MAE’N wybyddus i lawer ers tro cyn lleied o ddiddordeb sydd gan Llafur Cymru yng ngefn gwlad, ac mewn materion amaethyddol yn gyffredinol mewn difri.
Ond a hithau’n wythnos y Sioe yn Llanelwedd, mae’r diffyg deall a chydymdeimlad hwn wedi dod yn amlycach i bawb bellach.
Nawr mae Undeb yr NFU yn cyhoeddi na allent gymryd rhan yng ngynllun plannu coed y Llywodraeth, sy’n mynnu bod rhaid i bob fferm neilltuo 10% o’u tir ar gyfer plannu coed o hyn allan, ar gyfer cyfarfod cynlluniau newid hinsawdd Llafur
Yn ol Gwlad – Plaid Annibyniaeth Cymru – mae’r polisi yn esiampl bellach o ddihidrwydd Llafur at gefn gwlad a phobol cefn gwlad.

“Mae Mark Drakeford yn trin ffermwyr fel pe baen nhw’n gyflogedig gan y Llywodraeth – ac felly’n gorfod gwrando ar y bos yng Nghaerdydd” meddai Arweinydd Gwlad, Gwyn Wigley Evans.
“Y ffermwyr eu hunain biau eu tir a nhw ddylai benderfynu sut i reoli eu tir – nid Mark Drakeford, sy’n deall affliw o ddim am amaethyddiaeth” meddai.
Ychwanegodd bod Gwlad yn cydymdeimlo’n llwyr gyda safiad yr NFU gan ei fod yn cynrychioli barn trwch ffermwyr yma.
“Mewn difri – pa fusnes arall fyddai’n fodlon ildio 10% o botensial eu busnes – heb unrhyw warant o gyllid digonol i wneud yn iawn am hynny?” meddai.
“A fydden nhw’n meiddio gofyn i’r WRU neu FAW am ildio 10% o botensial eu caeau nhw ar gyfer yr un diben?”
Anghysondeb
Mae’r polisi diweddaraf hwn gan Lafur Cymru a’u brwdfrydedd newydd dros blannu coed hefyd yn ymddangos yn gwbwl groes i’w polisi diweddar eu hunain.
O gofio eu bod wedi torri lawr 4 miliwn o goed dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru er mwyn codi melinau gwynt ymhob man.
Gyda mwy fyth o melinau gwynt hyd yn oed yn fwy eu maint ar eu ffordd ar gyfer cefn gwlad ganddynt; a chwmni mawr o’r Alban – Bute Energy – yn paratoi i fanteisio ar y chwalu hyn ar gymunedau gwahanol trwy Gymru.
Newyddion Gwell
Eto roed
d yna stori newyddion bositif iawn yn y sioe yr wythnos hon gyda’r newydd fod allforion y sector bwyd a diod Cymreig i’r Undeb Ewropeaidd werth £549 miliwn yn 2022.
Cynnydd o bron i 25% ar ffigyrau 2021.
Mae gan y sector hon lawer o le i dyfu eto yn y dyfodol, ond gyda’r sector amaeth yn rhan allweddol ohono.
Byddai cael llywodraeth sy’n cefnogi amaethyddiaeth ac yn cefnogi cefn gwlad yn gwneud y dasg honno cymaint yn haws.
A byddai’n help hefyd cael Prif Weinidog sydd yn gallu defnyddio’i amser yn well na ryw wag ddyfalu “Pam nad yw ffermwyr yn gallu tyfu coed?”!