth agos at ddigon o feddygon, deintyddion, fferyllwyr – nac arbenigwyr proffesiynol eraill – i ddiwallu ei hanghenion.
Fel y soniwyd yn gynharach yn yr erthygl hon, mae myfyrwyr o Gymru a allai lenwi’r bylchau hyn yn aml yn gadael, cyn neu ar ôl eu hyfforddi, i chwilio am gyfleoedd gwell y tu allan i Gymru. Rhaid llenwi’r gwagle a adewir gan hynny mewn rhyw ffordd, ac mae dod â phobl hyfforddedig o’r tu allan i’r DU yn parhau i fod y ffordd fwyaf realistig. Bydd hyn yn parhau nes y gellir mynd i’r afael â’r problemau ehangach sy’n wynebu economi Cymru – rhywbeth nad yw wedi digwydd dan unrhyw un o’r llywodraethau datganoledig dan arweiniad Llafur ers Datganoli ac nad oes gan ReformUK unrhyw gynigion ar ei gyfer chwaith.
Mewnfudo anghyfreithlon o’r tu allan i’r DU
Fel y soniwyd yn gynharach, mae hwn yn llawer mwy weladwy na mewnfudo cyfreithlon, gan fod rhaid sicrhau llety i’r rhai sy’n cyrraedd, ac mae hynny fel arfer yn golygu meddiannu adeiladau lleol – gyda’r enghraifft fwyaf adnabyddus yn cael ei chynnig gan westy Stradey Park yn Llanelli.
Roedd helynt Stradey Park yn waith y Clearsprings Group, y cwmni o Essex sy’n eiddo i’r biliwnydd Graham King, ac sydd â’r cytundeb gan y Swyddfa Cartref i letya mewnfudwyr anghyfreithlon. Mae ganddynt nifer o eiddo ledled Cymru ac maent wedi sicrhau llety yn Lynx House yng Nghaerdydd ac yn hen wersyll hyfforddi’r fyddin ym Mhenalun, Sir Benfro. Roedd Gwesty Northop Hall yn Sir y Fflint bron â dioddef yr un tynged, er yn ôl pob tebyg drwy gwmni arall.
Er hynny, dyma’r un categori lle mae’r ateb yn glir: nid yw’r broblem hon yn ddim i’w wneud â Chymru. Nid oes unrhyw fewnfudwyr anghyfreithlon na cheiswyr lloches yn cyrraedd yma’n uniongyrchol; nid yw cychod bychain yn glanio ar draeth Porthcawl. Mae’r holl fewnfudwyr anghyfreithlon sy’n cyrraedd Cymru wedi cael eu gorfodi yma gan San Steffan. Nid yw llawer ohonynt hyd yn oed eisiau bod yma, ac maent yn erfyn cael eu hanfon yn ôl i Loegr. Nid yw’r system gyfan yn elwa neb – ac eithrio’r landlordiaid sy’n darparu’r llety, y gweision sifil sy’n gweinyddu’r system, a’r rhai yn yr economi ddu sy’n elwa ar lafur anghyfreithlon sy’n isel ei gost.
Yn ein barn ni, dylai Cymru, hyd eithaf y gyfraith, wrthod derbyn neu letya pobl o’r fath. Dylai cynghorau wrthod darparu llety, ac yn gyfreithiol atal y rhai sy’n gwneud hynny.
Mewnfudo o fewn y DU, yn bennaf o Loegr
O dan bwerau presennol Llywodraeth Cymru, nid oes modd iddi reoli mewnfudo o Loegr yn uniongyrchol. Ond nid yw hyn yn wir am bob rhan arall o Ynysoedd Prydain sy’n dal o fewn awdurdodaeth y Goron Brydeinig.
Mae Ynysoedd y Sianel yn dilyn model yr ydym ni’n credu fyddai’n gweithio’n dda iawn yng Nghymru, lle caiff tai mewn rhai ardaloedd eu cadw ar gyfer dinasyddion neu unigolion cymeradwy yn benodol (fel arfer unigolion cyfoethog iawn sy’n ymrwymo i dalu trethi dros lefel benodol) – gan felly gydbwyso’r angen i sicrhau bod trigolion presennol yn gallu dod o hyd i gartrefi, gyda’r posibilrwydd o groesawu mewnfudwyr a fydd yn gwneud cyfraniad economaidd cadarnhaol.
