
Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi lansiad cangen Cwm Rhymni a Chwm Sirhywi Gwlad, sef yr ychwanegiad diweddaraf at deulu o grwpiau lleol Gwlad.
Bydd y gangen newydd hon yn cwmpasu’r ardal sy’n cynnwys Ystrad Mynach, Hengoed, Gelligaer, Bargod, Rhymni, Coed Duon a Thredegar.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd arweinydd Gwlad, Gwyn Wigley Evans, “Rwyf wrth fy modd o glywed bod y gangen leol newydd hon o Gwlad eisoes wedi cynnal ei chyfarfod cyntaf. Rwy’n edrych ymlaen at fynychu un o’u cyfarfodydd yn y dyfodol agos iawn. Mae gennym grwpiau’n weithredol erbyn hyn mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys Aberconwy, Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe gyda rhagor ar y gweill.
“Gyda’r etholiadau i’r Senedd bellach ond ychydig fisoedd i ffwrdd, ac etholiadau cyngor yn codi bron bob dydd, gwelwn fod canghennau lleol yn chwarae rhan hanfodol wrth ledaenu neges Gwlad ar lawr gwlad.
“Neges Cymru annibynnol, obeithiol ac entrepreneuraidd yw hon, yn canolbwyntio ar economi sy’n tyfu ac yn ffynnu, wedi’i chefnogi gan lywodraeth ysgafn ei chyffyrddiad.”

Ychwanegodd Ant Cook, cadeirydd y gangen newydd, “Wedi byw yng Nghwm Rhymni am y rhan fwyaf o’m bywyd, heblaw am fy amser yn gwasanaethu gyda’r Gatrawd Gymreig Frenhinol, rwy’n gwybod o brofiad am yr heriau sy’n wynebu ein cymunedau yn y cymoedd hyn.
“Mae fy nheulu wedi bod yn rhan o hanes glofaol Cwm Rhymni ers cenedlaethau, ac rwy’n deall yr anawsterau a ddilynodd dirywiad ein diwydiannau traddodiadol. Mae polisïau Gwlad, sy’n seiliedig ar genedlaetholdeb Cymreig ac economi’r farchnad rydd gyda llywodraeth ysgafn ei chyffyrddiad, yn cynnig llwybr clir ymlaen.
“Ein cynllun yw creu economi fywiog ac hunangynhaliol drwy roi blaenoriaeth i’n heiddo ni ein hunain. Byddwn yn hyrwyddo busnesau bach a chanolig cartrefol, yn diwygio ardrethi busnes i’w helpu i ffynnu ac yn sicrhau bod y cyfoeth a grëir yma yn aros yma.
“Drwy gefnogi ein busnesau a’n entrepreneuriaid lleol, gallwn adeiladu economi wydn o’r gwaelod i fyny, gan roi cyflogaeth sgiliau uchel a gwerthfawr i bobl y cymoedd hyn. Bydd y ffyniant economaidd hwn yn ein galluogi i ailfuddsoddi yn ein cymunedau, gan wrthdroi cau cyfleusterau cyhoeddus pwysig fel canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, a chyllido asedau cymunedol newydd fel caeau chwarae gyda draeniad modern neu arwynebau 4G.
“Mae cyfoeth wedi’i allforio o’r cymoedd hyn, heb ddim yn cael ei roi yn ôl. Ac mae’r cyfoeth y gallem hawlio yn ôl i ni ein hunain wedi’i atal gan lywodraeth Lafur analluog. Bydd Gwlad yn newid hynny.
“Bydd Gwlad hefyd yn sicrhau bod hanes, iaith a diwylliant lleol Cymru yn ganolog i’r cwricwlwm ysgol. Drwy ddysgu ein plant am arwyr lleol fel Arglwydd Senghennydd Ifor Bach, a wrthododd ac a wrthwynebodd orchfygiad y Normaniaid yn y cymoedd hyn, ac am y frwydr a gafodd ein cymunedau glofaol, byddwn yn meithrin ymdeimlad cryf o falchder. Bydd y balchder hwn yn adeiladu cymunedau cryf, gwladgarol gyda chymhelliant ar y cyd i sicrhau dyfodol gwell a mwy ffyniannus i Gymoedd Rhymni a Sirhywi.
“Dim ond rhai o’r pethau niferus y gallwn eu dod â nhw i’r cymoedd hyn yw’r rhain. Rwy’n falch iawn fod gennym gangen yn yr ardal hon erbyn hyn a fydd yn cyflwyno neges Gwlad o bolisïau ymarferol, blaengar, wedi’u gyrru gan yr economi a fydd yn rhoi pobl Cymru, busnesau Cymru a diwylliant Cymru yn gyntaf.”
I ymuno, neu i gael gwybod mwy am ein cangen newydd, chwiliwch am Gwlad Rhymni and Sirhowy Valleys ar Facebook, neu ffoniwch Ant Cook ar 07795 194122