Mae wedi bod yn bolisi Gwlad ers tro i gyflwyno system o’r fath yng Nghymru, ac er nad yw’n gofyn am annibyniaeth lawn, mae’n gofyn am fwy o bwerau nag sydd gan Gymru ar hyn o bryd.
Y cyfan y gall Cymru ei wneud ar hyn o bryd yw gweithredu’n anuniongyrchol:
– Yn bwysicaf oll, dod â dirywiad economaidd cronig Cymru i ben drwy wrthdroi polisïau presennol Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn arafu’r gyfradd y mae pobl ifanc yn gadael y wlad – gan adael gwacter sy’n cael ei lenwi’n anochel – a lleihau’r gwahaniaethau pris tai rhwng Cymru a Lloegr, sy’n gwneud Cymru’n gyrchfan ddeniadol i lawer o bobl o Loegr.
– Cael gwared ar addysg cyfrwng Saesneg yn raddol yn yr ardaloedd lle mae hyn fwyaf ymarferol (yn enwedig mewn ardaloedd â chyfrannau uchel o siaradwyr Cymraeg, ac felly athrawon Cymraeg eu hiaith), fel y bydd plant y mewnfudwyr hyn o leiaf yn gallu cymathu’n raddol dros amser.
Felly, i grynhoi… Mae Cymru wir yn wlad wahanol i Loegr. Nid yw problemau Lloegr yr un fath â rhai Cymru; nid yw atebion Lloegr, nac ychwaith ei phleidiau, yn mynd i’r afael ag anghenion Cymru.
Mae angen plaid ar Gymru sy’n Gymreig go iawn, sy’n siarad allan dros amddiffyn buddiannau Cymru, ac sy’n rhoi pobl Cymru yn gyntaf, uwchlaw unrhyw ystyriaeth arall.
Ni welwn yr un blaid arall yn gwneud hynny – a dyna pam y sefydlwyd Gwlad. Os ydych chi’n malio am uniondeb Cymru, am economi Cymru, ac yn fwy na dim am ddyfodol Cymru fel cenedl unigryw, ni fyddwch yn dod o hyd i neb arall sy’n cymryd y materion hyn o ddifrif. Ymunwch â ni heddiw.
Atodiad I – Pam mae hyn i gyd yn bwysig
I ddweud beth sy’n amlwg: mae’r rhan fwyaf o bobl, y rhan fwyaf o’r amser, yn dymuno byw ymhlith pethau ac ymhlith pobl sy’n gyfarwydd iddyn nhw. Dyna pam mae gwledydd yn mynd i ryfel; oherwydd bod eu pobl yn well ganddyn nhw, ar y cyfan, beidio â gweld eu gwlad yn cael ei newid y tu hwnt i adnabod gan gymdogion, rheolwyr a defodau nad ydynt wedi’u dewis ganddynt.
Ni fynegwyd hyn yn well na gan G.K. Chesterton yn ei lyfr “The Everlasting Man”, a gyhoeddwyd union ganrif yn ôl:
“A man does not want his national home destroyed or even changed, because he cannot even remember all the good things that go with it; just as he does not want his house burnt down, because he can hardly count all the things he would miss.”
Rydym ni yn Gwlad yn genedlaetholwyr diamheuol – nid am ein bod yn credu fod Cymru’n well na neb nac fod pobl Cymru’n uwch na’u cymdogion – ond am mai hon yw ein cartref. Rydyn ni’n hoff ohoni, ac rydyn ni’n dymuno iddi gadw ei hunaniaeth unigryw, a gwneud hynny wrth ei gwella – yn enwedig drwy ddianc o dlodi’r ganrif ddiwethaf dan reolaeth y Blaid Lafur.
Nid yw safbwynt o’r fath yn cau’r drws ar bawb sydd am ddod yma; ond nid yw’n cyd-fynd ag agwedd o ffiniau agored na’r syniad mai dim ond darn o dir yw Cymru, y gall unrhyw un hawlio cyfran ohoni.
Atodiad II – Pam mae Enoch Powell yn cael y bai, a pham mae’n anodd alltudio mewnfudwyr anghyfreithlon
Yn meddyliau llawer o bobl, y person mwyaf dadleuol – a’r foment fwyaf dadleuol – mewn unrhyw drafodaeth am fewnfudo yw Enoch Powell, a’r araith enwog o’r enw “Rivers of Blood” a draddododd ar Ebrill 20fed, 1968. Ond ychydig iawn sydd erioed wedi darllen y testun llawn. Mae modd dod o hyd iddo yma.

Y peth cyntaf i’w nodi yw nad yw’r term “rivers of blood” yn ymddangos ynddi o gwbl. Roedd Powell yn ysgolhaig clasurol, ac yn agos at ddiwedd yr araith mae’n dyfynnu llinell o’r Aeneid gan Virgil, lle mae’r bardd yn ofni am ddyfodol Rhufain ac yn dweud: “Rwy’n gweld rhyfeloedd, rhyfeloedd arswydus, a’r Tiber yn ewynnu â gwaed.”
Mae llawer o’r araith yn swnio’n eithaf ysgafn erbyn safonau heddiw, gan sôn am niferoedd o fewnfudwyr sy’n ymddangos yn ddibwys erbyn hyn. Ymddengys mai’r casineb tuag ati yn deillio’n bennaf o dri syniad sy’n cael eu hystyried yn ffiaidd heddiw:”
1. Mae’n mynegi pryderon pobl sy’n byw mewn ardaloedd lle roedd cymunedau mewnfudwyr yn dechrau ffurfio, ac yn amddiffyn eu hawl i ffafrio byw ymhlith pobl o’u cenedl eu hunain yn eu gwlad eu hunain.
2. Mae’n codi’r posibilrwydd o “ail-fudo” – hynny yw, cynnig cymhellion ariannol i fewnfudwyr ddychwelyd i’w gwledydd gwreiddiol. Nid yw’n defnyddio’r gair ‘alltudio’ yn unman, nac yn awgrymu y dylai hyn fod yn orfodol.
3. Mae’n mynnu y dylai pob dinesydd yn y DU fod yn gyfartal gerbron y gyfraith, ac yn mynegi pryder bod rhai cymunedau mewnfudwyr yn galw am gael eu heithrio rhag deddfau y mae disgwyl i ddinasyddion ‘brodorol’ eu dilyn.
Serch hynny, y rheswm am y feirniadaeth hallt a gafodd yr araith ar y pryd, hyd y gallaf ddeall, oedd nid gymaint yr hyn a ddywedodd ynddi, ond y posibilrwydd y gallai hyd yn oed trafod y pethau hyn arwain at aflonyddwch cymdeithasol.
Beth bynnag, cafodd Powell ei ddemonïo ac yna’i roi o’r neilltu’n llwyr, ac ers hynny mae wedi bod yn hunanladdiad gwleidyddol i unrhyw un arall godi’r un cwestiynau.
Ers hynny, mae dau ddigwyddiad arall wedi gwneud y pwnc hyd yn oed yn fwy o “dir diffaith”. Y cyntaf oedd llofruddiaeth y glaslanc du Stephen Lawrence yn 1993, a arweiniodd at ddisgrifiad o’r Metropolitan Police fel “hiliaeth sefydliadol” oherwydd eu hymateb gwan a’r methiant cychwynnol i sicrhau euogfarn.
Yr ail oedd sgandal Windrush yn 2018, pan geisiodd Swyddfa Gartref y DU alltudio nifer o bobl yr oeddent yn credu’n anghywir eu bod yn fewnfudwyr anghyfreithlon – er bod y bobl hynny yn hollol gyfreithlon yma.
Canlyniad yr achosion hyn oedd sensitifrwydd eithafol ynghylch troseddu sy’n ymwneud â phobl an-wyn, ac amharodrwydd i alltudio mewnfudwyr anghyfreithlon oni bai fod rhwystrau cyfreithiol uchel iawn yn cael eu goresgyn – gan wneud y broses yn un gostus ac, yn aml, anymarferol.
Atodiad III – Cenedlaetholdeb “Gwaed a Phridd” ymhlith pobl Gymreig rhyddfrydol barchus
Mae cenedlaetholwyr cymhedrol yn hoff o ddweud, ac rwyf finnau wedi ysgrifennu hynny lawer gwaith, fod croeso i fewnfudwyr i Gymru ar yr amod eu bod yn cymathu’n llawn – dysgu’r iaith, cofleidio’r diwylliant, fel eu bod, yn y pen draw, yn anodd eu gwahaniaethu’n ddiwylliannol oddi wrth y boblogaeth ‘frodorol’. Mae Simon Brooks wedi ysgrifennu’n huawdl am sut roedd hyn yn digwydd yn dawel ers cenedlaethau, heb neb fawr sylwi. Dim ond gydag ysgytwadau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan ddaethpwyd i sylweddoli am y tro cyntaf bod yr iaith mewn perygl difrifol, y bu’n rhaid dod o hyd i ffyrdd eraill o ddiffinio pwy oedd yn Gymry, a phwy ddim.
Mae galw rhywun yn “genedlaetholwr gwaed a phridd” fel arfer yn cael ei ystyried yn sarhaus – bron yn gyfystyr â “morloch llygad-goch” mewn rhai cylchoedd – ac mae’r uchod i gyd yn wir, ond dim ond i fyny at bwynt penodol. Yn y pen draw, mae angen i genedl allu pwyntio at ryw fath o rwymiad cyffredin rhwng y tir a’r bobl sy’n byw arno – rhwymiad sy’n mynd yn ôl, yn ddelfrydol, sawl cenhedlaeth o leiaf. Does ond angen edrych ar y caneuon – yn enwedig y rheiny yn y Gymraeg – sy’n cael eu canu’n angerddol gan bobl Gymreig sydd yn ystyried eu hunain yn rhyddfrydol a gwrth-hiliaidd o’r radd flaenaf, i weld pa mor amlwg yw hyn.
Dyma sut mae ein Hanthem Genedlaethol ‘swyddogol’ yn dechrau:
“Mae’r hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi…”
…ond a ellir dal i ganu hynny pan fydd cyfran sylweddol o bobl y wlad wedi cael tadau – neu o leiaf hynafiaid diweddar – o wledydd pell?
Dyma’r anthem ‘answyddogol’:
“Aeth Magnus Maximus o Gymru yn y flwyddyn 383, a’n gadael yn genedl gyfan, a heddiw wele ni – ry’n ni Yma o Hyd!”
Sut gall pobl fod “yma o hyd” os nad oedd eu hynafiaid erioed yma i ddechrau?
A dyma eiriau’r gân “Eryr Pengwern” gan Gwmni Theatr Maldwyn, a ganir yn aml ar S4C ac mewn cyngherddau ysgol:
“Fe roddwyd gwlad, fe roddwyd caer a thir i’m gofal, fe roddwyd gwlad…”
“Fe roddwyd tras, fe roddwyd hil i mi anwylo, fe roddwyd tras;
Fe roddwyd gwaed, y gwaed fydd eto ar fy nwylo, fe roddwyd gwaed.”
Unwaith eto, mae’n anodd cyfuno hynny â’r syniad o genedl sy’n cael ei chynnal yn unig gan werthoedd cyffredin honedig – heb gysylltiadau â’r tir, â’r teulu, nac, ie, â’r gwaed.
Felly, yn y pen draw, er mwyn i genedl fod yn gydlynol ac yn unigryw, mae’n hanfodol bod gan gyfran uchel o’i phoblogaeth ryw lefel o gynefin genedigol yn ogystal â diwylliant a chymeriad cyffredin.
Mae’n wir bod cenedloedd llwyddiannus yn gallu ffurfio – ac wedi gwneud hynny – heb y nodweddion hyn; yr enghreifftiau amlwg yw’r Unol Daleithiau a Chanada. Ond mae’r berthynas gyfredol rhyngddynt yn dangos pa mor ansad y gall trefniant o’r fath fod yn y bôn. Beth sy’n eu gwneud yn wahanol? Yn achos Canada, mae’n amheus a yw “dim yn UDA” yn ddigon ynddo’i hun. Yn yr un ffordd, mae’n rhaid i Gymru fod yn fwy na “dim yn Lloegr”.
Mewn geiriau eraill: gallwn, ac fe ddylem, groesawu pobl i mewn – ond mae’n rhaid i ryw ni fodoli yn y lle cyntaf, fel rhywbeth y gall pobl gael eu croesawu iddo.
[1] Wrth gwrs rwy’n gwybod bod llawer o bobl ‘gwyn’ yn hanu o’r tu allan y DU, a bod llawer o bobl an-wyn yn cael ei geni yn y DU. Rwy’n gwybod hefyd fod llawer o bobl an-wyn wedi eu cymathu cymaint fel bod lliw eu croen yn hollol amherthnasol. Ond fy unig nod wrth ddefnyddio’r ffigyrau hyn yw mynegi’r gwahaniaeth rhwng y sefyllfa yng Nghymru a’r un yn Lloegr.